Y Dde Newydd

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: The New Right)

1. Cyflwyno’r Dde Newydd

Ideoleg wleidyddol a ddatblygodd yn ystod y 1970au yw’r Dde Newydd. Gan fod hwn yn symudiad a welwyd yn datblygu ar dde’r sbectrwm gwleidyddol, fe dueddir felly i drin y Dde Newydd fel ffrwd o syniadau sy’n perthyn i Geidwadaeth. Fodd bynnag, mae angen cydnabod nad un corff trefnus o syniadau cydlynol a gaiff eu dwyn ynghyd o dan label y Dde Newydd. Yn hytrach gellir ei ddehongli fel traddodiad sy’n cwmpasu dwy gangen – neoryddfrydiaeth a neogeidwadaeth - sy’n tynnu ar syniadau sy’n deillio o ddwy ffynhonnell wahanol.

Yn gyffredinol, mae gan y Dde Newydd safbwyntiau mwy traddodiadol tuag at faterion cymdeithasol megis y teulu a thlodi.

2. Y Tanddosbarth

Yn negawdau diwethaf yr ugeinfed ganrif, dadleuai’r Dde Newydd fod polisïau llywodraeth wedi tanseilio'r uned deulu ac o ganlyniad wedi cyfrannu at dlodi. Roedd y Dde Newydd yn credu bod y wladwriaeth les yn ymyrryd yn ormodol ac wedi creu ‘gwladwriaeth orwarchodol’ (‘'nanny state’') lle’r oedd unigolion yn orddibynnol ar fudd-daliadau er mwyn goroesi (Murray 1996). Roedd Murray (1996) o’r farn bod ‘tanddosbarth’ wedi ei sefydlu oedd yn is na’r dosbarthiadau cymdeithasol eraill. Yn ôl Murray, roedd aelodau’r dosbarth hwn yn ddibynnol ar fudd-daliadau, yn aml yn deuluoedd un rhiant, di-waith oedd yn profi tlodi ac yn cael eu cau allan yn gymdeithasol. Rhybuddiodd Murray y dylid unigolion gymryd cyfrifoldeb o’i sefyllfa oherwydd allai orddibyniaeth ar y wladwriaeth les arwain tuag at dlodi bellach a diweithdra.

Dywedodd Murray (1996: 24) y canlynol am y tanddosbarth:

They were defined by their behaviour. Their homes were littered and unkempt. The men in the family were unable to hold a job for more than a few weeks at a time. Drunkenness was common. The children grew up ill-schooled and ill-behaved and contributed to a disproportionate share of the local juvenile delinquents.

Gwelodd Murray (1996) fod y ‘tanddosbarth’ yn ddinistriol i [[normau] a gwerthoedd ‘traddodiadol’ y teulu cnewyllol. Mae’r persbectif yma yn debyg i safbwynt Swyddogaetholdeb gan ei fod yn edrych ar y teulu mewn modd traddodiadol. Mae’r Dde Newydd yn hyrwyddo’r teulu fel sefydliad traddodiadol a cheidwadol. Maent o blaid y teulu cnewyllol ac yn beio problemau cymdeithas megis trosedd a gwyredd cymdeithasol ar y ffaith nad y teulu cnewyllol yw’r norm bellach (O’Neill 2002). Maent yn gweld amrywiaeth cymdeithasol a newidiadau o fewn y teulu fel bygythiad i sefydlogrwydd y gymdeithas. Mae’r persbectif yn arddel rolau rhywedd traddodiadol lle dylai’r ferch fod yn wraig tŷ sy’n aros gartref i edrych ar ôl y plant ac i gefnogi ei gŵr (gweler David 1996: 155).

Ceir feirniadaeth o’r cysyniad tanddosbarth a’r ffordd mae’r Dde Newydd yn gweld y teulu ac yn egluro tlodi. Dadleuai Walker (1996) bod y Dde Newydd yn tanbrisio sut mae strwythurau cymdeithasol yn cyfrannu at dlodi. O safbwynt ffeministiaeth, mae Slipman (1996) yn beirniadu’r Dde Newydd am arddel rolau rhywedd traddodiadol ac am hybu’r syniad y dylai merched fod yn ddibynnol ar ddynion. O ongl theori feirniadol hil, mae ymchwilwyr fel Wacquant (2004) yn dadlau bod defnydd o’r cysyniad tanddosbarth gan y Dde Newydd yn pardduo pobl Ddu o gefndiroedd tlawd.

3. Cymru a’r Tanddosbarth

Yn ôl rhai papurau newydd a sylwebwyr, mae yna tanddosbarth yn gyffredin mewn ardaloedd difreintiedig o Gymru. Ond, mae yna dystiolaeth o ymchwil sydd yn gwrthbrofi’r syniad yma. Er enghraifft, yn eu hastudiaeth o bobl ifanc di-waith yn Ne Cymru, darganfyddodd Rees et al. (1996: 231) mai diffyg cyfleoedd gwaith da oedd y rheswm pennaf pam roeddent yn ddi-waith yn hytrach ‘na’u hymddygiad, sydd ddim yn ymhlygu’r ymddangosiad o danddosbarth yng Nghymru.

4. Dylanwad y Dde Newydd

At ei gilydd, mae’r Dde Newydd yn gorff digon brith o syniadau gwleidyddol sy’n ceisio cyfuno math penodol o ryddfrydiaeth economaidd ag ymagwedd geidwadol awdurdodaidd wrth drafod materion cymdeithasol. Yn hynny o beth, mae’n gorff o syniadau sy’n cyfuno elfennau radical, adweithiol a thraddodiadol oll gyda’i gilydd. Heb amheuaeth, profodd y syniadau hyn yn arbennig o ddylanwadol yn ystod degawdau olaf yr ugeinfed ganrif. Rhoddwyd y mynegiant mwyaf amlwg iddynt yn ystod y 1980au ar ffurf Thatcheriaeth yn y Deyrnas Unedig a Reaganiaeth yn yr Unol Daleithiau. Fodd bynnag nid dim ond ffenomen a brofodd yn ddylanwadol yn y lleoliadau hyn yn unig oedd y Dde Newydd. Bu iddo hefyd adael ei ôl ar wleidyddiaeth mewn rhannau eraill o Ewrop, Awstralia a Seland Newydd.

Er gwaethaf y dylanwad hwn, dylid nodi bod y Dde Newydd yn draddodiad sydd, yn y pendraw, yn seiliedig ar wrthgyferbyniad pwysig rhwng ei ganghennau neoryddfrydol a neogeidwadol. Tra bo’r naill yn pwysleisio’r angen i’r wladwriaeth gamu yn ôl a gadael i unigolion reoli eu materion (economaidd) eu hunain (Steger a Roy 2010), mae’r llall yn galw ar y wladwriaeth i wneud mwy i oruchwylio a rheoleiddio ein hymddygiad cymdeithasol, gan gynnig arweiniad (moesol) eglur (Vaïsse 2010). Mae rhai wedi dadlau bod hwn yn densiwn sylfaenol sy’n tanseilio’r graddau y gellir dehongli’r Dde Newydd fel un corff o syniadau. Fodd bynnag, os oes rhaid meddwl am y Dde Newydd fel un ffrwd Geidwadol, yna mae’n bosib mai’r ffordd orau o wneud hynny yw trwy feddwl am y sawl sy’n arddel y syniadau hyn fel pobl sy’n credu mewn gwladwriaeth gyfyngedig ond eto un gref, neu fel y noda Andrew Gamble (1994: 35), pobl sy’n credu yn y ‘free economy and the strong state’.

Mae’r cofnod yma yn seiliedig ar Ceidwadaeth: Ffrydiau Amrywiol gan Dr Huw Lewis (rhan o e-lawlyfrau Cyflwyniad i Syniadau Gwleidyddol sydd ar gael ym Mhorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol) ac Y Teulu gan Dr Cynog Prys a Dr Rhian Hodges (rhan o Becyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg sydd ar gael ym Mhorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol) wedi’u haddasu gan Adam Pierce a Dr Siôn Jones o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol [[Caerdydd]].

Llyfryddiaeth

David, M. (1996). ‘Fundamentally Flawed’, yn Lister, R. (goln), Charles Murray and the Underclass: The Developing Debate. (Llundain: IEA Health and Welfare Unit), tt. 150-156

Gamble, A. (1994). The Free Economy and the Strong state: the politics of Thatcherism. 2il argraffiad. (Basingstoke: Palgrave).

Murray, C. (1996).’The Emerging British Underclass’, yn Lister, R. (goln), Charles Murray and the Underclass: The Developing Debate. (Llundain: IEA Health and Welfare Unit), tt. 23-57

O’Neill, R. (2002), 'Experiments in Living: The Fatherless Family. (Llundain: The Institute for the Study of Civil Society)

Rees, G., Williamson, H. a Istance, D. (1996). ‘’Status Zero’: a study of jobless school-leavers in South Wales.’ Research Papers in Education, 11, 219-235

Slipman, S. (1996). ‘Would You Take One Home With You?’, yn Lister, R. (goln), Charles Murray and the Underclass: The Developing Debate. (Llundain: IEA Health and Welfare Unit), tt. 161-166

Steger, M. a Roy, R. (2010). Neoliberalism: A Very Short Introduction. (Oxford: Oxford University Press)

Vaïsse (2010). Neoconservatism: The Biography of a Movement. (Cambridge, MA: The Belknap Press of Harvard University Press)

Wacquant, L. (1996). ‘Decivilizing and Demonizing: the remaking of the black America ghetto’, yn Loyal, S. a Quilley, S. (goln), The Sociology of Norbert Elias. (Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Caergrawnt) tt. 95-121

Walker, A. (1996). ‘Blaming the Victims’, yn Lister, R. (goln), Charles Murray and the Underclass: The Developing Debate. (Llundain: IEA Health and Welfare Unit), tt. 66-75


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.