Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Sefydlwyd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn [[Eisteddfod]] Genedlaethol Caernarfon 1906, mewn cyfarfod a noddwyd gan Gymdeithas y Cymmrodorion. Yn y cyfarfod hwnnw, gwneud y gwaith paratoi a gosod y sylfeini oedd y nod ac ni sefydlwyd y gymdeithas yn ffurfiol am ddwy flynedd arall, mewn cyfarfod cyffredinol yn Eisteddfod Genedlaethol Llangollen 1908.
+
Sefydlwyd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Genedlaethol Caernarfon 1906, mewn cyfarfod a noddwyd gan Gymdeithas y Cymmrodorion. Yn y cyfarfod hwnnw, gwneud y gwaith paratoi a gosod y sylfeini oedd y nod ac ni sefydlwyd y gymdeithas yn ffurfiol am ddwy flynedd arall, mewn cyfarfod cyffredinol yn Eisteddfod Genedlaethol Llangollen 1908.
  
Roedd sefydlu’r gymdeithas yn rhan o’r ymchwydd gwladgarol yng Nghymru tua diwedd y 19g. a throad y ganrif: awydd cyffredinol i greu sefydliadau cenedlaethol Cymreig o bob math. Dyma’r cyfnod y sefydlwyd [[Prifysgol]] Cymru, [[Amgueddfa Genedlaethol Cymru]] a [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]], ac roedd amryw o arloeswyr y sefydliadau hyn hefyd yn rhan o sefydlu’r Gymdeithas Alawon Gwerin. Ysgogiad arall mwy amlwg oedd sefydlu dwy gymdeithas debyg yn Lloegr (1898) ac Iwerddon (1904).
+
Roedd sefydlu’r gymdeithas yn rhan o’r ymchwydd gwladgarol yng Nghymru tua diwedd y 19g. a throad y ganrif: awydd cyffredinol i greu sefydliadau cenedlaethol Cymreig o bob math. Dyma’r cyfnod y sefydlwyd [[Prifysgolion a Cherddoriaeth yng Nghymru | Prifysgol]] Cymru, [[Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd | Amgueddfa Genedlaethol Cymru]] a [[Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd | Llyfrgell Genedlaethol Cymru]], ac roedd amryw o arloeswyr y sefydliadau hyn hefyd yn rhan o sefydlu’r Gymdeithas Alawon Gwerin. Ysgogiad arall mwy amlwg oedd sefydlu dwy gymdeithas debyg yn Lloegr (1898) ac Iwerddon (1904).
  
Daeth y penderfyniad i fwrw ati i sefydlu’r gymdeithas Gymreig mewn cyfarfod lle’r oedd dau Wyddel wedi annerch ar bwnc [[canu gwerin]]: Syr Harry Reichel (prifathro Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor) a’r cerddor Alfred Perceval Graves, un o sefydlwyr y cymdeithasau Gwyddelig a Seisnig. Y ffigurau amlwg eraill ar y pryd oedd Syr William Preece (y peiriannydd a’r arloeswr yn nyddiau cynnar y teleffon), Vincent Evans (Ysgrifennydd y Cymmrodorion) a dau arall o Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, Dr [[J. Lloyd Williams]] (darlithydd mewn botaneg) ac [[L. D. Jones]] (Llew Tegid), prif weinyddwr y gymdeithas yn y dyddiau cynnar. Cafwyd cymorth hefyd yn y cyfnod hwn gan arweinwyr Cymdeithas Alawon Gwerin Lloegr, Cecil Sharp, Lucy Broadwood ac Annie Gilchrist.
+
Daeth y penderfyniad i fwrw ati i sefydlu’r gymdeithas Gymreig mewn cyfarfod lle’r oedd dau Wyddel wedi annerch ar bwnc [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | canu gwerin]]: Syr Harry Reichel (prifathro Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor) a’r cerddor Alfred Perceval Graves, un o sefydlwyr y cymdeithasau Gwyddelig a Seisnig. Y ffigurau amlwg eraill ar y pryd oedd Syr William Preece (y peiriannydd a’r arloeswr yn nyddiau cynnar y teleffon), Vincent Evans (Ysgrifennydd y Cymmrodorion) a dau arall o Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, Dr [[Williams, J. Lloyd (1854-1945) | J. Lloyd Williams]] (darlithydd mewn botaneg) ac [[Tegid, Llew (1851-1928) | L. D. Jones]] (Llew Tegid), prif weinyddwr y gymdeithas yn y dyddiau cynnar. Cafwyd cymorth hefyd yn y cyfnod hwn gan arweinwyr Cymdeithas Alawon Gwerin Lloegr, Cecil Sharp, Lucy Broadwood ac Annie Gilchrist.
  
 
Hynod o barchus a sefydliadol oedd y gymdeithas yn ei chyfnod cynnar. Ymhlith yr enwau a benodwyd i lunio cyfansoddiad a rheolau y mae dau ‘syr’, dau ynad heddwch a dau Aelod Seneddol, gan gynnwys Lloyd George ei hun. Saesneg oedd iaith y cofnodion yn y blynyddoedd cynnar, a Saesneg oedd iaith cylchgrawn y gymdeithas pan ymddangosodd gyntaf yn 1909 (ar wahân i eiriau’r caneuon a gofnodir).
 
Hynod o barchus a sefydliadol oedd y gymdeithas yn ei chyfnod cynnar. Ymhlith yr enwau a benodwyd i lunio cyfansoddiad a rheolau y mae dau ‘syr’, dau ynad heddwch a dau Aelod Seneddol, gan gynnwys Lloyd George ei hun. Saesneg oedd iaith y cofnodion yn y blynyddoedd cynnar, a Saesneg oedd iaith cylchgrawn y gymdeithas pan ymddangosodd gyntaf yn 1909 (ar wahân i eiriau’r caneuon a gofnodir).
  
Roedd nod y gymdeithas yn glir o’r dechrau: casglu a diogelu caneuon gwerin, [[baledi]] ac alawon Cymreig, a’u cyhoeddi fel y gwelid yn ddoeth. Er bod nifer o gasgliadau pwysig o ganeuon ac alawon wedi ymddangos yn ystod y 19g. gan rai fel [[John Jenkins]] (Ifor Ceri), [[Maria Jane Williams]], [[John Thomas]] (Ieuan Ddu), [[Owain Alaw]] a Nicholas Bennett, roedd hi’n amlwg fod gwaith enfawr i’w wneud i gofnodi caneuon llafar gwlad cyn iddi fynd yn rhy hwyr. Ni allai arloeswyr y gymdeithas beidio â bod yn ymwybodol iawn o’r cefndir: yr erlid mawr a fu yn enw crefydd ar yr hen ddiwylliant gwerin yn ei gyfanrwydd, yn ogystal â’r cyfnewidiadau cymdeithasol enfawr a welwyd yn ystod y 19g. Buasai J. Lloyd Williams ei hun, pan oedd yn fachgen ifanc, yn dyst i dröedigaeth ysbrydol ei dad, canwr gwerin poblogaidd yn nhafarn yr Union, Llanrwst yn yr 1850au, ond un a gefnodd ar y cyfan yn dilyn ei dröedigaeth, gan losgi ei holl lyfrau canu a gwahardd ei fab hyd yn oed rhag chwibanu ar ddydd Sul.
+
Roedd nod y gymdeithas yn glir o’r dechrau: casglu a diogelu caneuon gwerin, [[Baled | baledi]] ac alawon Cymreig, a’u cyhoeddi fel y gwelid yn ddoeth. Er bod nifer o gasgliadau pwysig o ganeuon ac alawon wedi ymddangos yn ystod y 19g. gan rai fel [[Jenkins, John (Ifor Ceri; 1770-1829) | John Jenkins]] (Ifor Ceri), [[Williams, Maria Jane (1795-1873) | Maria Jane Williams]], [[Thomas, John (Ieuan Ddu; 1795-1871) | John Thomas]] (Ieuan Ddu), [[Owen, John (Owain Alaw; 1821-83) | Owain Alaw]] a Nicholas Bennett, roedd hi’n amlwg fod gwaith enfawr i’w wneud i gofnodi caneuon llafar gwlad cyn iddi fynd yn rhy hwyr. Ni allai arloeswyr y gymdeithas beidio â bod yn ymwybodol iawn o’r cefndir: yr erlid mawr a fu yn enw crefydd ar yr hen ddiwylliant gwerin yn ei gyfanrwydd, yn ogystal â’r cyfnewidiadau cymdeithasol enfawr a welwyd yn ystod y 19g. Buasai J. Lloyd Williams ei hun, pan oedd yn fachgen ifanc, yn dyst i dröedigaeth ysbrydol ei dad, canwr gwerin poblogaidd yn nhafarn yr Union, Llanrwst yn yr 1850au, ond un a gefnodd ar y cyfan yn dilyn ei dröedigaeth, gan losgi ei holl lyfrau canu a gwahardd ei fab hyd yn oed rhag chwibanu ar ddydd Sul.
  
Yn ogystal â bod yn ddarlithydd, roedd J. Lloyd Williams hefyd yn Gyfarwyddwr Cerdd yng Ngholeg Bangor. Sefydlodd gymdeithas o fyfyrwyr o’r enw Y Canorion ac yn ystod gwyliau’r coleg byddai’r aelodau yn ymweld â chantorion yn eu hardaloedd i gofnodi caneuon. Nid gwaith hawdd oedd hwn, gyda chysgod Diwygiad 1904–05 yn drwm ar y wlad a’r hen ragfarnau yn dal yn fyw. Ond dros y degawdau nesaf bu amryw o bobl wrthi’n casglu – pobl fel [[Ruth Herbert Lewis]], Dr [[Mary Davies]], [[Grace Gwyneddon Davies]], Soley Thomas a [[Jennie Williams]]. O fewn ychydig flynyddoedd, roedd cannoedd o ganeuon wedi’u cofnodi, amryw wedi’u recordio (ar roliau ffonograff), ac erbyn 1918 roedd gan y gymdeithas gryn 400 o aelodau.
+
Yn ogystal â bod yn ddarlithydd, roedd J. Lloyd Williams hefyd yn Gyfarwyddwr Cerdd yng Ngholeg Bangor. Sefydlodd gymdeithas o fyfyrwyr o’r enw Y Canorion ac yn ystod gwyliau’r coleg byddai’r aelodau yn ymweld â chantorion yn eu hardaloedd i gofnodi caneuon. Nid gwaith hawdd oedd hwn, gyda chysgod Diwygiad 1904–05 yn drwm ar y wlad a’r hen ragfarnau yn dal yn fyw. Ond dros y degawdau nesaf bu amryw o bobl wrthi’n casglu – pobl fel [[Lewis, Ruth Herbert (1871-1946) | Ruth Herbert Lewis]], Dr [[Davies, Mary (1855-1930) | Mary Davies]], [[Davies, Grace Gwyneddon (1879-1944) | Grace Gwyneddon Davies]], Soley Thomas a [[Williams, Jennie (1885-1971) | Jennie Williams]]. O fewn ychydig flynyddoedd, roedd cannoedd o ganeuon wedi’u cofnodi, amryw wedi’u recordio (ar roliau ffonograff), ac erbyn 1918 roedd gan y gymdeithas gryn 400 o aelodau.
  
 
O ganlyniad i’r brwdfrydedd dechreuol, y cyngherddau a’r darlithoedd cyson a hefyd y casgliadau o ganeuon a gyhoeddwyd, derbyniwyd canu gwerin yn raddol i mewn i’r gyfundrefn eisteddfodol. Roedd y gymdeithas yn anelu hefyd at gyhoeddi cylchgrawn blynyddol, sef ''Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru''. Yr anhawster oedd cynnal y momentwm cynnar.
 
O ganlyniad i’r brwdfrydedd dechreuol, y cyngherddau a’r darlithoedd cyson a hefyd y casgliadau o ganeuon a gyhoeddwyd, derbyniwyd canu gwerin yn raddol i mewn i’r gyfundrefn eisteddfodol. Roedd y gymdeithas yn anelu hefyd at gyhoeddi cylchgrawn blynyddol, sef ''Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru''. Yr anhawster oedd cynnal y momentwm cynnar.
  
Cafodd yr Ail Ryfel Byd gryn effaith ar weithgarwch y gymdeithas, yn ogystal â’r ffaith fod yr arweinwyr yn heneiddio. Erbyn 1947 roedd y rhan fwyaf o’r to cynnar wedi’u colli a bu raid creu pwyllgor gwaith cwbl newydd, gydag Emrys Cleaver yn drysorydd a [[W. S. Gwynn Williams]] yn olygydd y cylchgrawn (buasai’n ysgrifennydd er 1934). Y ddau yma yn bennaf a gadwodd y gymdeithas i fynd am yr ugain mlynedd nesaf. Ymddangosodd dwy gyfrol o ganeuon yn 1961 ac 1963: ''Caneuon Traddodiadol y Cymry;'' sefydlwyd [[gŵyl]] werin, ac yn 1963 y Cwrs Penwythnos – cwrs a gynhaliwyd yn ddi-dor ers hynny. Dwy arall a fu’n gonglfaen i’r gymdeithas oedd Frances Môn Jones a Buddug Lloyd Roberts, a benodwyd yn ysgrifennydd yn 1977 ac a ddaliodd ati am ddeng mlynedd ar hugain.
+
Cafodd yr Ail Ryfel Byd gryn effaith ar weithgarwch y gymdeithas, yn ogystal â’r ffaith fod yr arweinwyr yn heneiddio. Erbyn 1947 roedd y rhan fwyaf o’r to cynnar wedi’u colli a bu raid creu pwyllgor gwaith cwbl newydd, gydag Emrys Cleaver yn drysorydd a [[Williams, W. S. Gwynn (Gwynn o'r Llan; 1896-1978) | W. S. Gwynn Williams]] yn olygydd y cylchgrawn (buasai’n ysgrifennydd er 1934). Y ddau yma yn bennaf a gadwodd y gymdeithas i fynd am yr ugain mlynedd nesaf. Ymddangosodd dwy gyfrol o ganeuon yn 1961 ac 1963: ''Caneuon Traddodiadol y Cymry;'' sefydlwyd [[Gwyliau Cerddoriaeth | gŵyl]] werin, ac yn 1963 y Cwrs Penwythnos – cwrs a gynhaliwyd yn ddi-dor ers hynny. Dwy arall a fu’n gonglfaen i’r gymdeithas oedd Frances Môn Jones a Buddug Lloyd Roberts, a benodwyd yn ysgrifennydd yn 1977 ac a ddaliodd ati am ddeng mlynedd ar hugain.
  
Ar ddechrau’r 1960au, penodwyd [[D. Roy Saer]] yn swyddog yn Adran Bywyd Diwylliannol [[Amgueddfa Werin Cymru]], Sain Ffagan, penodiad a arweiniodd at gyswllt agos rhwng y Gymdeithas a’r Amgueddfa o hynny ymlaen. Golygodd y cyswllt hwn fod adnoddau proffesiynol ar gael i ymchwilio ac i recordio cannoedd o ganeuon a sgyrsiau. Enghraifft nodedig o hyn yw’r gwaith a wnaed i gofnodi’r [[canu plygain]] yn Nyffryn Tanat a’r recordiadau a ddaeth â’r holl faes i sylw gweddill Cymru.
+
Ar ddechrau’r 1960au, penodwyd [[Saer, Roy (g.1936) | D. Roy Saer]] yn swyddog yn Adran Bywyd Diwylliannol [[Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd | Amgueddfa Werin Cymru]], Sain Ffagan, penodiad a arweiniodd at gyswllt agos rhwng y Gymdeithas a’r Amgueddfa o hynny ymlaen. Golygodd y cyswllt hwn fod adnoddau proffesiynol ar gael i ymchwilio ac i recordio cannoedd o ganeuon a sgyrsiau. Enghraifft nodedig o hyn yw’r gwaith a wnaed i gofnodi’r [[Canu Plygain | canu plygain]] yn Nyffryn Tanat a’r recordiadau a ddaeth â’r holl faes i sylw gweddill Cymru.
  
Ymdaflodd Roy Saer a ffigurau amlwg eraill fel [[Meredydd Evans]], [[Phyllis Kinney]], Daniel Huws, [[Rhidian Griffiths]] a Rhiannon Ifans i’r gwaith ymchwilio a chyhoeddi. Gwnaed gwaith arloesol hefyd gan [[Wyn Thomas]] yn Adran Gerddoriaeth Prifysgol Bangor: lluniodd lyfryddiaeth gyflawn o’r maes, ''Cerddoriaeth Draddodiadol yng Nghymru'', cyfrol hanfodol ar gyfer unrhyw ymchwilydd (Thomas 1996).
+
Ymdaflodd Roy Saer a ffigurau amlwg eraill fel [[Evans, Meredydd (1919-2015) | Meredydd Evans]], [[Kinney, Phyllis (g.1922) | Phyllis Kinney]], Daniel Huws, [[Griffiths, Rhidian | Rhidian Griffiths]] a Rhiannon Ifans i’r gwaith ymchwilio a chyhoeddi. Gwnaed gwaith arloesol hefyd gan [[Thomas, Wyn (g.1958) | Wyn Thomas]] yn Adran Gerddoriaeth Prifysgol Bangor: lluniodd lyfryddiaeth gyflawn o’r maes, ''Cerddoriaeth Draddodiadol yng Nghymru'', cyfrol hanfodol ar gyfer unrhyw ymchwilydd (Thomas 1996).
  
 
Pwysigrwydd y Gymdeithas Alawon Gwerin yw iddi, er gwaethaf pob anhawster, lwyddo i ddiogelu talp enfawr o ddiwylliant cerddorol Cymru – agwedd o’r diwylliant Cymraeg a fyddai’n anhraethol dlotach oni bai am y gwaith a wnaed. Yr her sy’n wynebu caredigion y gân werin Gymraeg yn yr 21g. yw sut i hyrwyddo’r caneuon hyn mewn sefyllfa gwbl wahanol i’r cyfnod a esgorodd arnynt yn y lle cyntaf. Mae apêl y caneuon yn oesol ac yn ddigyfnewid, a’r gobaith yw y bydd pob cenhedlaeth yn eu canu yn y dull symlaf posibl ymhell i’r dyfodol – gan unigolyn yn ddigyfeiliant. Ond bydd eraill yn siŵr o’u dehongli yn ôl ffasiwn yr oes. Heb y gwaith ymchwil a chofnodi, fodd bynnag, ni fyddai’n bosibl i genhedlaeth newydd droi’r cofnodion yn ganeuon byw unwaith eto.
 
Pwysigrwydd y Gymdeithas Alawon Gwerin yw iddi, er gwaethaf pob anhawster, lwyddo i ddiogelu talp enfawr o ddiwylliant cerddorol Cymru – agwedd o’r diwylliant Cymraeg a fyddai’n anhraethol dlotach oni bai am y gwaith a wnaed. Yr her sy’n wynebu caredigion y gân werin Gymraeg yn yr 21g. yw sut i hyrwyddo’r caneuon hyn mewn sefyllfa gwbl wahanol i’r cyfnod a esgorodd arnynt yn y lle cyntaf. Mae apêl y caneuon yn oesol ac yn ddigyfnewid, a’r gobaith yw y bydd pob cenhedlaeth yn eu canu yn y dull symlaf posibl ymhell i’r dyfodol – gan unigolyn yn ddigyfeiliant. Ond bydd eraill yn siŵr o’u dehongli yn ôl ffasiwn yr oes. Heb y gwaith ymchwil a chofnodi, fodd bynnag, ni fyddai’n bosibl i genhedlaeth newydd droi’r cofnodion yn ganeuon byw unwaith eto.

Y diwygiad cyfredol, am 10:42, 25 Awst 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Sefydlwyd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1906, mewn cyfarfod a noddwyd gan Gymdeithas y Cymmrodorion. Yn y cyfarfod hwnnw, gwneud y gwaith paratoi a gosod y sylfeini oedd y nod ac ni sefydlwyd y gymdeithas yn ffurfiol am ddwy flynedd arall, mewn cyfarfod cyffredinol yn Eisteddfod Genedlaethol Llangollen 1908.

Roedd sefydlu’r gymdeithas yn rhan o’r ymchwydd gwladgarol yng Nghymru tua diwedd y 19g. a throad y ganrif: awydd cyffredinol i greu sefydliadau cenedlaethol Cymreig o bob math. Dyma’r cyfnod y sefydlwyd Prifysgol Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac roedd amryw o arloeswyr y sefydliadau hyn hefyd yn rhan o sefydlu’r Gymdeithas Alawon Gwerin. Ysgogiad arall mwy amlwg oedd sefydlu dwy gymdeithas debyg yn Lloegr (1898) ac Iwerddon (1904).

Daeth y penderfyniad i fwrw ati i sefydlu’r gymdeithas Gymreig mewn cyfarfod lle’r oedd dau Wyddel wedi annerch ar bwnc canu gwerin: Syr Harry Reichel (prifathro Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor) a’r cerddor Alfred Perceval Graves, un o sefydlwyr y cymdeithasau Gwyddelig a Seisnig. Y ffigurau amlwg eraill ar y pryd oedd Syr William Preece (y peiriannydd a’r arloeswr yn nyddiau cynnar y teleffon), Vincent Evans (Ysgrifennydd y Cymmrodorion) a dau arall o Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, Dr J. Lloyd Williams (darlithydd mewn botaneg) ac L. D. Jones (Llew Tegid), prif weinyddwr y gymdeithas yn y dyddiau cynnar. Cafwyd cymorth hefyd yn y cyfnod hwn gan arweinwyr Cymdeithas Alawon Gwerin Lloegr, Cecil Sharp, Lucy Broadwood ac Annie Gilchrist.

Hynod o barchus a sefydliadol oedd y gymdeithas yn ei chyfnod cynnar. Ymhlith yr enwau a benodwyd i lunio cyfansoddiad a rheolau y mae dau ‘syr’, dau ynad heddwch a dau Aelod Seneddol, gan gynnwys Lloyd George ei hun. Saesneg oedd iaith y cofnodion yn y blynyddoedd cynnar, a Saesneg oedd iaith cylchgrawn y gymdeithas pan ymddangosodd gyntaf yn 1909 (ar wahân i eiriau’r caneuon a gofnodir).

Roedd nod y gymdeithas yn glir o’r dechrau: casglu a diogelu caneuon gwerin, baledi ac alawon Cymreig, a’u cyhoeddi fel y gwelid yn ddoeth. Er bod nifer o gasgliadau pwysig o ganeuon ac alawon wedi ymddangos yn ystod y 19g. gan rai fel John Jenkins (Ifor Ceri), Maria Jane Williams, John Thomas (Ieuan Ddu), Owain Alaw a Nicholas Bennett, roedd hi’n amlwg fod gwaith enfawr i’w wneud i gofnodi caneuon llafar gwlad cyn iddi fynd yn rhy hwyr. Ni allai arloeswyr y gymdeithas beidio â bod yn ymwybodol iawn o’r cefndir: yr erlid mawr a fu yn enw crefydd ar yr hen ddiwylliant gwerin yn ei gyfanrwydd, yn ogystal â’r cyfnewidiadau cymdeithasol enfawr a welwyd yn ystod y 19g. Buasai J. Lloyd Williams ei hun, pan oedd yn fachgen ifanc, yn dyst i dröedigaeth ysbrydol ei dad, canwr gwerin poblogaidd yn nhafarn yr Union, Llanrwst yn yr 1850au, ond un a gefnodd ar y cyfan yn dilyn ei dröedigaeth, gan losgi ei holl lyfrau canu a gwahardd ei fab hyd yn oed rhag chwibanu ar ddydd Sul.

Yn ogystal â bod yn ddarlithydd, roedd J. Lloyd Williams hefyd yn Gyfarwyddwr Cerdd yng Ngholeg Bangor. Sefydlodd gymdeithas o fyfyrwyr o’r enw Y Canorion ac yn ystod gwyliau’r coleg byddai’r aelodau yn ymweld â chantorion yn eu hardaloedd i gofnodi caneuon. Nid gwaith hawdd oedd hwn, gyda chysgod Diwygiad 1904–05 yn drwm ar y wlad a’r hen ragfarnau yn dal yn fyw. Ond dros y degawdau nesaf bu amryw o bobl wrthi’n casglu – pobl fel Ruth Herbert Lewis, Dr Mary Davies, Grace Gwyneddon Davies, Soley Thomas a Jennie Williams. O fewn ychydig flynyddoedd, roedd cannoedd o ganeuon wedi’u cofnodi, amryw wedi’u recordio (ar roliau ffonograff), ac erbyn 1918 roedd gan y gymdeithas gryn 400 o aelodau.

O ganlyniad i’r brwdfrydedd dechreuol, y cyngherddau a’r darlithoedd cyson a hefyd y casgliadau o ganeuon a gyhoeddwyd, derbyniwyd canu gwerin yn raddol i mewn i’r gyfundrefn eisteddfodol. Roedd y gymdeithas yn anelu hefyd at gyhoeddi cylchgrawn blynyddol, sef Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Yr anhawster oedd cynnal y momentwm cynnar.

Cafodd yr Ail Ryfel Byd gryn effaith ar weithgarwch y gymdeithas, yn ogystal â’r ffaith fod yr arweinwyr yn heneiddio. Erbyn 1947 roedd y rhan fwyaf o’r to cynnar wedi’u colli a bu raid creu pwyllgor gwaith cwbl newydd, gydag Emrys Cleaver yn drysorydd a W. S. Gwynn Williams yn olygydd y cylchgrawn (buasai’n ysgrifennydd er 1934). Y ddau yma yn bennaf a gadwodd y gymdeithas i fynd am yr ugain mlynedd nesaf. Ymddangosodd dwy gyfrol o ganeuon yn 1961 ac 1963: Caneuon Traddodiadol y Cymry; sefydlwyd gŵyl werin, ac yn 1963 y Cwrs Penwythnos – cwrs a gynhaliwyd yn ddi-dor ers hynny. Dwy arall a fu’n gonglfaen i’r gymdeithas oedd Frances Môn Jones a Buddug Lloyd Roberts, a benodwyd yn ysgrifennydd yn 1977 ac a ddaliodd ati am ddeng mlynedd ar hugain.

Ar ddechrau’r 1960au, penodwyd D. Roy Saer yn swyddog yn Adran Bywyd Diwylliannol Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, penodiad a arweiniodd at gyswllt agos rhwng y Gymdeithas a’r Amgueddfa o hynny ymlaen. Golygodd y cyswllt hwn fod adnoddau proffesiynol ar gael i ymchwilio ac i recordio cannoedd o ganeuon a sgyrsiau. Enghraifft nodedig o hyn yw’r gwaith a wnaed i gofnodi’r canu plygain yn Nyffryn Tanat a’r recordiadau a ddaeth â’r holl faes i sylw gweddill Cymru.

Ymdaflodd Roy Saer a ffigurau amlwg eraill fel Meredydd Evans, Phyllis Kinney, Daniel Huws, Rhidian Griffiths a Rhiannon Ifans i’r gwaith ymchwilio a chyhoeddi. Gwnaed gwaith arloesol hefyd gan Wyn Thomas yn Adran Gerddoriaeth Prifysgol Bangor: lluniodd lyfryddiaeth gyflawn o’r maes, Cerddoriaeth Draddodiadol yng Nghymru, cyfrol hanfodol ar gyfer unrhyw ymchwilydd (Thomas 1996).

Pwysigrwydd y Gymdeithas Alawon Gwerin yw iddi, er gwaethaf pob anhawster, lwyddo i ddiogelu talp enfawr o ddiwylliant cerddorol Cymru – agwedd o’r diwylliant Cymraeg a fyddai’n anhraethol dlotach oni bai am y gwaith a wnaed. Yr her sy’n wynebu caredigion y gân werin Gymraeg yn yr 21g. yw sut i hyrwyddo’r caneuon hyn mewn sefyllfa gwbl wahanol i’r cyfnod a esgorodd arnynt yn y lle cyntaf. Mae apêl y caneuon yn oesol ac yn ddigyfnewid, a’r gobaith yw y bydd pob cenhedlaeth yn eu canu yn y dull symlaf posibl ymhell i’r dyfodol – gan unigolyn yn ddigyfeiliant. Ond bydd eraill yn siŵr o’u dehongli yn ôl ffasiwn yr oes. Heb y gwaith ymchwil a chofnodi, fodd bynnag, ni fyddai’n bosibl i genhedlaeth newydd droi’r cofnodion yn ganeuon byw unwaith eto.

Arfon Gwilym

Llyfryddiaeth

  • Wyn Thomas, Cerddoriaeth Draddodiadol yng Nghymru: llyfryddiaeth (Dinbych, 1996)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.