Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gregynog, Gŵyl"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 33: | Llinell 33: | ||
Daeth yr Ŵyl i ben yn sgil yr Ail Ryfel Byd yn 1939, a bu farw Gwendoline Davies yn 1951. Ymhen amser, dechreuodd [[Parrott, Ian (1916-2012) | Ian Parrott]] (1916–2012), a benodwyd i Gadair Gregynog yn Aberystwyth yn 1950, ddod â staff a myfyrwyr ei adran (gan gynnwys [[Mathias, William (1934-92) | William Mathias]] a [[Harries, David (1933-2003) | David Harries]]) i greu cerddoriaeth yn y Plas eto o 1954, a chyfarwyddodd ail gyfres o Wyliau, 1956–9 ac 1961. Roedd yr oböydd Evelyn Rothwell (y Fonesig Barbirolli), y delynores Ann Griffiths a’r cantorion Redvers Llewellyn a Helen Watts ymysg yr unawdwyr rhagorol a gyflwynwyd, a’r ''repertoire'' yn cynnwys y perfformiad cyntaf yng Nghymru o ddarn ar gyfer telyn unawdol gan Edmund Rubbra, ''Pezzo ostinato'' (1959), ynghyd â’r perfformiad cyntaf erioed o saraband Parrott ar gyfer offerynnau llinynnol, ''Mae ’nghariad i’n Fenws''. | Daeth yr Ŵyl i ben yn sgil yr Ail Ryfel Byd yn 1939, a bu farw Gwendoline Davies yn 1951. Ymhen amser, dechreuodd [[Parrott, Ian (1916-2012) | Ian Parrott]] (1916–2012), a benodwyd i Gadair Gregynog yn Aberystwyth yn 1950, ddod â staff a myfyrwyr ei adran (gan gynnwys [[Mathias, William (1934-92) | William Mathias]] a [[Harries, David (1933-2003) | David Harries]]) i greu cerddoriaeth yn y Plas eto o 1954, a chyfarwyddodd ail gyfres o Wyliau, 1956–9 ac 1961. Roedd yr oböydd Evelyn Rothwell (y Fonesig Barbirolli), y delynores Ann Griffiths a’r cantorion Redvers Llewellyn a Helen Watts ymysg yr unawdwyr rhagorol a gyflwynwyd, a’r ''repertoire'' yn cynnwys y perfformiad cyntaf yng Nghymru o ddarn ar gyfer telyn unawdol gan Edmund Rubbra, ''Pezzo ostinato'' (1959), ynghyd â’r perfformiad cyntaf erioed o saraband Parrott ar gyfer offerynnau llinynnol, ''Mae ’nghariad i’n Fenws''. | ||
− | Trosglwyddwyd Gregynog mewn ymddiriedolaeth i Brifysgol Cymru fel Canolfan Gynadleddau yn 1960 a phenodwyd Glyn Tegai Hughes (1923–2017) yn warden cyntaf ar ôl marwolaeth Margaret Davies yn 1963. Cynhaliwyd Gŵyl ddeuddydd yn 1972, gyda datganiad gan Benjamin Britten, Peter Pears ac [[Osian Ellis]] i nodi diwedd cyfnod y telynor yn Gymrawd Celf Gregynog. Ymysg y Cymrodyr eraill yr oedd y cyfansoddwr ôl-Ramantaidd Graham Whettam (1927–2007), a rhoddwyd datganiadau a darlithoedd achlysurol gan Margaret Price, Elizabeth Vaughan, Rafael Orozco a’r ysgolhaig ar Haydn, H. C. Robbins Landon. Yn ogystal, trefnodd Coleg Telyn Cymru gyfres o gyrsiau yn yr Ystafell Gerdd, a fynychwyd gan y [[Finch, Catrin (g.1980) | Catrin Finch]] ifanc. | + | Trosglwyddwyd Gregynog mewn ymddiriedolaeth i Brifysgol Cymru fel Canolfan Gynadleddau yn 1960 a phenodwyd Glyn Tegai Hughes (1923–2017) yn warden cyntaf ar ôl marwolaeth Margaret Davies yn 1963. Cynhaliwyd Gŵyl ddeuddydd yn 1972, gyda datganiad gan Benjamin Britten, Peter Pears ac [[Ellis, Osian (1928-2021) | Osian Ellis]] i nodi diwedd cyfnod y telynor yn Gymrawd Celf Gregynog. Ymysg y Cymrodyr eraill yr oedd y cyfansoddwr ôl-Ramantaidd Graham Whettam (1927–2007), a rhoddwyd datganiadau a darlithoedd achlysurol gan Margaret Price, Elizabeth Vaughan, Rafael Orozco a’r ysgolhaig ar Haydn, H. C. Robbins Landon. Yn ogystal, trefnodd Coleg Telyn Cymru gyfres o gyrsiau yn yr Ystafell Gerdd, a fynychwyd gan y [[Finch, Catrin (g.1980) | Catrin Finch]] ifanc. |
Adferwyd yr Ŵyl bresennol gan y tenor Anthony Rolfe Johnson (1940–2010) yn 1988 ar ôl iddo roi datganiad yn y Plas i godi arian ar gyfer [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] yr Urdd yn y Drenewydd a dod yn ymwybodol o draddodiad cerddorol Gregynog. Ymysg y prif artistiaid yn y cyfnod hwn yn hanes yr Ŵyl yr oedd ei gyd-gerddorion Benjamin Luxon, Graham Johnson a John Lill, a chreodd hefyd gyfleoedd i unawdwyr newydd fel John Mark Ainsley, Freddy Kempf a [[Terfel, Bryn (g.1965) | Bryn Terfel]]. At hynny, lansiwyd Gwobr Cyfansoddwyr Gregynog Cymru gyda pherfformiadau cyntaf o weithiau buddugol yn rhan o’r Ŵyl. | Adferwyd yr Ŵyl bresennol gan y tenor Anthony Rolfe Johnson (1940–2010) yn 1988 ar ôl iddo roi datganiad yn y Plas i godi arian ar gyfer [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] yr Urdd yn y Drenewydd a dod yn ymwybodol o draddodiad cerddorol Gregynog. Ymysg y prif artistiaid yn y cyfnod hwn yn hanes yr Ŵyl yr oedd ei gyd-gerddorion Benjamin Luxon, Graham Johnson a John Lill, a chreodd hefyd gyfleoedd i unawdwyr newydd fel John Mark Ainsley, Freddy Kempf a [[Terfel, Bryn (g.1965) | Bryn Terfel]]. At hynny, lansiwyd Gwobr Cyfansoddwyr Gregynog Cymru gyda pherfformiadau cyntaf o weithiau buddugol yn rhan o’r Ŵyl. |
Y diwygiad cyfredol, am 11:12, 25 Awst 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Gŵyl Gregynog yw’r ŵyl gerddoriaeth siambr glasurol hynaf yng Nghymru. Fe’i sefydlwyd yn 1933 gan Gwendoline a Margaret Davies, wyresau’r diwydiannwr David Davies, Llandinam. Y chwiorydd oedd perchnogion preifat olaf Plas Gregynog, a saif bum milltir i’r gogledd o’r Drenewydd, Powys. Yno aethant ati i greu casgliad eithriadol o gelf a cherfluniaeth Argraffiadol ac Ôl- Argraffiadol (a adawyd ganddynt i Amgueddfa Genedlaethol Cymru) ac i sefydlu Gwasg Gregynog a gynhyrchai’r llyfrau argraffiad cyfyngedig, y rhaglenni Gŵyl a’r rhaglenni gwasanaethau y bu galw mawr amdanynt ymysg casglwyr ers hynny. Mae Gŵyl Gregynog yn unigryw yng Nghymru fel gŵyl ‘plasty’, ac mae hi flwyddyn yn hŷn na Glyndebourne.
Roedd Gregynog yn enwog am ddiwylliant a lletygarwch ers yr Oesoedd Canol. Fel hyn y canodd y bardd Owain Gwynedd tuag 1580:
- Aelwyd gron y wlad â’i gwres
- Yw Cregynog, caer gynnes;
- Yno bydd y naw byddin
- A beirdd â gwŷs byrddau gwin.
- Yno’r bir in yw’r berwyl,
- Yno yr af innau’r wŷl;
- Tyno sydd yn tannu sôn,
- Tyrfa gwin yw Tref Gynon
- Llys a gaf, lles i gyfedd,
- Lles ym yw llysau a medd.
Roedd yr Arglwydd Joicey, perchennog y Plas yn union cyn y chwiorydd, hefyd wedi meithrin Band Pres Gregynog a fyddai’n perfformio yn ystod sioe flynyddol yr ystâd.
Symudodd Gwendoline a Margaret Davies i fyw yng Ngregynog yn 1920, mewn cyfnod pan oeddynt yn ymwneud fwyfwy â noddi cerddoriaeth yn ogystal â chelf. Roedd y ddwy’n gerddorion medrus: roedd Gwendoline yn chwarae’r ffidil a’r organ, yn berchen ar Stradivarius ‘Parke’, a rhoddodd berfformiad cyhoeddus o Sonata César Franck yn Aberystwyth yn 1911; astudiodd Margaret y delyn gyda Gwendolen Mason a chael gwersi canu hyd nes i broblemau gyda’i llwnc ei hatal rhag parhau. Gellir gweld eu llyfrgell eang yng Ngregynog hyd heddiw, ac mae’r sgorau yng Nghell y Côr ac ar silffoedd llyfrau yn y coridorau yn tystio i’w diddordeb eang mewn cerddoriaeth glasurol a gwerin. Mae Llyfrau Ymwelwyr Gregynog hefyd yn croniclo rhai o’r digwyddiadau a gynhaliwyd yno, y repertoire a berfformid a’r cerddorion byd-enwog a ddeuai i ymweld. Y llofnod cyntaf gan gyfansoddwr o bwys yw un Edward Elgar (1857– 1934) o fis Mehefin 1924.
Yn 1919 darparodd Gwendoline Davies ddwy swydd a llanwyd y ddwy yr un pryd gan Henry Walford Davies (1869–1941), sef Athro Cerddoriaeth Gregynog cyntaf Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (hyd 1926), a chyfarwyddwr cyntaf Cyngor Cerdd Cenedlaethol Cymru (hyd ei farwolaeth). Pan gychwynnodd Walford Davies ddod â’i fyfyrwyr a’i staff i Gregynog a threfnu i gynhadledd flynyddol y Cyngor Cerdd Cenedlaethol gael ei chynnal yno, penderfynwyd y dylid troi ystafell filiards yr Arglwydd Joicey gynt yn Ystafell Gerddoriaeth.
Lle gynt y bu’r lle tân cafwyd organ dair allweddell, a saernïwyd yn ôl gofynion Walford Davies gan Frederick (‘Daddy’) Rothwell, a gosodwyd platfform uwch i wneud lle i Gôr Gregynog, ensemble o weithwyr yr ystâd a phobl leol eraill, a berfformiodd yn y Neuadd am y tro cyntaf yn 1929. Roedd Gwendoline a Margaret ill dwy yn canu yn y Côr, ac felly hefyd Dora Herbert Jones (1890–1974), y gantores werin nodedig a oedd yn ysgrifenyddes i’r Wasg ac i Gwendoline o 1927. Roedd y côr-feistr, W. R. Allen, yn cydnabod ‘pwysigrwydd hyfforddiant digonol ac ymarfer cyson, ac amgylchedd delfrydol, er mwyn datblygu gwir ysbryd cerddoriaeth gorawl.’ Ychwanegodd fod yr ‘ŵyl a’r côr anghystadleuol, yn eu ffordd, wedi gwneud cyfraniad gwir arwyddocaol i gelfyddyd gorawl yng Nghymru’ (Allen, 1948).
Ar ôl perfformiad o Benedicite gan Ralph Vaughan Williams yn 1932, perfformiad a gyfarwyddwyd gan y cyfansoddwr ei hun, daeth Côr Gregynog yn asgwrn cefn i’r gyfres gyntaf o Wyliau Cerddoriaeth a Barddoniaeth Gregynog, 1933–8. Mae’n nodedig fod y ddwy ffurf ar gelfyddyd yn cael yr un sylw a blaenoriaeth, nid yn unig mewn cyngherddau ond hefyd yn y gwasanaethau bore Sul pan gâi darlleniadau a pherfformiadau eu cyfuno’n ofalus yn fyfyrdodau digrefydd.
Roedd y ffidlydd Jelly d’Arányi, y cantoresau Elsie Suddaby a Leila Megàne, a’r arweinydd Adrian Boult ymysg y cerddorion a wahoddwyd i ymddangos, a Lascelles Abercrombie a Helen Waddell ymysg y llenorion. Ymhlith y rhai a fynychodd yr Ŵyl yr oedd George Bernard Shaw, Joyce Grenfell ac Imogen Holst. Cynhelid yr Ŵyl – fel y gwneir o hyd – ym mis Mehefin, a llwyni rhododendron enwog Gregynog yn eu blodau. Câi ei chynnal ar ffurf parti plas, gyda’r holl artistiaid ac aelodau’r gynulleidfa yn aros yn y Plas. Talai Gwendoline am y perfformwyr, a rhannai weddill costau’r lletygarwch â’i chwaer.
Cymerodd aelodau o Gôr Gregynog ran mewn Cyngherddau Gorchymyn Brenhinol yn Neuadd Frenhinol Albert yn Llundain yn 1935 ac 1938, a gwnaethant sawl darllediad i’r BBC, gan gynnwys darllediad byw o’r Dioddefaint yn ôl Sant Mathew gan Bach o’r Ystafell Gerdd yn ystod Pasg 1939. Roedd oddeutu tri dwsin o gantorion yn y Côr a’u repertoire yn ymestyn o Palestrina a’r madrigalyddion i’r cyfansoddwyr blaenllaw a fyddai’n cyfansoddi a threfnu cerddoriaeth yn arbennig ar eu cyfer. Cafodd gwaith corawl olaf Gustav Holst, O spiritual pilgrim (1933), yr oedd wedi cychwyn ei amlinellu yng Ngregynog ar ôl yr Ŵyl gyntaf ac wedi’i gyflwyno ‘I Gregynog’, ei berfformio am y tro cyntaf er cof am y cyfansoddwr yn ystod yr ail Ŵyl yn 1934. Trefnodd Vaughan Williams ddwy gân werin Gymreig ar gyfer y Côr, sef ‘Tros y môr’ a ‘Can mlynedd i ’nawr’, ac mae The Pied Piper of Hamelin (1939) Walford Davies yn gyflwynedig ‘i holl Gantorion Gŵyl Gregynog’.
Daeth yr Ŵyl i ben yn sgil yr Ail Ryfel Byd yn 1939, a bu farw Gwendoline Davies yn 1951. Ymhen amser, dechreuodd Ian Parrott (1916–2012), a benodwyd i Gadair Gregynog yn Aberystwyth yn 1950, ddod â staff a myfyrwyr ei adran (gan gynnwys William Mathias a David Harries) i greu cerddoriaeth yn y Plas eto o 1954, a chyfarwyddodd ail gyfres o Wyliau, 1956–9 ac 1961. Roedd yr oböydd Evelyn Rothwell (y Fonesig Barbirolli), y delynores Ann Griffiths a’r cantorion Redvers Llewellyn a Helen Watts ymysg yr unawdwyr rhagorol a gyflwynwyd, a’r repertoire yn cynnwys y perfformiad cyntaf yng Nghymru o ddarn ar gyfer telyn unawdol gan Edmund Rubbra, Pezzo ostinato (1959), ynghyd â’r perfformiad cyntaf erioed o saraband Parrott ar gyfer offerynnau llinynnol, Mae ’nghariad i’n Fenws.
Trosglwyddwyd Gregynog mewn ymddiriedolaeth i Brifysgol Cymru fel Canolfan Gynadleddau yn 1960 a phenodwyd Glyn Tegai Hughes (1923–2017) yn warden cyntaf ar ôl marwolaeth Margaret Davies yn 1963. Cynhaliwyd Gŵyl ddeuddydd yn 1972, gyda datganiad gan Benjamin Britten, Peter Pears ac Osian Ellis i nodi diwedd cyfnod y telynor yn Gymrawd Celf Gregynog. Ymysg y Cymrodyr eraill yr oedd y cyfansoddwr ôl-Ramantaidd Graham Whettam (1927–2007), a rhoddwyd datganiadau a darlithoedd achlysurol gan Margaret Price, Elizabeth Vaughan, Rafael Orozco a’r ysgolhaig ar Haydn, H. C. Robbins Landon. Yn ogystal, trefnodd Coleg Telyn Cymru gyfres o gyrsiau yn yr Ystafell Gerdd, a fynychwyd gan y Catrin Finch ifanc.
Adferwyd yr Ŵyl bresennol gan y tenor Anthony Rolfe Johnson (1940–2010) yn 1988 ar ôl iddo roi datganiad yn y Plas i godi arian ar gyfer Eisteddfod yr Urdd yn y Drenewydd a dod yn ymwybodol o draddodiad cerddorol Gregynog. Ymysg y prif artistiaid yn y cyfnod hwn yn hanes yr Ŵyl yr oedd ei gyd-gerddorion Benjamin Luxon, Graham Johnson a John Lill, a chreodd hefyd gyfleoedd i unawdwyr newydd fel John Mark Ainsley, Freddy Kempf a Bryn Terfel. At hynny, lansiwyd Gwobr Cyfansoddwyr Gregynog Cymru gyda pherfformiadau cyntaf o weithiau buddugol yn rhan o’r Ŵyl.
Bellach mae Gŵyl Gregynog yn un o brif ddigwyddiadau diwylliannol Prydain, ac mae’n parhau i gynnwys yn ei rhaglen berfformiadau gan artistiaid rhyngwladol o’r radd flaenaf, gan gynnwys Alison Balsom, Iestyn Davies, Andrew Kennedy, Academi St Martin in the Fields, The King’s Singers, The Sixteen a The Tallis Scholars. Ers iddi ddod yn Gyfarwyddwr Artistig yn 2006, mae Rhian Davies wedi curadu pob tymor ar thema sy’n seiliedig ar hanes Gregynog a cherddoriaeth Cymru. Ymysg y gweithiau a gomisiynwyd ac a berfformiwyd am y tro cyntaf erioed bu darnau newydd gan Mervyn Burtch, Rhodri Davies, Helen Grime, Christopher Painter, Mark Simpson, Hilary Tann, Huw Watkins ac Eric Whitacre, yn ogystal â chyflwyniadau o gerddoriaeth Gymreig o’r Oesoedd Canol hyd y cyfnod modern, gan gyfansoddwyr fel John Lloyd, John Orlando Parry, Elizabeth Randles, Brinley Richards ac Alec Templeton. Trefnwyd rhaglenni hefyd yn Rhiwabon a Phrestatyn er mwyn tynnu sylw at y cysylltiadau â John Parry (Parri Ddall) a Benjamin Britten.
Datblygiad arall fu cyflwyno rhaglen o berfformiadau o gerddoriaeth gynnar yn seiliedig ar ymchwil hanesyddol. Ysbrydolwyd y rhaglen hon gan ŵyl gerddoriaeth harpsicord a gynhaliwyd yng Ngregynog yn 1931, a gwelwyd arbenigwyr blaenllaw fel Jordi Savall, Giuliano Carmignola, Ottavio Dantone, Philippe Pierlot, Accademia Bizantina, La Venexiana a Le Concert Spirituel yn rhoi perfformiadau cyntaf yng Nghymru ac unig berfformiadau’r tymor ym Mhrydain. Enwyd yr Ŵyl yn Ddigwyddiad Unigryw gan Croeso Cymru yn 2012 ac fe’i gwahoddwyd i fod yn aelod o’r Réseau Européen de Musique Ancienne yn Versailles yn 2013 – yr ŵyl Gymreig gyntaf i ddod yn aelod o’r rhwydwaith hwnnw. Mae wedi darparu deunydd darlledu i BBC Radio 3 bob blwyddyn er 2009 ac, ar gais Llywodraeth Cymru, wedi creu arddangosiadau i gynrychioli gwaith gwyliau Cymru yng Ngŵyl Bywyd Gwerin y Smithsonian, Washington DC, yn 2009, ac yn Wales Week USA yng Nghanolfan Lincoln, Efrog Newydd, yn 2010.
Rhian Davies
Llyfryddiaeth
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llyfrau Ymwelwyr Gregynog, 1921–31 (MS18462C) ac 1932–63 (MS18463C)
- W. R. Allen, ‘The choral tradition’, yn P. Crossley-Holland (gol.), Music in Wales (Llundain, 1948), 30–43
- I. Parrott, The Spiritual Pilgrims (Llandybïe, [1968])
- J. Hywel, ‘Music in Gregynog’, yn G. T. Hughes, P. Morgan a G. J. Thomas (gol.), Gregynog (Caerdydd, 1977)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.