Cydraddoldeb

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:12, 7 Medi 2024 gan AdamPierceCaerdydd (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: Equality)

1. Cyflwyniad i gydraddoldeb

Mae cydraddoldeb yn gysyniad cwbl greiddiol i gymdeithasau democrataidd, ac mae’n gysyniad sydd wrth wraidd damcaniaethau cyfiawnder cymdeithasol. Cymdeithas gyfartal yw cymdeithas sy’n amddiffyn ac yn hyrwyddo cydraddoldeb er mwyn sicrhau y gall pawb ffynnu ynddi. Mae cymdeithas gyfartal yn cydnabod anghenion, nodau a sefyllfaoedd amrywiol unigolion ac yn ceisio gweithio tuag at ddileu unrhyw wahaniaethu a rhagfarn gan fynd i’r afael ag unrhyw rwystrau sy’n cyfyngu ar yr hyn y gall pobl ei wneud a’i ddweud. Yn greiddiol i gydraddoldeb y mae cydnabod bod rhai grwpiau o fewn cymdeithas yn hanesyddol wedi dioddef gwahaniaethu ar sail nodweddion arbennig megis dosbarth, ethnigrwydd, anabledd, rhywedd a rhywioldeb. Felly, gellir disgrifio cydraddoldeb fel y cyflwr lle mae unigolion a grwpiau’n cael eu trin yn gyfartal, yn enwedig o ran statws, hawliau a chyfleoedd o fewn cymdeithas.

2. Mathau gwahanol o gydraddoldeb

Mae yna ddau brif fath o gydraddoldeb, sef cyfle cyfartal a chydraddoldeb canlyniad. Ceir safbwyntiau gwahanol tuag at y mathau hyn o gydraddoldeb, gyda rhai unigolion yn credu bod angen sicrhau bod gan bawb gyfle cyfartal mewn cymdeithas ac eraill yn credu bod angen cydraddoldeb canlyniad mewn cymdeithas.

2.1. Cyfle cyfartal

Yn ôl y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (Equality and Human Rights Commission, 2018), nod cydraddoldeb yw sicrhau bod pob unigolyn yn cael cyfle cyfartal i wneud y gorau o’i fywyd, heb wahaniaethu yn ei erbyn neu ei drin yn llai ffafriol ar sail unrhyw rinweddau personol y mae’n eu meddu. Cyfle cyfartal (equality of opportunity) yw’r term a ddefnyddir am y math hwn o gydraddoldeb.

Serch hynny, mae’r cysyniad hwn wedi’i feirniadu gan rai am nad yw’n mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb sy’n bodoli mewn cymdeithas. Mae rhai unigolion neu grwpiau’n wynebu mwy o rwystrau mewn cymdeithas o’u cymharu â grwpiau eraill, ac mae’n bosib na fyddai dim ond cynnig cyfle cyfartal i bawb yn cael gwared o’r rhwystrau y mae’r grwpiau hyn yn eu profi. Yn hytrach, mae Young (2006) ac eraill yn dadlau bod y cysyniad o gyfle cyfartal yn cynnal anghydraddoldebau o fewn cymdeithas.

2.2. Cydraddoldeb canlyniad

Cydraddoldeb canlyniad yw’r ail fath o gydraddoldeb. Mae cydraddoldeb canlyniad (equality of outcomes) yn aml yn cael ei ddefnyddio mewn cyferbyniad â’r cysyniad o gyfle gyfartal (equal opportunity). Mae’r math hwn o gydraddoldeb yn cyfeirio at y gred y dylai pawb gael yr un canlyniad yn hytrach na dim ond y cyfle i gaffael y canlyniad hwnnw, fel sy’n wir yn yr egwyddor o gyfle cyfartal. Mae’n cynnwys cynorthwyo unigolion/grwpiau difreintiedig sy’n wynebu anfanteision i sicrhau’r un canlyniadau â grwpiau eraill mewn meysydd megis addysg a byd gwaith.

Yn gysylltiedig â chydraddoldeb canlyniad y mae’r cysyniad o weithredu cadarnhaol (affirmative action). Defnyddir hyn gan amlaf ym myd gwaith er mwyn ceisio sicrhau bod mesurau yn eu lle i gefnogi’r broses o recriwtio unigolion sy’n perthyn i grwpiau sydd yn hanesyddol heb gael cynrychiolaeth ddigonol mewn sefydliadau. Er enghraifft, fe allai cyflogwr benderfynu cyflogi unigolyn sy’n perthyn i grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol mewn sefydliad ar yr amod ei fod yr un mor gymwys a’r un mor addas ar gyfer y rôl â’r ymgeiswyr eraill.

Mae’n bosib hefyd i gyflogwyr osod gofynion galwedigaethol (occupational requirements) ar rai swyddi fel eu bod yn cyflogi unigolion ar sail nodweddion penodol oherwydd natur neu gyd-destun gwaith neu swydd. Er enghraifft, fe allai lloches i ferched sydd wedi cael profiad o drais domestig hysbysebu am weithwyr benywaidd gan y byddai’r preswylwyr yn teimlo’n fwy diogel gyda gweithwyr benywaidd. Yn ogystal, o ganlyniad i Fesur y Gymraeg (2011), mae’n ofynnol i rai swyddi yng Nghymru, yn bennaf yn y sector cyhoeddus, gael eu llenwi gan siaradwyr Cymraeg er mwyn gallu cynnig gwasanaethau i’r cyhoedd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Er hynny, mae cydraddoldeb canlyniad yn gysyniad dadleuol. Un o’r problemau gyda chydraddoldeb canlyniad yw fod rhai grwpiau’n cael eu trin yn fwy ffafriol nag eraill, yn seiliedig ar eu nodweddion cymdeithasol, yn y math hwn o gydraddoldeb (gweler Phillips 2004).

3. Safbwyntiau’r gwyddorau cymdeithasol ar gydraddoldeb

Ceir dau brif safbwynt ar gydraddoldeb o fewn y gwyddorau cymdeithasol.

3.1. Theorïau consensws (consensus theories) a chydraddoldeb

Ar un llaw mae cymdeithasegwyr swyddogaetholdeb, megis Davis a Moore (1945) a Parsons (1961), yn credu bod anghydraddoldeb yn gwbl anochel ac yn angenrheidiol er mwyn i gymdeithas weithredu, er enghraifft er budd sefydlogrwydd a threfn gymdeithasol. Credant fod pob cymdeithas yn anghyfartal i ryw raddau. Yn ôl y gred hon, mae cymdeithas yn seiliedig ar system o’r enw meritocratiaeth (gweler Young 1958). Mewn cymdeithas feritocrataidd, mae unigolion yn cael eu gwobrwyo ar sail teilyngdod, gallu neu ymdrech, ond dadl swyddogaetholdeb yw fod y system yn creu cymhelliant sy’n annog cystadleuaeth ymysg unigolion.

Dadl y cymdeithasegwyr hyn yw fod y system addysg yn cyflawni swyddogaethau cadarnhaol i bob unigolyn yn ogystal â’r gymdeithas ehangach. Honnant fod y system addysg yn paratoi unigolion ar gyfer y gweithlu ar sail eu gallu, ond golyga hyn mai’r unigolion mwyaf talentog sy’n cael eu penodi i’r swyddi pwysicaf yn y gymdeithas. Drwy wneud hyn, mae’r system addysg yn cyfiawnhau ac yn cynnal anghydraddoldeb ymysg unigolion gan ei bod yn sicrhau mai dim ond y rhai mwyaf talentog sydd gan amlaf yn cael y swyddi sy’n talu orau ac sydd o statws uchel.

3.2. Theorïau gwrthdaro (conflict theories) a chydraddoldeb

Fodd bynnag, mae’r safbwynt hwn wedi cael ei feirniadu’n helaeth gan gymdeithasegwyr sydd â phersbectif gwrthdaro (conflict perspective) ar gymdeithas. Mae’r rhain yn tueddu i ganolbwyntio ar anghydraddoldebau gwahanol grwpiau cymdeithasol o fewn ein cymdeithas. Mae theorïau gwrthdaro megis Marcsaeth yn credu bod y drefn gymdeithasol yn cael ei chynnal a’i chyfiawnhau drwy ideoleg a hegemoni ddiwylliannol. Byddai Marcswyr yn dadlau nad yw’r anghydraddoldeb sy’n bodoli rhwng dosbarthiadau cymdeithasol gwahanol yn gyfiawn yn y gymdeithas oherwydd mai’r bourgeoisie (y dosbarth uwch) yn unig sy’n manteisio yn sgil cyfalafiaeth.

Mae ffeministiaeth yn edrych ar anghydraddoldeb ar sail rhywedd, theori feirniadol hil yn edrych ar anghydraddoldeb ar sail ethnigrwydd a theori feirniadol anabledd yn edrych ar anghydraddoldeb ar sail anabledd. Yn wahanol i’r rhai sy’n arddel swyddogaetholdeb, maent yn dadlau nad yw cymdeithas yn deg ac yn feritocrataidd, a bod unigolion a grwpiau’n wynebu anghydraddoldeb ar sail rhywedd, ar sail ethnigrwydd ac ar sail anabledd o fewn ein cymdeithas.

Mae’n bwysig hefyd gydnabod y gall unigolion a/neu grwpiau wynebu sawl math o wahaniaethu yr un pryd. Er enghraifft, gallai gwahanol ffurfiau ar ormes ac anfanteision fel hiliaeth, rhywiaeth, rhagfarn ar sail oed, rhagfarn ar sail cyfeiriadedd rhwyiol, ac ablaeth (ableism) fod yn weithredol yr un pryd ym mywyd rhai unigolion. Croestoriadedd yw’r term a ddefnyddir am y fframwaith o geisio deall sut mae nodweddion cymdeithasol gwahanol yn effeithio ar fywydau pobl yr un pryd â’i gilydd.

4. Ideolegau gwleidyddol a chydraddoldeb

Ceir hefyd wahaniaethau ideolegol nodweddiadol ynglŷn â’r modd y dylid ymdrin â chysyniadau o gydraddoldeb ac anghydraddoldeb o fewn ein cymdeithas. Er enghraifft, mae safbwyntiau gwahanol gan ideolegau gwleidyddol megis Ceidwadaeth, Rhyddfrydiaeth a Sosialaeth ar gydraddoldeb mewn cymdeithas.

5. Polisi a chydraddoldeb

Yn 2010 pasiwyd Deddf Cydraddoldeb, sef ‘fframwaith cyfreithiol i ddiogelu hawliau unigolion a hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb’ (Equality and Human Rights Commission 2018). Mae’r ddeddf yn cydnabod nodweddion gwarchodedig (protected characteristics) sy’n gwahardd unigolion rhag cael eu gwahaniaethu ar sail y canlynol: rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, hil, oed, crefydd neu gred, anabledd, beichiogrwydd a mamolaeth, priodas a phartneriaeth sifil. Mae’n werth nodi hefyd fod y ddeddf yn diffinio anabledd fel unrhyw nam neu gyflwr corfforol neu feddyliol sydd yn cael effaith hirdymor a niweidiol ar allu unrhyw un i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd. Felly, gallai afiechyd meddwl gael ei ddiffinio fel math o anabledd o dan y ddeddf (Mind 2020). Fel rhan o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae Llywodraeth Cymru (2020) wedi cyflwyno’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol ar gyfer cyrff cyhoeddus penodedig yng Nghymru er mwyn sicrhau bod gwell canlyniadau i’r rheini sy’n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn amddiffyn unigolion mewn amryw o feysydd megis y gweithle, addysg, fel defnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus, ac wrth brynu a rhentu eiddo.

Adam Pierce

Llyfryddiaeth

Davis, K. a Moore, W. (1945), ‘Some principles of stratification’, American Sociological Review, 19(2), 242–9.

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (2018), Deall cydraddoldeb, https://www.equalityhumanrights.com/cy/secondary-education-resources/useful-information/deall-cydraddoldeb [Cyrchwyd: 25 Mai 2023].

Llywodraeth Cymru (2020), Dyletswydd Economaidd-gymdeithasol: trosolwg, https://llyw.cymru/dyletswydd-economaidd-gymdeithasol-trosolwg [Cyrchwyd: 25 Mai 2021].

Mesur y Gymraeg (2011), https://www.legislation.gov.uk/mwa/2011/1/resources/enacted/welsh [Cyrchwyd: 25 Mai 2023].

Mind. (2020), Disability Discrimination, https://www.mind.org.uk/information-support/legal-rights/disability-discrimination/equality-act-2010/ [Cyrchwyd: 25 Mai 2021].

Parsons, T. (1961), ‘The school class as a social system: some of its functions in American society’ yn: Halsey, A., Floud, J. ac Anderson, C. A. (goln), Education, Economy and Society: a Reader in the Sociology of Education (New York: Free Press), tt. 434–55.

Phillips, A. (2004), ‘Defending equality of outcome’, Journal of Political Philosophy, 12(1), 1–19.

Young, M. (1958), The Rise of the Meritocracy (London: Thames a Hudson).

Young, M. (2006), ‘Looking back on meritocracy’ yn: Dench, G. (gol.), The Rise and Rise of Meritocracy (New York: Blackwell Publishing), tt. 73–7.


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.