Chiswell, Huw (g.1961)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Canwr a chyfansoddwr a ddaeth i amlygrwydd yn ystod yr 1980au. Ganed yng Nghwmtawe a’i fagu ym mhentref Godre’r-graig. Fe gafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Ystalyfera a Phrifysgolion Aberystwyth ac Abertawe, gan raddio’n y Gymraeg. Bu’n aelod o’r grwpiau pync a thon newydd Y Trwynau Coch a Crach yn ystod yr 1980au cynnar, gan ddod yn fuddugol yng nghystadleuaeth cân serch Eisteddfod Ryng-golegol 1981.

Daeth i sylw cenedlaethol am y tro cyntaf ar ôl ennill Cystadleuaeth Cân i Gymru yn 1984 gyda’r gân ‘Y Cwm’. Geraint Griffiths oedd y perfformiwr ond roedd Chiswell yntau’n ganwr talentog ac yn bianydd galluog, ac yn fuan wedi llwyddiant ‘Y Cwm’ dechreuodd recordio a pherfformio ei ganeuon ei hun. Derbyniodd lwyddiant pellach yn 1985 pan gyfansoddodd y gân anthemig ‘Dwylo Dros y Môr’, er mwyn codi arian at Apêl Newyn Ethiopia. Cyd-ganodd nifer helaeth o gantorion a pherfformwyr Cymraeg adnabyddus ar y record, gan gynnwys Dafydd Iwan, Geraint Jarman, Linda Griffiths a Caryl Parry Jones. Amcangyfrifir bod 22,000 o gopïau o’r record wedi’u gwerthu gan gyfrannu’n sylweddol at y swm o chwarter miliwn a godwyd. Flwyddyn yn ddiweddarach, rhyddhaodd Chiswell ei record hir unigol gyntaf, Rhywbeth o’i Le (Sain, 1986). Profai yr ystod eang o ganeuon ar y record - o’r gân deitl, a oedd yn sôn am farwolaeth milwr Cymraeg yng Ngogledd Iwerddon, i’r gân ddigri ‘Parti’r Ysbrydion’ – allu Chiswell i symud yn naturiol o’r llon i’r lleddf.

Fel cyfansoddwr, mae Chiswell yn meddu ar y ddawn i gyfansoddi alawon cryf a chofiadwy. Nodweddir nifer o’i ganeuon gorau gan bwnio piano egnïol, cyfeiliant offerynnau pres a llais llawn teimlad ac argyhoeddiad. Clywir ystod eang o ddylanwadau ynddynt – o Tom Waits i Billy Joel – ond bod Chiswell yn gweld y byd a’i bethe trwy sbienddrych Cymreig. Defnyddiodd ei gefndir yng Nghwm Tawe yn gynfas i nifer o’i ganeuon mwyaf dirdynnol, o’r gân deyrnged ‘Y Cwm’ a ‘Rhywbeth o’i Le’ i ‘Nos Sul yn Baglan Bay’, sy’n ymdrin ag alltudiaeth oddi yno, a ‘Gadael Abertawe’ sy’n cyfeirio at ei fagwraeth grefyddol. Mae ei ganeuon yn aml yn seiliedig ar brofiadau personol, hunangofiannol, megis ‘Tadcu’, neu’n ymdrin â themâu megis edifeirwch a hunanymholi.

Bu bwlch o bedair blynedd cyn i Chiswell ryddhau ei drydedd record hir, Cameo Man (1993), ar label annibynnol, ac yna seibiant o ddeng mlynedd cyn y bedwaredd, Dere Nawr (Sain, 2003), a gynhyrchwyd gan Richard Dunn (un o Gynganeddwyr Geraint Jarman) yn ei stiwdio yng Nghaerdydd. Parhau i ddarlunio storïau yn ei ganeuon a wnâi Chiswell, gyda’r pwyslais o bryd i’w gilydd ar enwau a lleoliadau ei fro ei hun, yn ddramatig yn y gân ‘Gadael Abertawe’, yn fwy hiraethus yn y gân ‘Gyrru Nôl’. Rhyddhawyd y casgliad Goreuon gan Sain yn 2005, ac yn 2008 ei bumed record hir Neges Dawel (Sain), a recordiwyd hefyd yn stiwdio Dunn.

Bu ef a’i fand yn perfformio’n rheolaidd ar S4C, ond fe wnaeth yrfa iddo’i hun hefyd yn y cyfryngau fel cynhyrchydd, cyfarwyddwr a chyflwynydd yn ogystal ag actor. Cafodd ei gastio fel yr hwlcyn o Sbaenwr, Carlos, yn y ffilm Ibiza, Ibiza! (HTV, 1986) gan gyd-serennu gydag Emyr Wyn (Rhisiart) a Caryl Parry Jones (Glenys), y pâr dosbarth-canol Cymraeg. Bu’n gyfrifol hefyd am gyfres o raglenni dychanol ac agos at yr asgwrn a ddarlledwyd o’r Eisteddfod Genedlaethol o dan y teitl Swigs. Darlledwyd yr olaf a’r seithfed yn y gyfres o Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd yn 1993. Yn fwy diweddar bu’n feirniad ar y gyfres Wawffactor yn 2005, ynghyd â bod yn gyflwynydd teledu ar Noson Chis a Meinir (Cwmni Da, 2007–8).

Hefin Wyn a Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

  • Rhywbeth o’i Le (Sain C996, 1986)
  • Rhywun yn Gadael (Sain 1429M, 1989)
  • Cameo Man ([di-enw] 1993)
  • Dere Nawr (Sain SCD2365, 2003)
  • Goreuon (Sain SCD2478, 2005)
  • Neges Dawel (Sain SCD2565, 2008)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.