Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ffurfiau Offerynnol"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Araf fu datblygiad ffurfiau offerynnol yng Nghymru megis y consierto, y symffoni a’r sonata, rhwng 1750 ac 1900. Roedd nifer o resymau yn gyfrifol am hyn. Ni fu hanes na thraddodiad cryf o berfformio ym maes cerddoriaeth gelfyddydol yng Nghymru nes dechrau’r 20g., ac fe âi’r cerddorion mwyaf dawnus ([[telynorion]] a chantorion gan fwyaf), dros y ffin i Loegr er mwyn datblygu eu crefft a’u gyrfa.
+
Araf fu datblygiad ffurfiau offerynnol yng Nghymru megis y consierto, y symffoni a’r sonata, rhwng 1750 ac 1900. Roedd nifer o resymau yn gyfrifol am hyn. Ni fu hanes na thraddodiad cryf o berfformio ym maes cerddoriaeth gelfyddydol yng Nghymru nes dechrau’r 20g., ac fe âi’r cerddorion mwyaf dawnus ([[Telyn | telynorion]] a chantorion gan fwyaf), dros y ffin i Loegr er mwyn datblygu eu crefft a’u gyrfa.
  
Ni chafwyd ychwaith gerddorfa broffesiynol yng Nghymru nes ffurfio [[Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC]] wedi’r Ail Ryfel Byd, ac o ganlyniad ni fu cyfleoedd ar gael i gyfansoddwyr feithrin sgiliau cerddorfaeth ac i arbrofi gyda ffurfiau symffonig. Mae’n wir dweud nad prif swyddogaeth [[Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC]] yn ystod degawdau cynnar y gerddorfa oedd hyrwyddo cerddoriaeth newydd gan gyfansoddwyr Cymreig. Fodd bynnag, gwelwyd newid graddol erbyn chwarter olaf yr 20g., gyda’r gerddorfa yn ehangu yn 1974 i gynnwys 60 o offerynwyr. Yn ystod cyfnod cynnar yr 21g., crëwyd rôl ar gyfer Cyfansoddwr Preswyl a Chyfansoddwr-ar-y-Cyd (''composer-in-association''), gyda [[Guto Puw]] a [[Huw Watkins]], ymysg eraill, yn ddeiliaid y teitl ar wahanol adegau.
+
Ni chafwyd ychwaith gerddorfa broffesiynol yng Nghymru nes ffurfio [[Cerddorfeydd, Corau, Cerddorfeydd Ieuenctid ac Ensemblau | Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC]] wedi’r Ail Ryfel Byd, ac o ganlyniad ni fu cyfleoedd ar gael i gyfansoddwyr feithrin sgiliau cerddorfaeth ac i arbrofi gyda ffurfiau symffonig. Mae’n wir dweud nad prif swyddogaeth Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn ystod degawdau cynnar y gerddorfa oedd hyrwyddo cerddoriaeth newydd gan gyfansoddwyr Cymreig. Fodd bynnag, gwelwyd newid graddol erbyn chwarter olaf yr 20g., gyda’r gerddorfa yn ehangu yn 1974 i gynnwys 60 o offerynwyr. Yn ystod cyfnod cynnar yr 21g., crëwyd rôl ar gyfer Cyfansoddwr Preswyl a Chyfansoddwr-ar-y-Cyd (''composer-in-association''), gyda [[Puw, Guto (g.1971) | Guto Puw]] a [[Watkins, Huw (g.1976) | Huw Watkins]], ymysg eraill, yn ddeiliaid y teitl ar wahanol adegau.
  
 +
==Cyn 1900==
  
'''Cyn 1900'''
+
Pur annhebyg y byddai [[Thomas, John (Pencerdd Gwalia; 1826-1913) | John Thomas]] ([[Pencerdd]] Gwalia; 1826–1913) wedi mentro i faes cerddoriaeth offerynnol oni bai ei fod wedi derbyn ei addysg gerddorol yn Llundain, lle’r astudiodd yn yr Academi Frenhinol rhwng 1840 ac 1846. Cyfansoddodd ddwy gonsierto i’r delyn ynghyd â symffoni a phedwarawd llinynnol, gan amsugno yr hyn a ddisgrifiodd Carys Ann Roberts fel ‘agwedd gosmopolitanaidd’ ddiwylliannol y ddinas (Roberts 2000, 88).
  
Pur annhebyg y byddai [[John Thomas]] ([[Pencerdd]] Gwalia; 1826–1913) wedi mentro i faes cerddoriaeth offerynnol oni bai ei fod wedi derbyn ei addysg gerddorol yn Llundain, lle’r astudiodd yn yr Academi Frenhinol rhwng 1840 ac 1846. Cyfansoddodd ddwy gonsierto i’r delyn ynghyd â symffoni a phedwarawd llinynnol, gan amsugno yr hyn a ddisgrifiodd Carys Ann Roberts fel ‘agwedd gosmopolitanaidd’ ddiwylliannol y ddinas (Roberts 2000, 88).
+
Roedd newidiadau ar droed ym maes cerddoriaeth offerynnol oddi mewn i Gymru hefyd. Yn ystod yr 1860au, daeth perfformiadau o symffonïau Beethoven yn boblogaidd mewn trefi diwydiannol megis Merthyr mewn trefniannau ar gyfer bandiau pres. O bryd i’w gilydd, roedd cyfansoddwyr megis [[Parry, Joseph (1841-1903) | Joseph Parry]] (1841–1903) a [[Protheroe, Daniel (1866-1934) | Daniel Protheroe]] (1866–1934) yn barod i fentro i faes y symffoni, gyda cathl symffonig Protheroe, ''In the Cambrian Hills'', yn waith llwyddiannus. Fodd bynnag, eithriadau oedd y gweithiau hyn o’u cymharu ag allbwn cyfansoddwyr Cymreig y cyfnod ym maes cerddoriaeth leisiol.
  
Roedd newidiadau ar droed ym maes cerddoriaeth offerynnol oddi mewn i Gymru hefyd. Yn ystod yr 1860au, daeth perfformiadau o symffonïau Beethoven yn boblogaidd mewn trefi diwydiannol megis Merthyr mewn trefniannau ar gyfer bandiau pres. O bryd i’w gilydd, roedd cyfansoddwyr megis [[Joseph Parry]] (1841–1903) a [[Daniel Protheroe]] (1866–1934) yn barod i fentro i faes y symffoni, gyda cathl symffonig Protheroe, ''In the Cambrian Hills'', yn waith llwyddiannus. Fodd bynnag, eithriadau oedd y gweithiau hyn o’u cymharu ag allbwn cyfansoddwyr Cymreig y cyfnod ym maes cerddoriaeth leisiol.
+
==Ar ôl 1900==
  
 +
Yn dilyn poblogrwydd y gerdd (neu’r gathl) symffonig ar ddiwedd y 19g., daeth y ffurf yn boblogaidd yng Nghymru o bosib am ei bod yn ffurf fwy hyblyg, ar raddfa lai na’r symffoni; roedd yr elfen raglennol yn ysbrydoliaeth i nifer o gyfansoddwyr hefyd. Roedd ''Morfa Rhuddlan'' (1914) gan [[Owen, Morfydd (1891-1918) | Morfydd Owen]] (1891– 1918) yn enghraifft gynnar, ac fe gyfrannodd nifer i’r ''genre'' ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys [[Williams, Grace (1906-77) | Grace Williams]] (1906–77), Dalwyn Henshall (g.1957) a [[Glyn, Gareth (g.1951) | Gareth Glyn]] (g.1951).
  
'''Ar ôl 1900'''
+
Daeth tro ar fyd yn ail hanner yr 20g., gyda’r traddodiad symffonig yng Nghymru yn cael ei sefydlu yn arbennig trwy waith [[Daniel Jones]] (1912–93), Grace Williams a [[Wynne, David (1900-83) | David Wynne]] (1900–83). Gwelwyd cynnydd amlwg o gyfnod yr 1950au ymlaen, gyda Symffoni Rhif 1 [[Hoddinott, Alun (1929-2008) | Alun Hoddinott]] (1929–2008) yn derbyn perfformiad cyntaf yn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Genedlaethol Pwllheli 1955, a Grace Williams a David Wynne ill dau yn cwblhau eu hail symffonïau yn 1956. (Aeth Wynne ymlaen i gyfansoddi trydedd symffoni yn 1963 o’r enw ''Castell Caerffili'' (1963) – un o’i weithiau gorau, yn ôl [[Davies, Lyn (g.1956) | Lyn Davies]].)
 
 
Yn dilyn poblogrwydd y gerdd (neu’r gathl) symffonig ar ddiwedd y 19g., daeth y ffurf yn boblogaidd yng Nghymru o bosib am ei bod yn ffurf fwy hyblyg, ar raddfa lai na’r symffoni; roedd yr elfen raglennol yn ysbrydoliaeth i nifer o gyfansoddwyr hefyd. Roedd ''Morfa Rhuddlan'' (1914) gan [[Morfydd Owen]] (1891– 1918) yn enghraifft gynnar, ac fe gyfrannodd nifer i’r ''genre'' ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys [[Grace Williams]] (1906–77), Dalwyn Henshall (g.1957) a [[Gareth Glyn]] (g.1951).
 
 
 
Daeth tro ar fyd yn ail hanner yr 20g., gyda’r traddodiad symffonig yng Nghymru yn cael ei sefydlu yn arbennig trwy waith [[Daniel Jones]] (1912–93), Grace Williams a [[David Wynne]] (1900–83). Gwelwyd cynnydd amlwg o gyfnod yr 1950au ymlaen, gyda Symffoni Rhif 1 [[Alun Hoddinott]] (1929–2008) yn derbyn perfformiad cyntaf yn [[Eisteddfod]] Genedlaethol Pwllheli 1955, a Grace Williams a David Wynne ill dau yn cwblhau eu hail symffonïau yn 1956. (Aeth Wynne ymlaen i gyfansoddi trydedd symffoni yn 1963 o’r enw ''Castell Caerffili'' (1963) – un o’i weithiau gorau, yn ôl [[Lyn Davies]].)
 
  
 
Erbyn hyn roedd Daniel Jones eisoes wedi cyfansoddi sawl symffoni, gyda’i bedwaredd – er cof am ei gyfaill y bardd Dylan Thomas – yn derbyn perfformiad yn Eisteddfod Genedlaethol Ystradgynlais yn 1954. Aeth Jones ymlaen i gwblhau pedair symffoni ar ddeg ynghyd â chorff sylweddol o gerddoriaeth siambr.
 
Erbyn hyn roedd Daniel Jones eisoes wedi cyfansoddi sawl symffoni, gyda’i bedwaredd – er cof am ei gyfaill y bardd Dylan Thomas – yn derbyn perfformiad yn Eisteddfod Genedlaethol Ystradgynlais yn 1954. Aeth Jones ymlaen i gwblhau pedair symffoni ar ddeg ynghyd â chorff sylweddol o gerddoriaeth siambr.
Llinell 24: Llinell 22:
 
Defnyddia symffonïau Jones bob un o nodau’r raddfa gromatig yn sail i’w cywair. Mae’r rhai agoriadol yn gymharol donyddol gan arddangos dylanwad y symffoni yn ystod y cyfnod Rhamantaidd. Clywir Jones yn arbrofi gyda rhythmau mwy cymhleth yn symudiadau bywiog ei symffonïau. Mae Symffonïau 6 hyd at 9 yn fwy uchelgeisiol ac unigolyddol tra bod y set olaf yn tueddu i fod yn fwy cynnil a chryno o ran ffurf a deunydd.
 
Defnyddia symffonïau Jones bob un o nodau’r raddfa gromatig yn sail i’w cywair. Mae’r rhai agoriadol yn gymharol donyddol gan arddangos dylanwad y symffoni yn ystod y cyfnod Rhamantaidd. Clywir Jones yn arbrofi gyda rhythmau mwy cymhleth yn symudiadau bywiog ei symffonïau. Mae Symffonïau 6 hyd at 9 yn fwy uchelgeisiol ac unigolyddol tra bod y set olaf yn tueddu i fod yn fwy cynnil a chryno o ran ffurf a deunydd.
  
Bu adfywiad hefyd ymysg y cyfansoddwyr hynny a ymddangosai yn y bwlch rhwng Daniel Jones a Grace Williams ar un llaw, a Hoddinott a [[William Mathias]] (1934–92) ar y llaw arall. Yn eu mysg mae [[Denis ApIvor]] (1916–2004), a gyfansoddodd bum symffoni, Concerto i’r Cello (1977), ynghyd â nifer o bedwarawdau llinynnol.
+
Bu adfywiad hefyd ymysg y cyfansoddwyr hynny a ymddangosai yn y bwlch rhwng Daniel Jones a Grace Williams ar un llaw, a Hoddinott a [[Mathias, William (1934-92) | William Mathias]] (1934–92) ar y llaw arall. Yn eu mysg mae [[ApIvor, Denis (1916-2004) | Denis ApIvor]] (1916–2004), a gyfansoddodd bum symffoni, Concerto i’r Cello (1977), ynghyd â nifer o bedwarawdau llinynnol.
  
Un thema gyson yn ystod yr 20g. yw agwedd y cyfansoddwr at donyddiaeth fel rhan o’r ddadl symffonig, gyda rhai yn arfer elfennau tonyddol, eraill yn chwilio am ffyrdd amgen o ddatblygu harmoni yn eu gwaith, tra bod eraill yn ymwrthod â thonyddiaeth yn llwyr gan fabwysiadu cromatiaeth a chyfresiaeth. Yn y Concerto i’r Utgorn, gwelir Grace Williams yn dilyn llwybr amgen moddawl er mwyn gwrthgyferbynnu swyddogaeth yr unawdydd a’r gerddorfa. Yn achos [[Ian Parrott]] (1916–2012) a [[Reginald Smith Brindle]] (1917–2003), mae’r naill yn aros o fewn y traddodiad tonyddol tra bod y llall yn mynd i gyfeiriad digyweiredd a chyfresiaeth.
+
Un thema gyson yn ystod yr 20g. yw agwedd y cyfansoddwr at donyddiaeth fel rhan o’r ddadl symffonig, gyda rhai yn arfer elfennau tonyddol, eraill yn chwilio am ffyrdd amgen o ddatblygu harmoni yn eu gwaith, tra bod eraill yn ymwrthod â thonyddiaeth yn llwyr gan fabwysiadu cromatiaeth a chyfresiaeth. Yn y Concerto i’r Utgorn, gwelir Grace Williams yn dilyn llwybr amgen moddawl er mwyn gwrthgyferbynnu swyddogaeth yr unawdydd a’r gerddorfa. Yn achos [[Parrott, Ian (1916-2012) | Ian Parrott]] (1916–2012) a [[Smith Brindle, Reginald (1917-2003) | Reginald Smith Brindle]] (1917–2003), mae’r naill yn aros o fewn y traddodiad tonyddol tra bod y llall yn mynd i gyfeiriad digyweiredd a chyfresiaeth.
  
 
Dywed yr ysgolhaig David Wright mai Symffoni Rhif 4 Parrott yw un o’i gyfansoddiadau gorau (Wright 2012). Saif ei Bumed Symffoni (1981), hefyd, fel gwaith effeithiol. Yn ôl Dalwyn Henshall, mae Parrott yn llwyddo i osod egwyddorion ffurf sonata ar draws tri symudiad y gwaith. Gyda phob un o’r symudiadau yn derbyn is-deitlau ''(confrontation, alternation'' ac ''integration)'', gwelir y cyfansoddwr yn efelychu ffurf sonata â’i ddefnydd o’r dangosiad, datblygiad ac ail-ddangosiad: ‘music such as to be found in [Parrott’s] Fifth Symphony has an innate strength which will render it immune from the shifting tides of fashion’ (Henshall 1982, 21).
 
Dywed yr ysgolhaig David Wright mai Symffoni Rhif 4 Parrott yw un o’i gyfansoddiadau gorau (Wright 2012). Saif ei Bumed Symffoni (1981), hefyd, fel gwaith effeithiol. Yn ôl Dalwyn Henshall, mae Parrott yn llwyddo i osod egwyddorion ffurf sonata ar draws tri symudiad y gwaith. Gyda phob un o’r symudiadau yn derbyn is-deitlau ''(confrontation, alternation'' ac ''integration)'', gwelir y cyfansoddwr yn efelychu ffurf sonata â’i ddefnydd o’r dangosiad, datblygiad ac ail-ddangosiad: ‘music such as to be found in [Parrott’s] Fifth Symphony has an innate strength which will render it immune from the shifting tides of fashion’ (Henshall 1982, 21).
  
O ran crefft y cyfansoddi, cynildeb y mynegiant a sylwedd y cynnyrch, mae allbwn symffonig Hoddinott yn sefyll ben ac ysgwyddau uwchlaw ei gyfoeswyr. Fodd bynnag, drwy ei gonsiertos y daeth Hoddinott i sylw cenedlaethol cynnar. Derbyniodd y Concerto Rhif 1 i’r Clarinet Op. 3 (1950) a’r Concerto [[Telyn]] Op. 11 (1957/1970) eu perfformiadau cyntaf yng [[Ngŵyl]] Cheltenham – y naill yn 1953 a’r llall yn 1958. Er i Symffoni Rhif 1 Hoddinott dderbyn perfformiad yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1955, cerddorfeydd y tu hwnt i Glawdd Offa fu’n fwyaf parod i gomisiynu gweithiau newydd ganddo, megis Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl a Cherddorfa’r Hallé ym Manceinion.
+
O ran crefft y cyfansoddi, cynildeb y mynegiant a sylwedd y cynnyrch, mae allbwn symffonig Hoddinott yn sefyll ben ac ysgwyddau uwchlaw ei gyfoeswyr. Fodd bynnag, drwy ei gonsiertos y daeth Hoddinott i sylw cenedlaethol cynnar. Derbyniodd y Concerto Rhif 1 i’r Clarinet Op. 3 (1950) a’r Concerto [[Telyn]] Op. 11 (1957/1970) eu perfformiadau cyntaf yng [[Gwyliau Cerddoriaeth | Ngŵyl]] Cheltenham – y naill yn 1953 a’r llall yn 1958. Er i Symffoni Rhif 1 Hoddinott dderbyn perfformiad yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1955, cerddorfeydd y tu hwnt i Glawdd Offa fu’n fwyaf parod i gomisiynu gweithiau newydd ganddo, megis Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl a Cherddorfa’r Hallé ym Manceinion.
  
 
Yn wahanol i Parrott a Smith Brindle, mae’r undod sy’n perthyn i’r ddadl symffonig yng ngwaith Hoddinott yn ymddangos un ai trwy ei ddefnydd o donyddiaeth estynedig, megis deugyweiredd ''(bitonality)'', neu (fel yn achos yr ail gonsierto i’r Clarinét) drwy dechnegau cyfresol hyblyg, lle mae’r gyfres yn gosod cymeriad arbennig i ddeunydd thematig y gwaith. Un nodwedd o waith Hoddinott oedd ei barodrwydd i arbrofi ac amrywio gyda fformiwlâu arferol consiertos a symffonïau. Mae Symffonïau Rhif 3, 4 a 5 mewn dau symudiad tra bod y Symffoni Rhif 6 mewn un symudiad di-dor. Yn ôl Taylor, nid yw’r ffurf dau symudiad yn gwbl lwyddiannus bob tro (Taylor 1987, 45), ond o leiaf mae’n rhoi sylw i ddawn greadigol Hoddinott o gyfosod gwrthgyferbyniadau dramatig, boed o ran tempo (araf-cyflym) neu ystum (themâu mewnblyg- echblyg).
 
Yn wahanol i Parrott a Smith Brindle, mae’r undod sy’n perthyn i’r ddadl symffonig yng ngwaith Hoddinott yn ymddangos un ai trwy ei ddefnydd o donyddiaeth estynedig, megis deugyweiredd ''(bitonality)'', neu (fel yn achos yr ail gonsierto i’r Clarinét) drwy dechnegau cyfresol hyblyg, lle mae’r gyfres yn gosod cymeriad arbennig i ddeunydd thematig y gwaith. Un nodwedd o waith Hoddinott oedd ei barodrwydd i arbrofi ac amrywio gyda fformiwlâu arferol consiertos a symffonïau. Mae Symffonïau Rhif 3, 4 a 5 mewn dau symudiad tra bod y Symffoni Rhif 6 mewn un symudiad di-dor. Yn ôl Taylor, nid yw’r ffurf dau symudiad yn gwbl lwyddiannus bob tro (Taylor 1987, 45), ond o leiaf mae’n rhoi sylw i ddawn greadigol Hoddinott o gyfosod gwrthgyferbyniadau dramatig, boed o ran tempo (araf-cyflym) neu ystum (themâu mewnblyg- echblyg).
Llinell 38: Llinell 36:
 
Gellir dadlau bod natur mwy ‘sgyrsiol’ rhwng unawdydd a cherddorfa sy’n rhan gynhenid o gyfansoddiad unrhyw consierto yn cynnig ei hun yn fwy naturiol i naratif gerddorol Mathias na chynfas a strwythur mwy haniaethol y symffoni. Mae’r ''Concerto i’r Delyn'' yn parhau i fod yn un o’i weithiau mwyaf poblogaidd, yn rhannol oherwydd ei natur ‘Gymreig’ – gyda’r ail symudiad wedi ei ysbrydoli gan un o gerddi R. S. Thomas tra bod y symudiad olaf yn dyfynnu’r alaw werin ‘Dadl Dau’ – ond hefyd oherwydd y cydbwysedd effeithiol a geir rhwng yr unawdydd a’r gerddorfa, a’r berthynas sy’n cael ei datblygu rhyngddynt mewn arddull sy’n nwyfus ac afieithus.
 
Gellir dadlau bod natur mwy ‘sgyrsiol’ rhwng unawdydd a cherddorfa sy’n rhan gynhenid o gyfansoddiad unrhyw consierto yn cynnig ei hun yn fwy naturiol i naratif gerddorol Mathias na chynfas a strwythur mwy haniaethol y symffoni. Mae’r ''Concerto i’r Delyn'' yn parhau i fod yn un o’i weithiau mwyaf poblogaidd, yn rhannol oherwydd ei natur ‘Gymreig’ – gyda’r ail symudiad wedi ei ysbrydoli gan un o gerddi R. S. Thomas tra bod y symudiad olaf yn dyfynnu’r alaw werin ‘Dadl Dau’ – ond hefyd oherwydd y cydbwysedd effeithiol a geir rhwng yr unawdydd a’r gerddorfa, a’r berthynas sy’n cael ei datblygu rhyngddynt mewn arddull sy’n nwyfus ac afieithus.
  
Bu Mathias hefyd yn barod i arbrofi gyda threfn symudiadau yn ei gonsiertos, gan symud y scherzo i’r ail symudiad yn hytrach na’i safle arferol yn y trydydd symudiad yn y ''Concerto i’r Corn Ffrengig'' a’r ail Sonata i’r [[Ffidil]] (Lewis 1988, 96). Mae’r symffonïau hefyd yn haeddu ystyriaeth bwysig, gyda naws o ddefod a chyfriniaeth yn perthyn i’r Symffoni Gyntaf (1966). Mae Geraint Lewis yn nodi bod dau o weithiau olaf Mathias, y Drydedd Symffoni a’r Concerto i’r Feiolin, yn arddangos athrylith y cyfansoddwr ar ei gorau. Bu Mathias a Hoddinott ill dau yn gynhyrchiol iawn ym maes sonatâu, yn arbennig ar gyfer y piano, gyda Hoddinott yn cwblhau deuddeg ohonynt, ac Ail Sonata i Biano Mathias yn un o’i gyfansoddiadau mwyaf idiomatig a dramatig (Lewis 1988, 95).
+
Bu Mathias hefyd yn barod i arbrofi gyda threfn symudiadau yn ei gonsiertos, gan symud y scherzo i’r ail symudiad yn hytrach na’i safle arferol yn y trydydd symudiad yn y ''Concerto i’r Corn Ffrengig'' a’r ail Sonata i’r [[Ffidil | Ffidil]] (Lewis 1988, 96). Mae’r symffonïau hefyd yn haeddu ystyriaeth bwysig, gyda naws o ddefod a chyfriniaeth yn perthyn i’r Symffoni Gyntaf (1966). Mae Geraint Lewis yn nodi bod dau o weithiau olaf Mathias, y Drydedd Symffoni a’r Concerto i’r Feiolin, yn arddangos athrylith y cyfansoddwr ar ei gorau. Bu Mathias a Hoddinott ill dau yn gynhyrchiol iawn ym maes sonatâu, yn arbennig ar gyfer y piano, gyda Hoddinott yn cwblhau deuddeg ohonynt, ac Ail Sonata i Biano Mathias yn un o’i gyfansoddiadau mwyaf idiomatig a dramatig (Lewis 1988, 95).
  
Yn wyneb y ffaith fod cyfansoddwyr y tu hwnt i Gymru yn parhau i ail-greu ac ail-ddyfeisio ffurfiau sefydledig megis y symffoni a’r consierto, mae’n syndod (ac efallai’n siom) mai prin fu’r gweithgaredd yn y ''genres'' hyn yn ystod degawdau agoriadol yr 21g. Cyfunodd [[John Metcalf]] elfennau o’r ddwy ffurf yn dra llwyddiannus yn ei ''Cello Symphony'' (2004), tra bod consierto Huw Watkins i’r un offeryn wedi ei gyfansoddi ar gyfer ei frawd [[Paul Watkins]].
+
Yn wyneb y ffaith fod cyfansoddwyr y tu hwnt i Gymru yn parhau i ail-greu ac ail-ddyfeisio ffurfiau sefydledig megis y symffoni a’r consierto, mae’n syndod (ac efallai’n siom) mai prin fu’r gweithgaredd yn y ''genres'' hyn yn ystod degawdau agoriadol yr 21g. Cyfunodd [[Metcalf, John (g.1946) | John Metcalf]] elfennau o’r ddwy ffurf yn dra llwyddiannus yn ei ''Cello Symphony'' (2004), tra bod consierto Huw Watkins i’r un offeryn wedi ei gyfansoddi ar gyfer ei frawd [[Watkins, Paul (g.1970) | Paul Watkins]].
  
Er fod ‘cân’ symffonig [[Karl Jenkins]], ''Adiemus: Songs of Sanctuary'' (1995), wedi profi’n hynod boblogaidd, gellir dadlau nad yw’n ‘symffonig’ yng ngwir ystyr y gair. Mae’r gathl symffonig yn parhau i fod yn gyfrwng i’r cyfansoddwr arfer elfennau rhaglennol, un ai mewn perthynas â hanes a chwedloniaeth Cymru, megis y gathl symffonig ''Eryri'' (1980) gan Gareth Glyn, ''Dic Penderyn'' (1988) gan Dalwyn Henshall, neu tu hwnt i ffiniau Cymru, yn ''Blue Letters from Tanganyika'' (1997) [[John Hardy]].
+
Er fod ‘cân’ symffonig [[Jenkins, Karl (g.1944) | Karl Jenkins]], ''Adiemus: Songs of Sanctuary'' (1995), wedi profi’n hynod boblogaidd, gellir dadlau nad yw’n ‘symffonig’ yng ngwir ystyr y gair. Mae’r gathl symffonig yn parhau i fod yn gyfrwng i’r cyfansoddwr arfer elfennau rhaglennol, un ai mewn perthynas â hanes a chwedloniaeth Cymru, megis y gathl symffonig ''Eryri'' (1980) gan Gareth Glyn, ''Dic Penderyn'' (1988) gan Dalwyn Henshall, neu tu hwnt i ffiniau Cymru, yn ''Blue Letters from Tanganyika'' (1997) [[Hardy, John (g.1952) | John Hardy]].
  
Cwblhaodd [[Paul Mealor]] ei Symffoni Rhif 1 ''(Passiontide)'' ar gyfer corws a cherddorfa yn 2015 (fe dderbyniodd y gwaith berfformiad yn ninas Dallas yn yr Unol Daleithiau yn 2017), ond mae enghreifftiau o’r symffoni yng Nghymru ers dyddiau Daniel Jones ac Alun Hoddinott wedi prinhau.
+
Cwblhaodd [[Mealor, Paul (g.1975) | Paul Mealor]] ei Symffoni Rhif 1 ''(Passiontide)'' ar gyfer corws a cherddorfa yn 2015 (fe dderbyniodd y gwaith berfformiad yn ninas Dallas yn yr Unol Daleithiau yn 2017), ond mae enghreifftiau o’r symffoni yng Nghymru ers dyddiau Daniel Jones ac Alun Hoddinott wedi prinhau.
  
 
'''Pwyll ap Siôn'''
 
'''Pwyll ap Siôn'''

Y diwygiad cyfredol, am 11:02, 25 Awst 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Araf fu datblygiad ffurfiau offerynnol yng Nghymru megis y consierto, y symffoni a’r sonata, rhwng 1750 ac 1900. Roedd nifer o resymau yn gyfrifol am hyn. Ni fu hanes na thraddodiad cryf o berfformio ym maes cerddoriaeth gelfyddydol yng Nghymru nes dechrau’r 20g., ac fe âi’r cerddorion mwyaf dawnus ( telynorion a chantorion gan fwyaf), dros y ffin i Loegr er mwyn datblygu eu crefft a’u gyrfa.

Ni chafwyd ychwaith gerddorfa broffesiynol yng Nghymru nes ffurfio Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi’r Ail Ryfel Byd, ac o ganlyniad ni fu cyfleoedd ar gael i gyfansoddwyr feithrin sgiliau cerddorfaeth ac i arbrofi gyda ffurfiau symffonig. Mae’n wir dweud nad prif swyddogaeth Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn ystod degawdau cynnar y gerddorfa oedd hyrwyddo cerddoriaeth newydd gan gyfansoddwyr Cymreig. Fodd bynnag, gwelwyd newid graddol erbyn chwarter olaf yr 20g., gyda’r gerddorfa yn ehangu yn 1974 i gynnwys 60 o offerynwyr. Yn ystod cyfnod cynnar yr 21g., crëwyd rôl ar gyfer Cyfansoddwr Preswyl a Chyfansoddwr-ar-y-Cyd (composer-in-association), gyda Guto Puw a Huw Watkins, ymysg eraill, yn ddeiliaid y teitl ar wahanol adegau.

Cyn 1900

Pur annhebyg y byddai John Thomas (Pencerdd Gwalia; 1826–1913) wedi mentro i faes cerddoriaeth offerynnol oni bai ei fod wedi derbyn ei addysg gerddorol yn Llundain, lle’r astudiodd yn yr Academi Frenhinol rhwng 1840 ac 1846. Cyfansoddodd ddwy gonsierto i’r delyn ynghyd â symffoni a phedwarawd llinynnol, gan amsugno yr hyn a ddisgrifiodd Carys Ann Roberts fel ‘agwedd gosmopolitanaidd’ ddiwylliannol y ddinas (Roberts 2000, 88).

Roedd newidiadau ar droed ym maes cerddoriaeth offerynnol oddi mewn i Gymru hefyd. Yn ystod yr 1860au, daeth perfformiadau o symffonïau Beethoven yn boblogaidd mewn trefi diwydiannol megis Merthyr mewn trefniannau ar gyfer bandiau pres. O bryd i’w gilydd, roedd cyfansoddwyr megis Joseph Parry (1841–1903) a Daniel Protheroe (1866–1934) yn barod i fentro i faes y symffoni, gyda cathl symffonig Protheroe, In the Cambrian Hills, yn waith llwyddiannus. Fodd bynnag, eithriadau oedd y gweithiau hyn o’u cymharu ag allbwn cyfansoddwyr Cymreig y cyfnod ym maes cerddoriaeth leisiol.

Ar ôl 1900

Yn dilyn poblogrwydd y gerdd (neu’r gathl) symffonig ar ddiwedd y 19g., daeth y ffurf yn boblogaidd yng Nghymru o bosib am ei bod yn ffurf fwy hyblyg, ar raddfa lai na’r symffoni; roedd yr elfen raglennol yn ysbrydoliaeth i nifer o gyfansoddwyr hefyd. Roedd Morfa Rhuddlan (1914) gan Morfydd Owen (1891– 1918) yn enghraifft gynnar, ac fe gyfrannodd nifer i’r genre ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys Grace Williams (1906–77), Dalwyn Henshall (g.1957) a Gareth Glyn (g.1951).

Daeth tro ar fyd yn ail hanner yr 20g., gyda’r traddodiad symffonig yng Nghymru yn cael ei sefydlu yn arbennig trwy waith Daniel Jones (1912–93), Grace Williams a David Wynne (1900–83). Gwelwyd cynnydd amlwg o gyfnod yr 1950au ymlaen, gyda Symffoni Rhif 1 Alun Hoddinott (1929–2008) yn derbyn perfformiad cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1955, a Grace Williams a David Wynne ill dau yn cwblhau eu hail symffonïau yn 1956. (Aeth Wynne ymlaen i gyfansoddi trydedd symffoni yn 1963 o’r enw Castell Caerffili (1963) – un o’i weithiau gorau, yn ôl Lyn Davies.)

Erbyn hyn roedd Daniel Jones eisoes wedi cyfansoddi sawl symffoni, gyda’i bedwaredd – er cof am ei gyfaill y bardd Dylan Thomas – yn derbyn perfformiad yn Eisteddfod Genedlaethol Ystradgynlais yn 1954. Aeth Jones ymlaen i gwblhau pedair symffoni ar ddeg ynghyd â chorff sylweddol o gerddoriaeth siambr.

Defnyddia symffonïau Jones bob un o nodau’r raddfa gromatig yn sail i’w cywair. Mae’r rhai agoriadol yn gymharol donyddol gan arddangos dylanwad y symffoni yn ystod y cyfnod Rhamantaidd. Clywir Jones yn arbrofi gyda rhythmau mwy cymhleth yn symudiadau bywiog ei symffonïau. Mae Symffonïau 6 hyd at 9 yn fwy uchelgeisiol ac unigolyddol tra bod y set olaf yn tueddu i fod yn fwy cynnil a chryno o ran ffurf a deunydd.

Bu adfywiad hefyd ymysg y cyfansoddwyr hynny a ymddangosai yn y bwlch rhwng Daniel Jones a Grace Williams ar un llaw, a Hoddinott a William Mathias (1934–92) ar y llaw arall. Yn eu mysg mae Denis ApIvor (1916–2004), a gyfansoddodd bum symffoni, Concerto i’r Cello (1977), ynghyd â nifer o bedwarawdau llinynnol.

Un thema gyson yn ystod yr 20g. yw agwedd y cyfansoddwr at donyddiaeth fel rhan o’r ddadl symffonig, gyda rhai yn arfer elfennau tonyddol, eraill yn chwilio am ffyrdd amgen o ddatblygu harmoni yn eu gwaith, tra bod eraill yn ymwrthod â thonyddiaeth yn llwyr gan fabwysiadu cromatiaeth a chyfresiaeth. Yn y Concerto i’r Utgorn, gwelir Grace Williams yn dilyn llwybr amgen moddawl er mwyn gwrthgyferbynnu swyddogaeth yr unawdydd a’r gerddorfa. Yn achos Ian Parrott (1916–2012) a Reginald Smith Brindle (1917–2003), mae’r naill yn aros o fewn y traddodiad tonyddol tra bod y llall yn mynd i gyfeiriad digyweiredd a chyfresiaeth.

Dywed yr ysgolhaig David Wright mai Symffoni Rhif 4 Parrott yw un o’i gyfansoddiadau gorau (Wright 2012). Saif ei Bumed Symffoni (1981), hefyd, fel gwaith effeithiol. Yn ôl Dalwyn Henshall, mae Parrott yn llwyddo i osod egwyddorion ffurf sonata ar draws tri symudiad y gwaith. Gyda phob un o’r symudiadau yn derbyn is-deitlau (confrontation, alternation ac integration), gwelir y cyfansoddwr yn efelychu ffurf sonata â’i ddefnydd o’r dangosiad, datblygiad ac ail-ddangosiad: ‘music such as to be found in [Parrott’s] Fifth Symphony has an innate strength which will render it immune from the shifting tides of fashion’ (Henshall 1982, 21).

O ran crefft y cyfansoddi, cynildeb y mynegiant a sylwedd y cynnyrch, mae allbwn symffonig Hoddinott yn sefyll ben ac ysgwyddau uwchlaw ei gyfoeswyr. Fodd bynnag, drwy ei gonsiertos y daeth Hoddinott i sylw cenedlaethol cynnar. Derbyniodd y Concerto Rhif 1 i’r Clarinet Op. 3 (1950) a’r Concerto Telyn Op. 11 (1957/1970) eu perfformiadau cyntaf yng Ngŵyl Cheltenham – y naill yn 1953 a’r llall yn 1958. Er i Symffoni Rhif 1 Hoddinott dderbyn perfformiad yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1955, cerddorfeydd y tu hwnt i Glawdd Offa fu’n fwyaf parod i gomisiynu gweithiau newydd ganddo, megis Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl a Cherddorfa’r Hallé ym Manceinion.

Yn wahanol i Parrott a Smith Brindle, mae’r undod sy’n perthyn i’r ddadl symffonig yng ngwaith Hoddinott yn ymddangos un ai trwy ei ddefnydd o donyddiaeth estynedig, megis deugyweiredd (bitonality), neu (fel yn achos yr ail gonsierto i’r Clarinét) drwy dechnegau cyfresol hyblyg, lle mae’r gyfres yn gosod cymeriad arbennig i ddeunydd thematig y gwaith. Un nodwedd o waith Hoddinott oedd ei barodrwydd i arbrofi ac amrywio gyda fformiwlâu arferol consiertos a symffonïau. Mae Symffonïau Rhif 3, 4 a 5 mewn dau symudiad tra bod y Symffoni Rhif 6 mewn un symudiad di-dor. Yn ôl Taylor, nid yw’r ffurf dau symudiad yn gwbl lwyddiannus bob tro (Taylor 1987, 45), ond o leiaf mae’n rhoi sylw i ddawn greadigol Hoddinott o gyfosod gwrthgyferbyniadau dramatig, boed o ran tempo (araf-cyflym) neu ystum (themâu mewnblyg- echblyg).

Mae Michael Charnell-White wedi olrhain datblygiad Hoddinott trwy gydol ei gonsiertos, o’r un cyntaf i’r Clarinet – sydd yn dynwared arddull ysgafn y divertissement – i’r gweithiau mwy diweddar, sydd yn fwy hyblyg o ran strwythur, yn cyfosod elfennau telynegol, nosluniol (nocturnal), tebyg i’r hyn yr hoffai Béla Bartók ei wneud, gydag adegau egnïol, tra bod Concerto Rhif 3 i’r Piano a’r Concerto i’r Organ yn defnyddio technegau o gyfnod Baróc, megis y ffurf ritornello (Charnell-White 1984, 39). Fodd bynnag, mae Hoddinott yn osgoi dynwared sain yr arddull Faróc.

Gellir dadlau bod natur mwy ‘sgyrsiol’ rhwng unawdydd a cherddorfa sy’n rhan gynhenid o gyfansoddiad unrhyw consierto yn cynnig ei hun yn fwy naturiol i naratif gerddorol Mathias na chynfas a strwythur mwy haniaethol y symffoni. Mae’r Concerto i’r Delyn yn parhau i fod yn un o’i weithiau mwyaf poblogaidd, yn rhannol oherwydd ei natur ‘Gymreig’ – gyda’r ail symudiad wedi ei ysbrydoli gan un o gerddi R. S. Thomas tra bod y symudiad olaf yn dyfynnu’r alaw werin ‘Dadl Dau’ – ond hefyd oherwydd y cydbwysedd effeithiol a geir rhwng yr unawdydd a’r gerddorfa, a’r berthynas sy’n cael ei datblygu rhyngddynt mewn arddull sy’n nwyfus ac afieithus.

Bu Mathias hefyd yn barod i arbrofi gyda threfn symudiadau yn ei gonsiertos, gan symud y scherzo i’r ail symudiad yn hytrach na’i safle arferol yn y trydydd symudiad yn y Concerto i’r Corn Ffrengig a’r ail Sonata i’r Ffidil (Lewis 1988, 96). Mae’r symffonïau hefyd yn haeddu ystyriaeth bwysig, gyda naws o ddefod a chyfriniaeth yn perthyn i’r Symffoni Gyntaf (1966). Mae Geraint Lewis yn nodi bod dau o weithiau olaf Mathias, y Drydedd Symffoni a’r Concerto i’r Feiolin, yn arddangos athrylith y cyfansoddwr ar ei gorau. Bu Mathias a Hoddinott ill dau yn gynhyrchiol iawn ym maes sonatâu, yn arbennig ar gyfer y piano, gyda Hoddinott yn cwblhau deuddeg ohonynt, ac Ail Sonata i Biano Mathias yn un o’i gyfansoddiadau mwyaf idiomatig a dramatig (Lewis 1988, 95).

Yn wyneb y ffaith fod cyfansoddwyr y tu hwnt i Gymru yn parhau i ail-greu ac ail-ddyfeisio ffurfiau sefydledig megis y symffoni a’r consierto, mae’n syndod (ac efallai’n siom) mai prin fu’r gweithgaredd yn y genres hyn yn ystod degawdau agoriadol yr 21g. Cyfunodd John Metcalf elfennau o’r ddwy ffurf yn dra llwyddiannus yn ei Cello Symphony (2004), tra bod consierto Huw Watkins i’r un offeryn wedi ei gyfansoddi ar gyfer ei frawd Paul Watkins.

Er fod ‘cân’ symffonig Karl Jenkins, Adiemus: Songs of Sanctuary (1995), wedi profi’n hynod boblogaidd, gellir dadlau nad yw’n ‘symffonig’ yng ngwir ystyr y gair. Mae’r gathl symffonig yn parhau i fod yn gyfrwng i’r cyfansoddwr arfer elfennau rhaglennol, un ai mewn perthynas â hanes a chwedloniaeth Cymru, megis y gathl symffonig Eryri (1980) gan Gareth Glyn, Dic Penderyn (1988) gan Dalwyn Henshall, neu tu hwnt i ffiniau Cymru, yn Blue Letters from Tanganyika (1997) John Hardy.

Cwblhaodd Paul Mealor ei Symffoni Rhif 1 (Passiontide) ar gyfer corws a cherddorfa yn 2015 (fe dderbyniodd y gwaith berfformiad yn ninas Dallas yn yr Unol Daleithiau yn 2017), ond mae enghreifftiau o’r symffoni yng Nghymru ers dyddiau Daniel Jones ac Alun Hoddinott wedi prinhau.

Pwyll ap Siôn

Llyfryddiaeth

  • Dalwyn Henshall, ‘Ian Parrott’s Fifth Symphony: an appraisal’, Welsh Music/Cerddoriaeth Cymru, 6/9 (Gaeaf, 1981–2), 16–21
  • Michael J. Charnell-White, ‘The Solo Concerto in Wales in the Face of World Trends’, Welsh Music/Cerddoriaeth Cymru, 7/6 (Gwanwyn, 1984), 33–40
  • Timothy Taylor, ‘Alun Hoddinott’s Second Clarinet Concerto’, Welsh Music/Cerddoriaeth Cymru, 8/6 (Haf, 1987), 30–45
  • Geraint Lewis, ‘William Mathias: Piano Trio Op. 30, Piano Sonata No. 2 Op. 46 [et al]’, Welsh Music/Cerddoriaeth Cymru, 8/8 (Gwanwyn/Haf, 1988), 95–6
  • Carys Ann Roberts, ‘Agwedd Gosmopolitanaidd John Thomas, “Pencerdd Gwalia” (1826–1913)’, Hanes Cerddoriaeth Cymru, 4 (2000), 88–99



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.