Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Poblogaidd, Cerddoriaeth"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y 7 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
 +
__NOAUTOLINKS__
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
Llinell 9: Llinell 10:
 
Yn ddiweddarach yn hanes cerddoriaeth boblogaidd yng Nghymru, bu tueddiadau yn debyg i’r rhai ar draws y byd gorllewinol, ond nid oes rhaid chwilio’n hir i ddarganfod elfennau sy’n arbennig iddi. Mae’n ddefnyddiol ystyried cerddoriaeth boblogaidd yng Nghymru fel cyfres o gyfnodau cronolegol; cyflwynir tueddiadau newydd ym mhob cyfnod, ond mae pob cyfnod newydd yn dal gafael ar y tueddiadau mwyaf blaenllaw ar y pryd ac yn ymhelaethu arnynt, yn hytrach na’u disodli. Er enghraifft, bu [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | cerddoriaeth draddodiadol]] o hyd yn boblogaidd mewn cymunedau gwledig, ac er i’r cymunedau hynny amsugno tueddiadau newydd fel y caent eu cyflwyno, parhaodd y traddodiadau hŷn yn boblogaidd.
 
''1. Cerddoriaeth draddodiadol''
+
==1. Cerddoriaeth draddodiadol==
  
Y gerddoriaeth boblogaidd – cerddoriaeth y bobl – gynharaf y mae gennym unrhyw gofnod ohoni yw’r hyn y cyfeirir ato heddiw fel ‘cerddoriaeth draddodiadol’. Mae hyn yn cwmpasu cerddoriaeth a gâi ei chanu a cherddoriaeth a gâi ei chwarae ar [[Organoleg ac Offerynnau | offerynnau]], gan gynnwys miwsig ar gyfer [[Gwerin, Arferion Dawnsio | dawnsio]]. Anaml y câi cerddoriaeth draddodiadol ei hysgrifennu. Yn hytrach, roedd yn dibynnu ar ei throsglwyddo’n llafar: traddodiad sy’n seiliedig ar wrando a chofio. Mae’r hyn a wyddom am y gerddoriaeth hon yn seiliedig ar yr hyn y mae casglwyr o’r 19g. yn ei ddweud wrthym amdani, casglwyr fel [[Williams, Maria Jane (1795-1873) | Maria Jane Williams]], a welodd gerddoriaeth o’r fath yn cael ei pherfformio, gan ei thrafod sawl gwaith gyda phobl leol ac ysgrifennu’r alawon a’r geiriau. Bu gwaith y casglwyr hyn ym maes cerddoriaeth draddodiadol Cymru o gryn bwysigrwydd i dreftadaeth ddiwylliannol Cymru, fel y mae hyd heddiw.
 
Gellir cyffredinoli’n fras mewn sawl ffordd am gerddoriaeth boblogaidd ymysg y bobl gyffredin cyn y cyfnod diwydiannol trwy astudio gwaith y casglwyr hyn. Gweithgaredd cymunedol oedd canu a chwarae cerddoriaeth yn aml, a thueddai i fod yn gysylltiedig â digwyddiadau blynyddol fel y Nadolig, y Flwyddyn Newydd a diwedd y cynhaeaf. Ond roedd hefyd draddodiadau cerddorol nad oeddynt yn gofyn rheswm penodol ac a oedd yn breifat, fel caneuon serch, caneuon [[naratif]] (storïau) a genid yn y cartref a [[Hwiangerdd (Hwiangerddi) | hwiangerddi]]. Roedd rhai caneuon ac alawon yn rhai lleol a gellir eu holrhain i rannau penodol o’r wlad, ond mae hefyd dystiolaeth y gallent deithio. Wrth i ganeuon ymledu trwy’r wlad, byddai eu naws leol yn aml yn newid neu’n cael ei haddasu ryw ychydig, ond gyda’i gilydd daethant i ffurfio rhyw fath o ''repertoire'' cenedlaethol. Manteisiodd cyhoeddwyr o’r 19g. (yn Llundain yn bennaf) ar y syniad hwn, cyhoeddwyr casgliadau o ganeuon ethnig o Gymru a chanddynt deitlau fel ''Songs of Wales'' (gw. ‘Cyhoeddi’ o dan [[Diwylliant a’r Diwydiant Cerddoriaeth]]).
+
Gellir cyffredinoli’n fras mewn sawl ffordd am gerddoriaeth boblogaidd ymysg y bobl gyffredin cyn y cyfnod diwydiannol trwy astudio gwaith y casglwyr hyn. Gweithgaredd cymunedol oedd canu a chwarae cerddoriaeth yn aml, a thueddai i fod yn gysylltiedig â digwyddiadau blynyddol fel y Nadolig, y Flwyddyn Newydd a diwedd y cynhaeaf. Ond roedd hefyd draddodiadau cerddorol nad oeddynt yn gofyn rheswm penodol ac a oedd yn breifat, fel caneuon serch, caneuon naratif (storïau) a genid yn y cartref a [[Hwiangerdd (Hwiangerddi) | hwiangerddi]]. Roedd rhai caneuon ac alawon yn rhai lleol a gellir eu holrhain i rannau penodol o’r wlad, ond mae hefyd dystiolaeth y gallent deithio. Wrth i ganeuon ymledu trwy’r wlad, byddai eu naws leol yn aml yn newid neu’n cael ei haddasu ryw ychydig, ond gyda’i gilydd daethant i ffurfio rhyw fath o ''repertoire'' cenedlaethol. Manteisiodd cyhoeddwyr o’r 19g. (yn Llundain yn bennaf) ar y syniad hwn, cyhoeddwyr casgliadau o ganeuon ethnig o Gymru a chanddynt deitlau fel ''Songs of Wales'' (gw. ‘Cyhoeddi’ o dan [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | Diwylliant a’r Diwydiant Cerddoriaeth]]).
  
''2. Cerddoriaeth y bobl yn ardaloedd diwydiannol y 19g.''
+
==2. Cerddoriaeth y bobl yn ardaloedd diwydiannol y 19g.==
  
Newidiodd arferion cerddoriaeth boblogaidd o ganlyniad i newidiadau yn y boblogaeth a newidiadau eraill a ddaeth wrth i ddiwydiant trwm newydd ddatblygu yn ne a gogledd Cymru yn y 19g. O ganlyniad i fudo i’r ardaloedd hyn o’r tu mewn i Gymru ac o’r tu allan iddi gwelwyd demograffeg newydd lle’r oedd niferoedd mwy nag erioed o bobl dosbarth gweithiol yn byw yn agos at ei gilydd. Cafodd y newid hwn sgil-effeithiau diwylliannol pellgyrhaeddol. Arweiniodd y capeli Anghydffurfiol, a godwyd i wrthsefyll yr hyn a ystyriwyd yn heriau ysbrydol a moesol a ddaeth yn sgil y newidiadau hyn, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol at gyfnod newydd o gerddoriaeth boblogaidd pan oedd canu cynulleidfaol (gyda chymorth y nodiant [[sol-ffa]] newydd) yn flaenllaw: i bob pwrpas, roedd hyn yn enghraifft gynnar o ‘drawsgroesi’. Efallai mai [[Crefyddol, Cerddoriaeth | cerddoriaeth grefyddol]] oedd [[emynau]] yn wreiddiol, ond buan y daethant yn gerddoriaeth boblogaidd seciwlar. Cyn diwedd y ganrif roedd emynau Anghydffurfiol yn gerddoriaeth boblogaidd y tafarnau a’r terasau rygbi. Daeth canu emynau mewn gemau rygbi yn un o’r gweithgareddau hamdden cerddorol mwyaf poblogaidd, a chyfrannodd at yr hyn a ddisgrifiodd yr hanesydd Kenneth Morgan fel ‘pwysigrwydd meseianaidd emosiynol y gêm’.
+
Newidiodd arferion cerddoriaeth boblogaidd o ganlyniad i newidiadau yn y boblogaeth a newidiadau eraill a ddaeth wrth i ddiwydiant trwm newydd ddatblygu yn ne a gogledd Cymru yn y 19g. O ganlyniad i fudo i’r ardaloedd hyn o’r tu mewn i Gymru ac o’r tu allan iddi gwelwyd demograffeg newydd lle’r oedd niferoedd mwy nag erioed o bobl dosbarth gweithiol yn byw yn agos at ei gilydd. Cafodd y newid hwn sgil-effeithiau diwylliannol pellgyrhaeddol. Arweiniodd y capeli Anghydffurfiol, a godwyd i wrthsefyll yr hyn a ystyriwyd yn heriau ysbrydol a moesol a ddaeth yn sgil y newidiadau hyn, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol at gyfnod newydd o gerddoriaeth boblogaidd pan oedd canu cynulleidfaol (gyda chymorth y nodiant [[Tonic Sol-ffa | sol-ffa]] newydd) yn flaenllaw: i bob pwrpas, roedd hyn yn enghraifft gynnar o ‘drawsgroesi’. Efallai mai [[Crefyddol, Cerddoriaeth | cerddoriaeth grefyddol]] oedd [[Emyn-donau | emynau]] yn wreiddiol, ond buan y daethant yn gerddoriaeth boblogaidd seciwlar. Cyn diwedd y ganrif roedd emynau Anghydffurfiol yn gerddoriaeth boblogaidd y tafarnau a’r terasau rygbi. Daeth canu emynau mewn gemau rygbi yn un o’r gweithgareddau hamdden cerddorol mwyaf poblogaidd, a chyfrannodd at yr hyn a ddisgrifiodd yr hanesydd Kenneth Morgan fel ‘pwysigrwydd meseianaidd emosiynol y gêm’.
  
Yn y cyfnod hwn ac ar ddechrau’r 20g. bu dau ddatblygiad pwysig arall hefyd. Y cyntaf o’r rhain oedd twf yn yr amrywiaeth o gerddoriaeth boblogaidd a fodolai. Ymddangosodd [[Bandiau Pres | bandiau pres]] a mathau eraill o gerddoriaeth offerynnol amatur o tua 1850 ymlaen, a chreodd hyn ganolbwynt arall i gerddoriaeth boblogaidd gyfranogol a ffordd arall o wrando ar weithiau poblogaidd. Prynodd llawer o deuluoedd bianos unionsyth. Caent eu masgynhyrchu ac roeddynt yn gymharol rad; gallai pobl y dosbarth gweithiol eu fforddio trwy gynlluniau newydd ar gyfer taliadau wedi’u gohirio. Darparai cyhoeddwyr o Loegr a rhai o Gymru lif cyson o gerddoriaeth ddalen ysgafn boblogaidd, hawdd ei dysgu, ar gyfer y farchnad hon.
 
Llinell 23: Llinell 24:
 
Yr ail ddatblygiad, ar yr un pryd, oedd dyfodiad diddanwch cyhoeddus proffesiynol o fewn cyrraedd trwch y boblogaeth. Cyflwynwyd y cysyniad o gynulleidfa yn talu tâl mynediad, a daeth y cyhoedd yng Nghymru, er eu bod yn dal yn driw i lawer o’u traddodiadau cerddorol cymunedol, yn ''brynwyr'' cerddoriaeth boblogaidd. Hyd yn oed yn yr 1840au byddai sioeau’n teithio o amgylch y trefi a’r pentrefi mwy yng Nghymru. Ymysg y mwyaf adnabyddus yr oedd ''Wombwell’s Circus and Menagerie'', ac er bod anifeiliaid egsotig y syrcas wedi ennyn chwilfrydedd, roedd eu band enwog a berfformiai’r holl gerddoriaeth ddawns ddiweddaraf yn gystal atyniad.
 
Erbyn yr 1870au roedd [[tair]] neuadd gerddoriaeth yng Nghaerdydd yn cynnig [[adloniant]] ysgafn chwe noson yr wythnos a pherfformiadau dydd rai diwrnodau, ac ymddangosodd neuaddau cerddoriaeth tebyg yn y cymoedd a threfi’r arfordir. Caent eu gwasanaethu gan artistiaid cerddorol crwydrol a berfformiai mewn sioeau [[adloniant]] a sioeau ''minstrel''. Yn wir, bu band yr arweinydd/cyfansoddwr poblogaidd o’r Unol Daleithiau, John Philip Sousa, a gynhwysai yn ei ''repertoire'' yr [[arddull]] Americanaidd gymharol newydd ''ragtime'', ar daith yng Nghymru yn 1903.
+
Erbyn yr 1870au roedd tair neuadd gerddoriaeth yng Nghaerdydd yn cynnig adloniant ysgafn chwe noson yr wythnos a pherfformiadau dydd rai diwrnodau, ac ymddangosodd neuaddau cerddoriaeth tebyg yn y cymoedd a threfi’r arfordir. Caent eu gwasanaethu gan artistiaid cerddorol crwydrol a berfformiai mewn sioeau adloniant a sioeau ''minstrel''. Yn wir, bu band yr arweinydd/cyfansoddwr poblogaidd o’r Unol Daleithiau, John Philip Sousa, a gynhwysai yn ei ''repertoire'' yr arddull]] Americanaidd gymharol newydd ''ragtime'', ar daith yng Nghymru yn 1903.
  
''3. [[Adloniant]] y cyfryngau torfol''
+
==3. Adloniant y cyfryngau torfol==
  
Erbyn dechrau’r 20g. roedd y llif o ddiddanwyr proffesiynol wedi helpu pobl Cymru i arfer â thueddiadau rhyngwladol mewn cerddoriaeth boblogaidd, ond parhaodd hoffterau ac arferion cynhenid ei thraddodiadau hŷn, yn anad dim trwy [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | eisteddfodau]] cenedlaethol a lleol. Byddai’r broses o ryngwladoli yn cyflymu o ganlyniad i fathau newydd o gyfryngau. Datblygwyd y gramoffon yn yr 1890au ond nid oedd ar gael yn eang yng Nghymru yn negawdau cyntaf ei fodolaeth. Yn 1926 gwelwyd ffilmiau sain a darlledu am y tro cyntaf yng Nghymru. Cafodd y cyhoedd weld ffilmiau sain yn fuan am fod yr isadeiledd angenrheidiol eisoes wedi cael ei sefydlu ar gyfer dangos ffilmiau mud. Roedd pris mynediad i sinemâu yn rhad ac roedd ffilmiau a oedd yn cynnwys cerddoriaeth boblogaidd yn denu llawer.
 
Llinell 31: Llinell 32:
 
Byddai radio’r BBC (a elwid ar y cychwyn yn ddarlledu di-wifr – neu ‘weiarles’) yn cael effaith amlwg. Erbyn diwedd yr 1920au roedd signalau di- wifr ar gael yn 70% o ardaloedd poblog Cymru, ond golygai cost y cyfarpar a dderbyniai’r signal a chost y drwydded mai llai na hanner cartrefi Cymru a oedd â thrwydded, hyd yn oed erbyn diwedd yr 1930au. Byddai llawer yn gwrando ar ddarllediadau di-wifr o gerddoriaeth boblogaidd gyda’i gilydd mewn neuaddau cymunedol.
 
Tra oedd y BBC yn darlledu cerddoriaeth a oedd yn boblogaidd ar draws Prydain o’i phrif orsaf yn Llundain, datblygodd gorsaf BBC Cymru gynnyrch a oedd yn darparu ar gyfer pobl Cymru. ''Noson Lawen'' oedd y rhaglen gerddoriaeth fwyaf poblogaidd, rhaglen a oedd yn uniongyrchol seiliedig ar y fformat a oedd yn adnabyddus mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith. Yn 1938 cyflwynwyd rhaglen adloniant cerddorol newydd Saesneg ei hiaith o’r enw ''Welsh Rarebit''. Y cynhyrchydd oedd Mai Jones (1899–1960), cyfansoddwr y gân [[‘We’ll keep a welcome’]]; hon oedd y rhaglen fwyaf poblogaidd yn yr 1940au a chyflwynodd sêr newydd fel Harry Secombe (1921– 2001) i gynulleidfa eang.
+
Tra oedd y BBC yn darlledu cerddoriaeth a oedd yn boblogaidd ar draws Prydain o’i phrif orsaf yn Llundain, datblygodd gorsaf BBC Cymru gynnyrch a oedd yn darparu ar gyfer pobl Cymru. ''Noson Lawen'' oedd y rhaglen gerddoriaeth fwyaf poblogaidd, rhaglen a oedd yn uniongyrchol seiliedig ar y fformat a oedd yn adnabyddus mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith. Yn 1938 cyflwynwyd rhaglen adloniant cerddorol newydd Saesneg ei hiaith o’r enw ''Welsh Rarebit''. Y cynhyrchydd oedd Mai Jones (1899–1960), cyfansoddwr y gân [['We'll Keep a Welcome']]; hon oedd y rhaglen fwyaf poblogaidd yn yr 1940au a chyflwynodd sêr newydd fel Harry Secombe (1921– 2001) i gynulleidfa eang.
  
''4. Eiconau Cymreig cerddoriaeth boblogaidd cyn yr 1970au''
+
==4. Eiconau Cymreig cerddoriaeth boblogaidd cyn yr 1970au==
  
Un o nodweddion hynotaf hanes cerddoriaeth boblogaidd Cymru yw’r modd y cynhyrchodd yr hyn a oedd yn aml, yn y bôn, yn draddodiad ynysig a chymunedol gynifer o sêr rhyngwladol. Hyd yn oed cyn diwedd y 19g., roedd [[Corau Meibion | corau meibion]] gyda’u hunawdwyr brodorol yn teithio Gogledd America ac yn cyfareddu cynulleidfaoedd. Ceid [[Corau Merched | corau merched]] a [[Corau Cymysg | chorau cymysg]] hefyd; un o’r rhai mwyaf llwyddiannus oedd y ''Royal Welsh Ladies Choir'' o dan arweinyddiaeth garismatig [[Davies, Clara Novello (1861-1943) | Clara Novello Davies]]. Ei mab David Ivor, a aned yng Nghaerdydd ac a gymerodd yr enw [[Novello, Ivor (1893-1951) | Ivor Novello]], oedd archseren ryngwladol gyntaf cerddoriaeth boblogaidd Cymru. Roedd ei sioeau a’i ganeuon (yn cynnwys yr enwog ‘Keep the Home Fires Burning’) yr un mor boblogaidd ar Broadway ag yr oeddynt yng Nghymru. Byddai mwy yn dilyn yn y traddodiad poblogaidd neu ysgafn: Dai Francis (1930–2003), seren y rhaglen deledu ''Black and White Minstrel Show''; Ivor Emmanuel (1927–2007), yr oedd ei sioe gerddoriaeth ar ITV, ''Land of Song'', y fwyaf poblogaidd yn ei chyfnod; a [[Peers, Donald (1909-73) | Donald Peers]] (1908–73), paentiwr ffensys o Rydaman ac enillydd y gystadleuaeth ddoniau ''Opportunity Knocks'', a aeth yn ei flaen i fod yn un o sêr mwyaf ei ddydd.
 
Wrth i oes cerddoriaeth bop wawrio yn yr 1960au, ymddangosodd grŵp o gantorion a fyddai’n cael llwyddiant rhyngwladol hirdymor. Roedd y rhain yn cynnwys [[Squires, Dorothy (Edna May Squires; 1915-98) | Dorothy Squires]] (1915–98), [[Bassey, Shirley (g.1937) | Shirley Bassey]] (g.1937), [[Hopkin, Mary (g.1950) | Mary Hopkin]] (g.1940) a [[Jones, Tom (g.1940) | Tom Jones]] (g.1940). Os oedd i’r perfformwyr tra amrywiol hyn un nodwedd yn gyffredin, y nodwedd honno oedd eu bod wedi llwyddo nid yn unig am eu bod wedi’u cysylltu, trwy siawns, gyda chân arbennig neu o ganlyniad i ymgyrch farchnata graff, ond ar sail eu doniau gwirioneddol fel cantorion telynegol: i bob diben, roeddynt wedi trosi traddodiad canu poblogaidd Cymru i idiomau cerddorol newydd. Ond megis cychwyn oedd hyn; wrth i’r mileniwm agosáu, byddai cenhedlaeth o [[grwpiau pop a roc]] o Gymru yn ymddangos ac yn ffurfio sîn bop ddwyieithog Gymreig ffyniannus a oedd mor wahanol y byddai’n symbylu’r epithet ‘Cŵl Cymru’.
+
Wrth i oes cerddoriaeth bop wawrio yn yr 1960au, ymddangosodd grŵp o gantorion a fyddai’n cael llwyddiant rhyngwladol hirdymor. Roedd y rhain yn cynnwys [[Squires, Dorothy (Edna May Squires; 1915-98) | Dorothy Squires]] (1915–98), [[Bassey, Shirley (g.1937) | Shirley Bassey]] (g.1937), [[Hopkin, Mary (g.1950) | Mary Hopkin]] (g.1940) a [[Jones, Tom (g.1940) | Tom Jones]] (g.1940). Os oedd i’r perfformwyr tra amrywiol hyn un nodwedd yn gyffredin, y nodwedd honno oedd eu bod wedi llwyddo nid yn unig am eu bod wedi’u cysylltu, trwy siawns, gyda chân arbennig neu o ganlyniad i ymgyrch farchnata graff, ond ar sail eu doniau gwirioneddol fel cantorion telynegol: i bob diben, roeddynt wedi trosi traddodiad canu poblogaidd Cymru i idiomau cerddorol newydd. Ond megis cychwyn oedd hyn; wrth i’r mileniwm agosáu, byddai cenhedlaeth o grwpiau pop a roc o Gymru yn ymddangos ac yn ffurfio sîn bop ddwyieithog Gymreig ffyniannus a oedd mor wahanol y byddai’n symbylu’r epithet ‘Cŵl Cymru’.
  
''5. Cerddoriaeth Boblogaidd ers 1950''
+
==5. Cerddoriaeth Boblogaidd ers 1950==
  
Gellid dadlau bod y rhaglen radio boblogaidd ''Noson Lawen'' yn sylfaen i ddiwylliant poblogaidd cenedlaethol Cymraeg. Pan oeddynt yn fyfyrwyr prifysgol ym Mangor, gofynnwyd i [[Evans, Meredydd (1919-2015) | Meredydd Evans]], Robin Williams a Cledwyn Jones – sef [[Triawd y Coleg]] – gyfrannu eitemau cerddorol i’r sioe. Yn aml byddai’r caneuon hyn yn ddigrif, byddent weithiau yn tynnu ar y traddodiad [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | gwerin]], a chaent eu canu’n ymddangosiadol ddiymdrech mewn harmoni tair rhan. Trwy’r sioe adloniant hon a roddai lwyfan newydd i dalentau lleol, creodd ''Noson Lawen'' gynulleidfa genedlaethol ar gyfer cerddoriaeth boblogaidd, a daeth Meredydd Evans yn y pen draw yn gyfarwyddwr adloniant ysgafn gyda’r BBC. Llwyddodd [[Triawd y Coleg]] hefyd i boblogeiddio arddull gerddorol a oedd yn gyfarwydd ac yn newydd ar yr un pryd, a’r [[arddull]] hon oedd prif ffrwd cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg drwy gydol yr 1950au a dechrau’r 1960au pan oedd cerddoriaeth sgiffl yn ei hanterth.
+
Gellid dadlau bod y rhaglen radio boblogaidd ''Noson Lawen'' yn sylfaen i ddiwylliant poblogaidd cenedlaethol Cymraeg. Pan oeddynt yn fyfyrwyr prifysgol ym Mangor, gofynnwyd i [[Evans, Meredydd (1919-2015) | Meredydd Evans]], Robin Williams a Cledwyn Jones – sef [[Triawd y Coleg]] – gyfrannu eitemau cerddorol i’r sioe. Yn aml byddai’r caneuon hyn yn ddigrif, byddent weithiau yn tynnu ar y traddodiad [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | gwerin]], a chaent eu canu’n ymddangosiadol ddiymdrech mewn harmoni tair rhan. Trwy’r sioe adloniant hon a roddai lwyfan newydd i dalentau lleol, creodd ''Noson Lawen'' gynulleidfa genedlaethol ar gyfer cerddoriaeth boblogaidd, a daeth Meredydd Evans yn y pen draw yn gyfarwyddwr adloniant ysgafn gyda’r BBC. Llwyddodd [[Triawd y Coleg]] hefyd i boblogeiddio arddull gerddorol a oedd yn gyfarwydd ac yn newydd ar yr un pryd, a’r arddull hon oedd prif ffrwd cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg drwy gydol yr 1950au a dechrau’r 1960au pan oedd cerddoriaeth sgiffl yn ei hanterth.
  
Cafodd datblygiad pellach cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg yn yr 1950au a’r 1960au ei symbylu hefyd i raddau helaeth gan y [[cyfryngau]] Cymraeg. Tra oedd Bois a Hogia’r cyfnod sgiffl ar hyd a lled Cymru yn dal i gael llwyddiant yn lleol ac yn genedlaethol (megis [[Hogia Bryngwran]] a [[Hogia Llandegai]]), perfformiadau cynnar [[Dafydd Iwan]] ar ''Y Dydd'' gan TWW a unodd adloniant ysgafn gyda sylwebaeth gymdeithasol, ac a gydblethodd hefyd weithgaredd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ei dyddiau cynnar a cherddoriaeth boblogaidd.
+
Cafodd datblygiad pellach cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg yn yr 1950au a’r 1960au ei symbylu hefyd i raddau helaeth gan y [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | cyfryngau]] Cymraeg. Tra oedd Bois a Hogia’r cyfnod sgiffl ar hyd a lled Cymru yn dal i gael llwyddiant yn lleol ac yn genedlaethol (megis [[Hogia Bryngwran]] a [[Hogia Llandegai]]), perfformiadau cynnar [[Iwan, Dafydd (g.1943) | Dafydd Iwan]] ar ''Y Dydd'' gan TWW a unodd adloniant ysgafn gyda sylwebaeth gymdeithasol, ac a gydblethodd hefyd weithgaredd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ei dyddiau cynnar a cherddoriaeth boblogaidd.
  
Roedd y ddwy wedd ar bop Cymraeg yn y cyfnod hwn – actifiaeth wleidyddol ac adloniant ysgafn – yn rhannu’r un gynulleidfa, serch hynny. Yn wahanol i gerddoriaeth boblogaidd Eingl-Americanaidd, a oedd yn ymrannu’n nifer o wahanol arddulliau a ''genres'' yn ail hanner yr 1960au, roedd pop Cymraeg yn apelio at ystod eang o’r boblogaeth am resymau ideolegol, nid rhai cerddorol o anghenraid. Ac am i gyfrifiad 1961 ddangos cwymp enbyd yn y nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, ni ellir ond ystyried bod twf y ‘sîn’ bop Gymraeg yn ail hanner y degawd yn beth cadarnhaol.
 
Llinell 49: Llinell 50:
 
Yn sgil poblogrwydd cynyddol cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg yn yr 1960au sefydlwyd [[Rhaglenni Teledu Pop | rhaglenni teledu]] ''(Disg a Dawn)'' a radio (yn cynnwys y sioe ‘ieuenctid’ boblogaidd a gyflwynwyd gan Hywel Gwynfryn) a oedd yn ymwneud â cherddoriaeth bop. Roedd sefydlu Recordiau Sain yn 1969 yn gam cyntaf pwysig wrth greu [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | diwydiant]] recordiau Cymraeg, a chefnogodd hynny dwf pop yn yr iaith trwy gydol yr 1970au. Mae sawl un wedi galw hanner cyntaf yr 1970au yn ‘oes aur’ pop Cymraeg, ond amgenach erbyn heddiw efallai fyddai ystyried y cyfnod yn sylfaen i’r hyn a’i dilynodd: cerddoriaeth a ymgorfforodd ystod ehangach o ddylanwadau, o’r ''blues'' i roc gwerin i ''reggae'' i ''‘supergroups’;'' defnydd mwy dyfeisgar o dechnoleg recordio gyfoes; agwedd aeddfed at grefft ysgrifennu geiriau i ganeuon; ymbellhau oddi wrth arddull [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | canu traddodiadol]], [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfodol]], a nesáu at arddull a ymgorfforai dueddiadau pop cyfredol ehangach.
 
Wrth i ganu pop Cymraeg ddatblygu, tyfodd diwydiant pop Cymraeg hefyd. Roedd Recordiau Fflach, a sefydlwyd yn Aberteifi yn 1981, yn hyrwyddwr pwysig i gerddoriaeth y don newydd ''(new wave)''. Bu i fandiau Cymraeg tanddaearol (megis [[Anhrefn]]) yn arbennig, osgoi’r diwydiant Cymraeg yn llwyr a dechrau hyrwyddo eu cerddoriaeth, a cherddoriaeth bandiau eraill o’r un anian, i gynulleidfaoedd y tu hwnt i’r gymuned Gymraeg. Bu’r ymdrechion annibynnol hyn, ''Cam o’r Tywyllwch'' ([[Anhrefn]], 1985) a ''Gadael yr Ugeinfed Ganrif'' (Anhrefn, 1985), yn bwysig yn natblygiad ‘ail genhedlaeth’ o gerddorion pop Cymraeg, a dyma pryd y daeth y brif ffrwd Eingl-Americanaidd yn raddol iawn yn ymwybodol o gerddoriaeth boblogaidd Gymraeg.
+
Wrth i ganu pop Cymraeg ddatblygu, tyfodd diwydiant pop Cymraeg hefyd. Roedd Recordiau Fflach, a sefydlwyd yn Aberteifi yn 1981, yn hyrwyddwr pwysig i gerddoriaeth y don newydd ''(new wave)''. Bu i fandiau Cymraeg tanddaearol (megis [[Anhrefn]]) yn arbennig, osgoi’r diwydiant Cymraeg yn llwyr a dechrau hyrwyddo eu cerddoriaeth, a cherddoriaeth bandiau eraill o’r un anian, i gynulleidfaoedd y tu hwnt i’r gymuned Gymraeg. Bu’r ymdrechion annibynnol hyn, ''Cam o’r Tywyllwch'' (Anhrefn, 1985) a ''Gadael yr Ugeinfed Ganrif'' (Anhrefn, 1985), yn bwysig yn natblygiad ‘ail genhedlaeth’ o gerddorion pop Cymraeg, a dyma pryd y daeth y brif ffrwd Eingl-Americanaidd yn raddol iawn yn ymwybodol o gerddoriaeth boblogaidd Gymraeg.
  
Dechreuodd y DJ Radio 1 John Peel hyrwyddo bandiau Cymraeg fel [[Datblygu]], a chyda sylfaenu’r label annibynnol Recordiau Ankst yn Aberystwyth (1988) gwawriodd cyfnod newydd mewn cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg. Yn fuan wedi sylfaenu MTV yn Eingl-America, fe’i hefelychwyd ar S4C gyda’r rhaglen ddylanwadol ''Fideo 9'' (1988–1992), a hyrwyddwyd yr amrywiaeth aruthrol o fandiau annibynnol ar raglenni nos Radio Cymru, fel ''Heno Bydd yr Adar yn Canu'' (1991–95).
 
Llinell 55: Llinell 56:
 
Roedd cerddoriaeth bop frodorol trwy gyfrwng yr iaith Saesneg hefyd yn ffynnu yng Nghymru ac yn ail hanner yr 20g. roedd llawer o gerddorion a groesai’n rhwydd o’r naill fyd i’r llall. Recordiodd Mary Hopkin a [[Stevens, Meic (g.1942) | Meic Stevens]] yn llwyddiannus yn y ddwy iaith, a rhyddhaodd y band o’r Rhyl, [[Alarm, The | The Alarm]], gyfieithiadau Cymraeg o ddau albwm, ''Newid'' (Crai, 1989) a ''Tân'' (Crai, 1991). Roedd poblogrwydd y bandiau Saesneg o Gymru, Man a [[Budgie]], yn rhagflaenu’r hyn a fyddai’n cael ei alw yn yr 1990au yn ‘Cŵl Cymru’, sef yr enw a fathwyd gan y cyfryngau i gyfleu poblogrwydd y bandiau Cymreig a greodd gerddoriaeth gefndir, fel petai, i’r Gymru newydd ddatganoledig: y bandiau Saesneg [[Manic Street Preachers]] a [[Stereophonics]], a’r bandiau dwyieithog [[Catatonia]], [[Super Furry Animals]] a [[Gorky's Zygotic Mynci | Gorky’s Zygotic Mynci]]. Roedd y bandiau hyn i gyd yn rhai a arwyddodd gytundebau recordio gyda labeli mawr; cawsant oll hefyd lwyddiant yn siartiau Prydain; ac roeddynt yn cynrychioli gwahanol agweddau ar hunaniaeth Gymreig ar droad y mileniwm.
 
Tanseiliwyd poblogrwydd Cŵl Cymru i raddau gan hen ddrwgdybiaeth yn y byd pop Cymraeg tuag at ddwyieithrwydd. Câi cerddorion Cymraeg eu hiaith a recordiai yn y Saesneg o’r 1960au ymlaen eu cyhuddo’n aml o gefnu ar eu gwreiddiau, a châi rhai cerddorion pop eu hanwybyddu gan drefnwyr digwyddiadau am iddynt berfformio yn Lloegr. Pan fu i fandiau uniaith gynt fel [[Cyrff, Y | Y Cyrff]] a [[Ffa Coffi Pawb]] ailffurfio fel y bandiau dwyieithog [[Catatonia]] a [[Super Furry Animals]] yn yr 1990au, a phan fu i Gorky’s Zygotic Mynci chwarae’n deg gyda’r Gymraeg a’r Saesneg gan dorri trwodd i’r farchnad ryngwladol yn sgil hynny, mynegodd rhai yn gyhoeddus eu bod yn poeni bod y byd pop Cymraeg mewn perygl, ac y byddai’r gynulleidfa Saesneg yn denu’r talentau Cymraeg gorau oddi wrth eu cartref ieithyddol a diwylliannol. Er i rai bandiau droi o’r Gymraeg i’r Saesneg, rhai’n fwy llwyddiannus na’i gilydd, profodd llwyddiant albwm Cymraeg y Super Furry Animals, ''Mwng'' (2000), a blesiodd y gynulleidfa a’r beirniaid yr un pryd, ei bod yn bosibl i bop Cymraeg gystadlu mewn marchnad fyd-eang heb gyfaddawdu’n ieithyddol nac yn ddiwylliannol.
+
Tanseiliwyd poblogrwydd Cŵl Cymru i raddau gan hen ddrwgdybiaeth yn y byd pop Cymraeg tuag at ddwyieithrwydd. Câi cerddorion Cymraeg eu hiaith a recordiai yn y Saesneg o’r 1960au ymlaen eu cyhuddo’n aml o gefnu ar eu gwreiddiau, a châi rhai cerddorion pop eu hanwybyddu gan drefnwyr digwyddiadau am iddynt berfformio yn Lloegr. Pan fu i fandiau uniaith gynt fel [[Cyrff, Y | Y Cyrff]] a [[Ffa Coffi Pawb]] ailffurfio fel y bandiau dwyieithog Catatonia a Super Furry Animals yn yr 1990au, a phan fu i Gorky’s Zygotic Mynci chwarae’n deg gyda’r Gymraeg a’r Saesneg gan dorri trwodd i’r farchnad ryngwladol yn sgil hynny, mynegodd rhai yn gyhoeddus eu bod yn poeni bod y byd pop Cymraeg mewn perygl, ac y byddai’r gynulleidfa Saesneg yn denu’r talentau Cymraeg gorau oddi wrth eu cartref ieithyddol a diwylliannol. Er i rai bandiau droi o’r Gymraeg i’r Saesneg, rhai’n fwy llwyddiannus na’i gilydd, profodd llwyddiant albwm Cymraeg y Super Furry Animals, ''Mwng'' (2000), a blesiodd y gynulleidfa a’r beirniaid yr un pryd, ei bod yn bosibl i bop Cymraeg gystadlu mewn marchnad fyd-eang heb gyfaddawdu’n ieithyddol nac yn ddiwylliannol.
  
Ers 2000 mae cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg wedi gweld adfywiad creadigol a beirniadol. Mae cynifer o ''genres'' yn y byd pop Cymraeg ag sydd yn y byd Saesneg: mae cerddoriaeth hip-hop, arbrofol, gwerin newydd a chymysg yn dangos yn glir ddylanwadau o Eingl-America a gweddill y byd. Mae clywed cerddoriaeth Gymraeg ar orsafoedd radio prif ffrwd y BBC yn beth llawn mor gyffredin â chlywed cerddoriaeth Saesneg ar Radio Cymru. Mae cynulleidfaoedd pop Cymraeg yn dal i ymgynnull nid yn unig ar Faes B ond hefyd yn y [[Gwyliau Cerddoriaeth | gwyliau]] lleol, cenedlaethol a rhyngwladol sy’n croesawu pop Cymraeg ar ei delerau ei hun ac yn ôl ei gryfderau ei hun.
 
Llinell 103: Llinell 104:
 
*Craig Owen Jones, ‘“Ar y brig unwaith eto”: siartiau pop iaith Gymraeg cynnar’, ''Gwerddon'', 14 (Ebrill, 2013), 29–45
 
*Craig Owen Jones, ‘“Ar y brig unwaith eto”: siartiau pop iaith Gymraeg cynnar’, ''Gwerddon'', 14 (Ebrill, 2013), 29–45
  
*———, ‘“Songs of Malice and Spite”?: Wales, Prince Charles, and an Anti-Investiture Ballad of [[Dafydd]] Iwan’, ''Music and Politics'', 7/2 (Haf, 2013)
+
*———, ‘“Songs of Malice and Spite”?: Wales, Prince Charles, and an Anti-Investiture Ballad of Dafydd Iwan’, ''Music and Politics'', 7/2 (Haf, 2013)
  
*———, ‘Brwydr Iaith, Brwydro Iaith: Terminoleg y byd pop Cymraeg fel dull protestio yn y 1960au a’r 1970au’, ''Gwerddon'', 16 (Hydref, 2013), 10–27
 
*———, ‘Brwydr Iaith, Brwydro Iaith: Terminoleg y byd pop Cymraeg fel dull protestio yn y 1960au a’r 1970au’, ''Gwerddon'', 16 (Hydref, 2013), 10–27

Y diwygiad cyfredol, am 22:14, 16 Awst 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Rhaid i unrhyw drosolwg o gerddoriaeth boblogaidd gynnig esboniad o’r hyn y mae ‘cerddoriaeth boblogaidd’ yn ei olygu, oherwydd defnyddir yr ymadrodd mewn gwahanol ffyrdd. Yr esboniad symlaf yw bod cerddoriaeth boblogaidd yn cwmpasu unrhyw gerddoriaeth y mae trwch y boblogaeth yn ei mwynhau. Fodd bynnag, caiff yr ymadrodd ei ddefnyddio hefyd i ddisgrifio categori o gerddoriaeth sy’n targedu marchnad boblogaidd yn benodol: mae cerddoriaeth o’r fath fel arfer yn ysgafn, heb fod yn gofyn llawer o’r gwrandäwr. Mae hyn yn wahanol i gategorïau eraill – er enghraifft, nid yw cyfansoddwyr ‘ cerddoriaeth glasurol’ yn ceisio poblogrwydd torfol ac mae eu cerddoriaeth yn aml yn heriol a deallusol. Nid wrth ei apêl boblogaidd y mae mesur llwyddiant darn o gerddoriaeth glasurol ond wrth y gymeradwyaeth feirniadol: ei fod wedi cael derbyniad ffafriol gan gynulleidfa elît a gwybodus (am fwy ynglŷn â diffiniadau o’r term ‘cerddoriaeth boblogaidd’ gw. Middleton 1990, 3–7).

Yn yr oes hon mae’r gwahaniaeth rhwng y diffiniadau hyn yn llai amlwg nag a fu. Mae rhai darnau a ystyriwyd yn ddarnau o ‘gerddoriaeth glasurol’ wedi ennill poblogrwydd eang – mae ‘Nessun Dorma’ yn enghraifft dda o hyn, cân a gyfansoddwyd yn wreiddiol fel aria ddramatig ar gyfer yr opera Turandot (1924) gan Puccini. Fodd bynnag, yn 1990 daeth y gân yn boblogaidd iawn ledled y byd pan ddefnyddiodd y BBC hi yn arwyddgan ei rhaglenni pêl-droed ar gyfer Cwpan y Byd yn yr Eidal. Dim ond un enghraifft yw hon o gerddoriaeth a ddaeth i’r byd mewn un categori ond a ffeindiodd ei ffordd i gategori arall am iddi ddenu’r fath sylw ar lefel boblogaidd; bathwyd y term ‘trawsgroesi’ (crossover yn Saesneg) yn y byd modern i ddisgrifio’r ffenomen hon.

Mae deall y gwahanol ystyron hyn yn bwysig am eu bod yn uniongyrchol berthnasol i hanes cerddoriaeth boblogaidd yng Nghymru. Ond mae angen crybwyll un categori arall: ‘cerddoriaeth bop’. Mae cerddoriaeth bop yn derm cymharol fodern: ni châi ei ddefnyddio’n helaeth cyn yr 1950au. Ar y cyfan mae’n disgrifio cerddoriaeth sy’n targedu’r farchnad ifanc neu hyd yn oed farchnad yr arddegau. Fodd bynnag, nid dim ond pobl yn eu harddegau sy’n gwrando ar gerddoriaeth bop, am y rheswm amlwg fod pobl yn eu harddegau yn tyfu’n hŷn a bod y gerddoriaeth a’u swynodd yn eu glasoed yn dueddol o atseinio’n felys yn eu cof ar hyd eu bywydau.

Yn ddiweddarach yn hanes cerddoriaeth boblogaidd yng Nghymru, bu tueddiadau yn debyg i’r rhai ar draws y byd gorllewinol, ond nid oes rhaid chwilio’n hir i ddarganfod elfennau sy’n arbennig iddi. Mae’n ddefnyddiol ystyried cerddoriaeth boblogaidd yng Nghymru fel cyfres o gyfnodau cronolegol; cyflwynir tueddiadau newydd ym mhob cyfnod, ond mae pob cyfnod newydd yn dal gafael ar y tueddiadau mwyaf blaenllaw ar y pryd ac yn ymhelaethu arnynt, yn hytrach na’u disodli. Er enghraifft, bu cerddoriaeth draddodiadol o hyd yn boblogaidd mewn cymunedau gwledig, ac er i’r cymunedau hynny amsugno tueddiadau newydd fel y caent eu cyflwyno, parhaodd y traddodiadau hŷn yn boblogaidd.

1. Cerddoriaeth draddodiadol

Y gerddoriaeth boblogaidd – cerddoriaeth y bobl – gynharaf y mae gennym unrhyw gofnod ohoni yw’r hyn y cyfeirir ato heddiw fel ‘cerddoriaeth draddodiadol’. Mae hyn yn cwmpasu cerddoriaeth a gâi ei chanu a cherddoriaeth a gâi ei chwarae ar offerynnau, gan gynnwys miwsig ar gyfer dawnsio. Anaml y câi cerddoriaeth draddodiadol ei hysgrifennu. Yn hytrach, roedd yn dibynnu ar ei throsglwyddo’n llafar: traddodiad sy’n seiliedig ar wrando a chofio. Mae’r hyn a wyddom am y gerddoriaeth hon yn seiliedig ar yr hyn y mae casglwyr o’r 19g. yn ei ddweud wrthym amdani, casglwyr fel Maria Jane Williams, a welodd gerddoriaeth o’r fath yn cael ei pherfformio, gan ei thrafod sawl gwaith gyda phobl leol ac ysgrifennu’r alawon a’r geiriau. Bu gwaith y casglwyr hyn ym maes cerddoriaeth draddodiadol Cymru o gryn bwysigrwydd i dreftadaeth ddiwylliannol Cymru, fel y mae hyd heddiw.

Gellir cyffredinoli’n fras mewn sawl ffordd am gerddoriaeth boblogaidd ymysg y bobl gyffredin cyn y cyfnod diwydiannol trwy astudio gwaith y casglwyr hyn. Gweithgaredd cymunedol oedd canu a chwarae cerddoriaeth yn aml, a thueddai i fod yn gysylltiedig â digwyddiadau blynyddol fel y Nadolig, y Flwyddyn Newydd a diwedd y cynhaeaf. Ond roedd hefyd draddodiadau cerddorol nad oeddynt yn gofyn rheswm penodol ac a oedd yn breifat, fel caneuon serch, caneuon naratif (storïau) a genid yn y cartref a hwiangerddi. Roedd rhai caneuon ac alawon yn rhai lleol a gellir eu holrhain i rannau penodol o’r wlad, ond mae hefyd dystiolaeth y gallent deithio. Wrth i ganeuon ymledu trwy’r wlad, byddai eu naws leol yn aml yn newid neu’n cael ei haddasu ryw ychydig, ond gyda’i gilydd daethant i ffurfio rhyw fath o repertoire cenedlaethol. Manteisiodd cyhoeddwyr o’r 19g. (yn Llundain yn bennaf) ar y syniad hwn, cyhoeddwyr casgliadau o ganeuon ethnig o Gymru a chanddynt deitlau fel Songs of Wales (gw. ‘Cyhoeddi’ o dan Diwylliant a’r Diwydiant Cerddoriaeth).

2. Cerddoriaeth y bobl yn ardaloedd diwydiannol y 19g.

Newidiodd arferion cerddoriaeth boblogaidd o ganlyniad i newidiadau yn y boblogaeth a newidiadau eraill a ddaeth wrth i ddiwydiant trwm newydd ddatblygu yn ne a gogledd Cymru yn y 19g. O ganlyniad i fudo i’r ardaloedd hyn o’r tu mewn i Gymru ac o’r tu allan iddi gwelwyd demograffeg newydd lle’r oedd niferoedd mwy nag erioed o bobl dosbarth gweithiol yn byw yn agos at ei gilydd. Cafodd y newid hwn sgil-effeithiau diwylliannol pellgyrhaeddol. Arweiniodd y capeli Anghydffurfiol, a godwyd i wrthsefyll yr hyn a ystyriwyd yn heriau ysbrydol a moesol a ddaeth yn sgil y newidiadau hyn, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol at gyfnod newydd o gerddoriaeth boblogaidd pan oedd canu cynulleidfaol (gyda chymorth y nodiant sol-ffa newydd) yn flaenllaw: i bob pwrpas, roedd hyn yn enghraifft gynnar o ‘drawsgroesi’. Efallai mai cerddoriaeth grefyddol oedd emynau yn wreiddiol, ond buan y daethant yn gerddoriaeth boblogaidd seciwlar. Cyn diwedd y ganrif roedd emynau Anghydffurfiol yn gerddoriaeth boblogaidd y tafarnau a’r terasau rygbi. Daeth canu emynau mewn gemau rygbi yn un o’r gweithgareddau hamdden cerddorol mwyaf poblogaidd, a chyfrannodd at yr hyn a ddisgrifiodd yr hanesydd Kenneth Morgan fel ‘pwysigrwydd meseianaidd emosiynol y gêm’.

Yn y cyfnod hwn ac ar ddechrau’r 20g. bu dau ddatblygiad pwysig arall hefyd. Y cyntaf o’r rhain oedd twf yn yr amrywiaeth o gerddoriaeth boblogaidd a fodolai. Ymddangosodd bandiau pres a mathau eraill o gerddoriaeth offerynnol amatur o tua 1850 ymlaen, a chreodd hyn ganolbwynt arall i gerddoriaeth boblogaidd gyfranogol a ffordd arall o wrando ar weithiau poblogaidd. Prynodd llawer o deuluoedd bianos unionsyth. Caent eu masgynhyrchu ac roeddynt yn gymharol rad; gallai pobl y dosbarth gweithiol eu fforddio trwy gynlluniau newydd ar gyfer taliadau wedi’u gohirio. Darparai cyhoeddwyr o Loegr a rhai o Gymru lif cyson o gerddoriaeth ddalen ysgafn boblogaidd, hawdd ei dysgu, ar gyfer y farchnad hon.

Yr ail ddatblygiad, ar yr un pryd, oedd dyfodiad diddanwch cyhoeddus proffesiynol o fewn cyrraedd trwch y boblogaeth. Cyflwynwyd y cysyniad o gynulleidfa yn talu tâl mynediad, a daeth y cyhoedd yng Nghymru, er eu bod yn dal yn driw i lawer o’u traddodiadau cerddorol cymunedol, yn brynwyr cerddoriaeth boblogaidd. Hyd yn oed yn yr 1840au byddai sioeau’n teithio o amgylch y trefi a’r pentrefi mwy yng Nghymru. Ymysg y mwyaf adnabyddus yr oedd Wombwell’s Circus and Menagerie, ac er bod anifeiliaid egsotig y syrcas wedi ennyn chwilfrydedd, roedd eu band enwog a berfformiai’r holl gerddoriaeth ddawns ddiweddaraf yn gystal atyniad.

Erbyn yr 1870au roedd tair neuadd gerddoriaeth yng Nghaerdydd yn cynnig adloniant ysgafn chwe noson yr wythnos a pherfformiadau dydd rai diwrnodau, ac ymddangosodd neuaddau cerddoriaeth tebyg yn y cymoedd a threfi’r arfordir. Caent eu gwasanaethu gan artistiaid cerddorol crwydrol a berfformiai mewn sioeau adloniant a sioeau minstrel. Yn wir, bu band yr arweinydd/cyfansoddwr poblogaidd o’r Unol Daleithiau, John Philip Sousa, a gynhwysai yn ei repertoire yr arddull]] Americanaidd gymharol newydd ragtime, ar daith yng Nghymru yn 1903.

3. Adloniant y cyfryngau torfol

Erbyn dechrau’r 20g. roedd y llif o ddiddanwyr proffesiynol wedi helpu pobl Cymru i arfer â thueddiadau rhyngwladol mewn cerddoriaeth boblogaidd, ond parhaodd hoffterau ac arferion cynhenid ei thraddodiadau hŷn, yn anad dim trwy eisteddfodau cenedlaethol a lleol. Byddai’r broses o ryngwladoli yn cyflymu o ganlyniad i fathau newydd o gyfryngau. Datblygwyd y gramoffon yn yr 1890au ond nid oedd ar gael yn eang yng Nghymru yn negawdau cyntaf ei fodolaeth. Yn 1926 gwelwyd ffilmiau sain a darlledu am y tro cyntaf yng Nghymru. Cafodd y cyhoedd weld ffilmiau sain yn fuan am fod yr isadeiledd angenrheidiol eisoes wedi cael ei sefydlu ar gyfer dangos ffilmiau mud. Roedd pris mynediad i sinemâu yn rhad ac roedd ffilmiau a oedd yn cynnwys cerddoriaeth boblogaidd yn denu llawer.

Byddai radio’r BBC (a elwid ar y cychwyn yn ddarlledu di-wifr – neu ‘weiarles’) yn cael effaith amlwg. Erbyn diwedd yr 1920au roedd signalau di- wifr ar gael yn 70% o ardaloedd poblog Cymru, ond golygai cost y cyfarpar a dderbyniai’r signal a chost y drwydded mai llai na hanner cartrefi Cymru a oedd â thrwydded, hyd yn oed erbyn diwedd yr 1930au. Byddai llawer yn gwrando ar ddarllediadau di-wifr o gerddoriaeth boblogaidd gyda’i gilydd mewn neuaddau cymunedol.

Tra oedd y BBC yn darlledu cerddoriaeth a oedd yn boblogaidd ar draws Prydain o’i phrif orsaf yn Llundain, datblygodd gorsaf BBC Cymru gynnyrch a oedd yn darparu ar gyfer pobl Cymru. Noson Lawen oedd y rhaglen gerddoriaeth fwyaf poblogaidd, rhaglen a oedd yn uniongyrchol seiliedig ar y fformat a oedd yn adnabyddus mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith. Yn 1938 cyflwynwyd rhaglen adloniant cerddorol newydd Saesneg ei hiaith o’r enw Welsh Rarebit. Y cynhyrchydd oedd Mai Jones (1899–1960), cyfansoddwr y gân 'We'll Keep a Welcome'; hon oedd y rhaglen fwyaf poblogaidd yn yr 1940au a chyflwynodd sêr newydd fel Harry Secombe (1921– 2001) i gynulleidfa eang.

4. Eiconau Cymreig cerddoriaeth boblogaidd cyn yr 1970au

Un o nodweddion hynotaf hanes cerddoriaeth boblogaidd Cymru yw’r modd y cynhyrchodd yr hyn a oedd yn aml, yn y bôn, yn draddodiad ynysig a chymunedol gynifer o sêr rhyngwladol. Hyd yn oed cyn diwedd y 19g., roedd corau meibion gyda’u hunawdwyr brodorol yn teithio Gogledd America ac yn cyfareddu cynulleidfaoedd. Ceid corau merched a chorau cymysg hefyd; un o’r rhai mwyaf llwyddiannus oedd y Royal Welsh Ladies Choir o dan arweinyddiaeth garismatig Clara Novello Davies. Ei mab David Ivor, a aned yng Nghaerdydd ac a gymerodd yr enw Ivor Novello, oedd archseren ryngwladol gyntaf cerddoriaeth boblogaidd Cymru. Roedd ei sioeau a’i ganeuon (yn cynnwys yr enwog ‘Keep the Home Fires Burning’) yr un mor boblogaidd ar Broadway ag yr oeddynt yng Nghymru. Byddai mwy yn dilyn yn y traddodiad poblogaidd neu ysgafn: Dai Francis (1930–2003), seren y rhaglen deledu Black and White Minstrel Show; Ivor Emmanuel (1927–2007), yr oedd ei sioe gerddoriaeth ar ITV, Land of Song, y fwyaf poblogaidd yn ei chyfnod; a Donald Peers (1908–73), paentiwr ffensys o Rydaman ac enillydd y gystadleuaeth ddoniau Opportunity Knocks, a aeth yn ei flaen i fod yn un o sêr mwyaf ei ddydd.

Wrth i oes cerddoriaeth bop wawrio yn yr 1960au, ymddangosodd grŵp o gantorion a fyddai’n cael llwyddiant rhyngwladol hirdymor. Roedd y rhain yn cynnwys Dorothy Squires (1915–98), Shirley Bassey (g.1937), Mary Hopkin (g.1940) a Tom Jones (g.1940). Os oedd i’r perfformwyr tra amrywiol hyn un nodwedd yn gyffredin, y nodwedd honno oedd eu bod wedi llwyddo nid yn unig am eu bod wedi’u cysylltu, trwy siawns, gyda chân arbennig neu o ganlyniad i ymgyrch farchnata graff, ond ar sail eu doniau gwirioneddol fel cantorion telynegol: i bob diben, roeddynt wedi trosi traddodiad canu poblogaidd Cymru i idiomau cerddorol newydd. Ond megis cychwyn oedd hyn; wrth i’r mileniwm agosáu, byddai cenhedlaeth o grwpiau pop a roc o Gymru yn ymddangos ac yn ffurfio sîn bop ddwyieithog Gymreig ffyniannus a oedd mor wahanol y byddai’n symbylu’r epithet ‘Cŵl Cymru’.

5. Cerddoriaeth Boblogaidd ers 1950

Gellid dadlau bod y rhaglen radio boblogaidd Noson Lawen yn sylfaen i ddiwylliant poblogaidd cenedlaethol Cymraeg. Pan oeddynt yn fyfyrwyr prifysgol ym Mangor, gofynnwyd i Meredydd Evans, Robin Williams a Cledwyn Jones – sef Triawd y Coleg – gyfrannu eitemau cerddorol i’r sioe. Yn aml byddai’r caneuon hyn yn ddigrif, byddent weithiau yn tynnu ar y traddodiad gwerin, a chaent eu canu’n ymddangosiadol ddiymdrech mewn harmoni tair rhan. Trwy’r sioe adloniant hon a roddai lwyfan newydd i dalentau lleol, creodd Noson Lawen gynulleidfa genedlaethol ar gyfer cerddoriaeth boblogaidd, a daeth Meredydd Evans yn y pen draw yn gyfarwyddwr adloniant ysgafn gyda’r BBC. Llwyddodd Triawd y Coleg hefyd i boblogeiddio arddull gerddorol a oedd yn gyfarwydd ac yn newydd ar yr un pryd, a’r arddull hon oedd prif ffrwd cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg drwy gydol yr 1950au a dechrau’r 1960au pan oedd cerddoriaeth sgiffl yn ei hanterth.

Cafodd datblygiad pellach cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg yn yr 1950au a’r 1960au ei symbylu hefyd i raddau helaeth gan y cyfryngau Cymraeg. Tra oedd Bois a Hogia’r cyfnod sgiffl ar hyd a lled Cymru yn dal i gael llwyddiant yn lleol ac yn genedlaethol (megis Hogia Bryngwran a Hogia Llandegai), perfformiadau cynnar Dafydd Iwan ar Y Dydd gan TWW a unodd adloniant ysgafn gyda sylwebaeth gymdeithasol, ac a gydblethodd hefyd weithgaredd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ei dyddiau cynnar a cherddoriaeth boblogaidd.

Roedd y ddwy wedd ar bop Cymraeg yn y cyfnod hwn – actifiaeth wleidyddol ac adloniant ysgafn – yn rhannu’r un gynulleidfa, serch hynny. Yn wahanol i gerddoriaeth boblogaidd Eingl-Americanaidd, a oedd yn ymrannu’n nifer o wahanol arddulliau a genres yn ail hanner yr 1960au, roedd pop Cymraeg yn apelio at ystod eang o’r boblogaeth am resymau ideolegol, nid rhai cerddorol o anghenraid. Ac am i gyfrifiad 1961 ddangos cwymp enbyd yn y nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, ni ellir ond ystyried bod twf y ‘sîn’ bop Gymraeg yn ail hanner y degawd yn beth cadarnhaol.

Yn sgil poblogrwydd cynyddol cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg yn yr 1960au sefydlwyd rhaglenni teledu (Disg a Dawn) a radio (yn cynnwys y sioe ‘ieuenctid’ boblogaidd a gyflwynwyd gan Hywel Gwynfryn) a oedd yn ymwneud â cherddoriaeth bop. Roedd sefydlu Recordiau Sain yn 1969 yn gam cyntaf pwysig wrth greu diwydiant recordiau Cymraeg, a chefnogodd hynny dwf pop yn yr iaith trwy gydol yr 1970au. Mae sawl un wedi galw hanner cyntaf yr 1970au yn ‘oes aur’ pop Cymraeg, ond amgenach erbyn heddiw efallai fyddai ystyried y cyfnod yn sylfaen i’r hyn a’i dilynodd: cerddoriaeth a ymgorfforodd ystod ehangach o ddylanwadau, o’r blues i roc gwerin i reggae i ‘supergroups’; defnydd mwy dyfeisgar o dechnoleg recordio gyfoes; agwedd aeddfed at grefft ysgrifennu geiriau i ganeuon; ymbellhau oddi wrth arddull canu traddodiadol, Eisteddfodol, a nesáu at arddull a ymgorfforai dueddiadau pop cyfredol ehangach.

Wrth i ganu pop Cymraeg ddatblygu, tyfodd diwydiant pop Cymraeg hefyd. Roedd Recordiau Fflach, a sefydlwyd yn Aberteifi yn 1981, yn hyrwyddwr pwysig i gerddoriaeth y don newydd (new wave). Bu i fandiau Cymraeg tanddaearol (megis Anhrefn) yn arbennig, osgoi’r diwydiant Cymraeg yn llwyr a dechrau hyrwyddo eu cerddoriaeth, a cherddoriaeth bandiau eraill o’r un anian, i gynulleidfaoedd y tu hwnt i’r gymuned Gymraeg. Bu’r ymdrechion annibynnol hyn, Cam o’r Tywyllwch (Anhrefn, 1985) a Gadael yr Ugeinfed Ganrif (Anhrefn, 1985), yn bwysig yn natblygiad ‘ail genhedlaeth’ o gerddorion pop Cymraeg, a dyma pryd y daeth y brif ffrwd Eingl-Americanaidd yn raddol iawn yn ymwybodol o gerddoriaeth boblogaidd Gymraeg.

Dechreuodd y DJ Radio 1 John Peel hyrwyddo bandiau Cymraeg fel Datblygu, a chyda sylfaenu’r label annibynnol Recordiau Ankst yn Aberystwyth (1988) gwawriodd cyfnod newydd mewn cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg. Yn fuan wedi sylfaenu MTV yn Eingl-America, fe’i hefelychwyd ar S4C gyda’r rhaglen ddylanwadol Fideo 9 (1988–1992), a hyrwyddwyd yr amrywiaeth aruthrol o fandiau annibynnol ar raglenni nos Radio Cymru, fel Heno Bydd yr Adar yn Canu (1991–95).

Roedd cerddoriaeth bop frodorol trwy gyfrwng yr iaith Saesneg hefyd yn ffynnu yng Nghymru ac yn ail hanner yr 20g. roedd llawer o gerddorion a groesai’n rhwydd o’r naill fyd i’r llall. Recordiodd Mary Hopkin a Meic Stevens yn llwyddiannus yn y ddwy iaith, a rhyddhaodd y band o’r Rhyl, The Alarm, gyfieithiadau Cymraeg o ddau albwm, Newid (Crai, 1989) a Tân (Crai, 1991). Roedd poblogrwydd y bandiau Saesneg o Gymru, Man a Budgie, yn rhagflaenu’r hyn a fyddai’n cael ei alw yn yr 1990au yn ‘Cŵl Cymru’, sef yr enw a fathwyd gan y cyfryngau i gyfleu poblogrwydd y bandiau Cymreig a greodd gerddoriaeth gefndir, fel petai, i’r Gymru newydd ddatganoledig: y bandiau Saesneg Manic Street Preachers a Stereophonics, a’r bandiau dwyieithog Catatonia, Super Furry Animals a Gorky’s Zygotic Mynci. Roedd y bandiau hyn i gyd yn rhai a arwyddodd gytundebau recordio gyda labeli mawr; cawsant oll hefyd lwyddiant yn siartiau Prydain; ac roeddynt yn cynrychioli gwahanol agweddau ar hunaniaeth Gymreig ar droad y mileniwm.

Tanseiliwyd poblogrwydd Cŵl Cymru i raddau gan hen ddrwgdybiaeth yn y byd pop Cymraeg tuag at ddwyieithrwydd. Câi cerddorion Cymraeg eu hiaith a recordiai yn y Saesneg o’r 1960au ymlaen eu cyhuddo’n aml o gefnu ar eu gwreiddiau, a châi rhai cerddorion pop eu hanwybyddu gan drefnwyr digwyddiadau am iddynt berfformio yn Lloegr. Pan fu i fandiau uniaith gynt fel Y Cyrff a Ffa Coffi Pawb ailffurfio fel y bandiau dwyieithog Catatonia a Super Furry Animals yn yr 1990au, a phan fu i Gorky’s Zygotic Mynci chwarae’n deg gyda’r Gymraeg a’r Saesneg gan dorri trwodd i’r farchnad ryngwladol yn sgil hynny, mynegodd rhai yn gyhoeddus eu bod yn poeni bod y byd pop Cymraeg mewn perygl, ac y byddai’r gynulleidfa Saesneg yn denu’r talentau Cymraeg gorau oddi wrth eu cartref ieithyddol a diwylliannol. Er i rai bandiau droi o’r Gymraeg i’r Saesneg, rhai’n fwy llwyddiannus na’i gilydd, profodd llwyddiant albwm Cymraeg y Super Furry Animals, Mwng (2000), a blesiodd y gynulleidfa a’r beirniaid yr un pryd, ei bod yn bosibl i bop Cymraeg gystadlu mewn marchnad fyd-eang heb gyfaddawdu’n ieithyddol nac yn ddiwylliannol.

Ers 2000 mae cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg wedi gweld adfywiad creadigol a beirniadol. Mae cynifer o genres yn y byd pop Cymraeg ag sydd yn y byd Saesneg: mae cerddoriaeth hip-hop, arbrofol, gwerin newydd a chymysg yn dangos yn glir ddylanwadau o Eingl-America a gweddill y byd. Mae clywed cerddoriaeth Gymraeg ar orsafoedd radio prif ffrwd y BBC yn beth llawn mor gyffredin â chlywed cerddoriaeth Saesneg ar Radio Cymru. Mae cynulleidfaoedd pop Cymraeg yn dal i ymgynnull nid yn unig ar Faes B ond hefyd yn y gwyliau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol sy’n croesawu pop Cymraeg ar ei delerau ei hun ac yn ôl ei gryfderau ei hun.

Trevor Herbert a Sarah Hill

Llyfryddiaeth

  • Roger Wallis a Krister Malm, ‘Sain Cymru: The Role of the Welsh Phonographic Industry in the Development of a Welsh Language Pop/Rock/Folk Scene’, Popular Music, 3 (1983), 77–105
  • Steve Eaves (gol.), Y Trên Olaf Adref (Talybont, 1984)
  • Richard Middleton, Studying Popular Music (Gwasg y Brifysgol Agored, 1990)
  • Damian Walford Davies, ‘Ailysgrifennwn y Llyfraith’: Barddoniaeth y Canu Pop’, Hanes Cerddoriaeth Cymru, 1 (1996), 180–205
  • Pwyll ap Siôn, ‘Gwrthleisiau: Geraint Jarman a Gwreiddiau Reggae mewn Cerddoriaeth Boblogaidd Gymreig’, Hanes Cerddoriaeth Cymru, 2 (1997), 263–77
  • Dai Griffiths, ‘‘Home is Like a Man on the Run’: Iwerydd Cymreig John Cale’, Hanes Cerddoriaeth Cymru, 4 (2000), 159–85
  • Sarah Hill, ‘Teuluoedd Tebygrwydd: Cerddoriaeth Boblogaidd Gymreig ac Ymylnodau Eraill’, Hanes Cerddoriaeth Cymru, 4 (2000), 138–47
  • Meic Llewellyn, ‘Popular Music in the Welsh Language and the Affirmation of Youth Identities’, Popular Music, 19/3 (2000), 319–39
  • Pwyll ap Siôn, ‘“Yn y Fro”: Mudiad Adfer a’r Canu Pop Cymraeg yn ystod y 1970au’, Hanes Cerddoriaeth Cymru, 5 (2002), 162–89
  • Craig Owen Jones, ‘Beatbox Taffia’: Welsh Underground Music in the 1990s’ (traethawd MA Prifysgol Bangor, 2002)
  • Hefin Wyn, Be Bop a Lula’r Delyn Aur (Talybont, 2002)
  • Craig Owen Jones, ‘“Beatbox Taffia”: Cerddoriaeth Danddaearol Gymraeg yn y 1990au’, Hanes Cerddoriaeth Cymru, 6 (2004), 239–59
  • ———, ‘Y Cantorion Newydd? A Study of Contemporary Welsh Popular Music’ (traethawd PhD Prifysgol Bangor, 2006)
  • Rhys Mwyn, Cam o’r Tywyllwch (Talybont, 2006)
  • Hefin Wyn, Ble Wyt Ti Rhwng? (Talybont, 2006)
  • Sarah Hill, ‘Blerwytirhwng?’ The Place of Welsh Pop Music (Aldershot, 2007)
  • Rebecca Jayne Edwards, ‘“To show from where I came”: Cool Cymru, Pop and National Identity in Wales during the 1990s’ (traethawd PhD Prifysgol Abertawe, 2008)
  • Pwyll ap Siôn, ‘’’Ysgrifen ar y mur?” Traddodiadau’r Canu Pop Cymraeg 1979-1997’, Ysgrifau Beirniadol, 29 (2011), 110–32
  • Geraint Jarman, Twrw Jarman (Llandysul, 2011)
  • Craig Owen Jones, ‘“Ar y brig unwaith eto”: siartiau pop iaith Gymraeg cynnar’, Gwerddon, 14 (Ebrill, 2013), 29–45
  • ———, ‘“Songs of Malice and Spite”?: Wales, Prince Charles, and an Anti-Investiture Ballad of Dafydd Iwan’, Music and Politics, 7/2 (Haf, 2013)
  • ———, ‘Brwydr Iaith, Brwydro Iaith: Terminoleg y byd pop Cymraeg fel dull protestio yn y 1960au a’r 1970au’, Gwerddon, 16 (Hydref, 2013), 10–27
  • Gethin Griffiths, ‘“Heb y Barnu Na’r Cystadlu”: Cerddoriaeth Boblogaidd a’r Eisteddfod Genedlaethol’ (traethawd MA Prifysgol Bangor, 2016)
  • Craig Owen Jones, ‘Papurau bro cynnar gogledd Cymru a cherddoriaeth roc Gymraeg’, Gwerddon, 22 (Hydref, 2016), 11–30
  • ———, “Still here’?: A Geospatial Survey of Welsh- Language Popular Music’, yn Sarah Cohen a Robert Knifton et al. (goln.), Sites of Popular Music Heritage: Memories, Histories, Places (Llundain 2014), 62–77
  • Hannah Way, ‘“Ai heddiw yw oes aur canu Roc a Phop Cymraeg?” Astudiaeth o agweddau cyfoes ar ddiwydiant, diwylliant a’r Sin Roc a Phop yng Nghymru rhwng 1980–2014’ (traethawd MRes Prifysgol Bangor, 2016)

Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.