Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Organoleg ac Offerynnau"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...')
 
 
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Yn y 6g. dechreuodd hanes Cymru fel tiriogaeth, gyda’i hiaith a’i diwylliant annibynnol o holl Geltiaid eraill gorllewin Ewrop. Yn ystod y cyfnod o fil o flynyddoedd a ddilynodd hynny, datblygodd cerddoriaeth yn bennaf trwy gyfrwng y traddodiad llafar. Mae’r casgliad ysgrifenedig cyntaf o gerddoriaeth offerynnol Cymru, sef casgliad y bardd a’r telynor [[Robert ap Huw]] ''(c''.1580–1665) o Landdeusant, Ynys Môn, yn dyddio o 1613 ac mae’n cynrychioli’r ymgais gyntaf i groniclo agweddau cerddorol ar y traddodiad barddol cyn iddo ddiflannu’n gyfan gwbl.
+
Yn y 6g. dechreuodd hanes Cymru fel tiriogaeth, gyda’i hiaith a’i diwylliant annibynnol o holl Geltiaid eraill gorllewin Ewrop. Yn ystod y cyfnod o fil o flynyddoedd a ddilynodd hynny, datblygodd cerddoriaeth yn bennaf trwy gyfrwng y traddodiad llafar. Mae’r casgliad ysgrifenedig cyntaf o gerddoriaeth offerynnol Cymru, sef casgliad y bardd a’r telynor [[Ap Huw, Robert (c.1580-1665) | Robert ap Huw]] ''(c''.1580–1665) o Landdeusant, Ynys Môn, yn dyddio o 1613 ac mae’n cynrychioli’r ymgais gyntaf i groniclo agweddau cerddorol ar y traddodiad barddol cyn iddo ddiflannu’n gyfan gwbl.
  
 
Tystiolaeth hanesyddol a llenyddol sy’n profi bodolaeth cerddoriaeth a’r traddodiad offerynnol yng Nghymru yn y canrifoedd cynnar. Ceir cyfeiriadau ym mhregethau’r abad Gildas, ''De Excidio et Conquestu Britanniae'', yn y 6g. at swyddogaeth y bardd teulu yn canmol ei noddwr i gyfeiliant [[telyn]] neu lyra, a hynny mewn dull tra gwahanol i arddull cerddoriaeth gysegredig yr eglwys bryd hynny. Yn yr un modd, cyfeiria’r Archesgob o Poitiers, Venantius Fortunatus ''(c''.540–c.600), at ddefnydd y Brytaniaid o’r [[crwth]]:
 
Tystiolaeth hanesyddol a llenyddol sy’n profi bodolaeth cerddoriaeth a’r traddodiad offerynnol yng Nghymru yn y canrifoedd cynnar. Ceir cyfeiriadau ym mhregethau’r abad Gildas, ''De Excidio et Conquestu Britanniae'', yn y 6g. at swyddogaeth y bardd teulu yn canmol ei noddwr i gyfeiliant [[telyn]] neu lyra, a hynny mewn dull tra gwahanol i arddull cerddoriaeth gysegredig yr eglwys bryd hynny. Yn yr un modd, cyfeiria’r Archesgob o Poitiers, Venantius Fortunatus ''(c''.540–c.600), at ddefnydd y Brytaniaid o’r [[crwth]]:
Llinell 9: Llinell 9:
 
:''Graecus Achilliaca, crotta Britanna canat''
 
:''Graecus Achilliaca, crotta Britanna canat''
  
Dwyn cymhariaeth y mae Fortunatus yn y dyfyniad hwn rhwng yr offerynnau tebyg eu sain a’u dull perfformio a oedd yn gyffredin ledled Ewrop yr adeg honno. Er nad oes cerddoriaeth ysgrifenedig nac enghreifftiau o offerynnau’r cyfnod wedi goroesi yng Nghymru, gwyddys fod y beirdd yn derbyn hyfforddiant trylwyr am gyfnod o oddeutu deuddeng mlynedd, yn ennill graddau barddol, yn arbenigo naill ai mewn cerdd dafod (sef barddoniaeth) neu [[gerdd dant]] (sef cerddoriaeth) cyn iddynt gael yr hawl i gyflwyno’u cerddi yn gyhoeddus a hynny i gyfeiliant y delyn neu’r tympan ''(tympanum)''. Fel y dengys Thurston Dart, telyn fach, telyn ‘farddol’ neu delyn pen-glin gydag oddeutu 25 o dannau oedd yr offeryn mwyaf cyffredin ymhlith y beirdd yn y cyfnod cynnar hwn (Dart 1968). Dadleua rhai mai tannau o goludd ''(gut)'' neu o rawn (blew ceffyl) a oedd yn gyffredin, tra mae ymchwilwyr eraill (Greenhill 1995) o’r farn y byddai offerynwyr proffesiynol o Gymru yn fwy tebygol o efelychu’r traddodiad Gwyddelig a defnyddio tannau o fetel er mwyn cyfoethogi naws y sain.
+
Dwyn cymhariaeth y mae Fortunatus yn y dyfyniad hwn rhwng yr offerynnau tebyg eu sain a’u dull perfformio a oedd yn gyffredin ledled Ewrop yr adeg honno. Er nad oes cerddoriaeth ysgrifenedig nac enghreifftiau o offerynnau’r cyfnod wedi goroesi yng Nghymru, gwyddys fod y beirdd yn derbyn hyfforddiant trylwyr am gyfnod o oddeutu deuddeng mlynedd, yn ennill graddau barddol, yn arbenigo naill ai mewn cerdd dafod (sef barddoniaeth) neu [[Cerdd Dant | gerdd dant]] (sef cerddoriaeth) cyn iddynt gael yr hawl i gyflwyno’u cerddi yn gyhoeddus a hynny i gyfeiliant y delyn neu’r tympan ''(tympanum)''. Fel y dengys Thurston Dart, telyn fach, telyn ‘farddol’ neu delyn pen-glin gydag oddeutu 25 o dannau oedd yr offeryn mwyaf cyffredin ymhlith y beirdd yn y cyfnod cynnar hwn (Dart 1968). Dadleua rhai mai tannau o goludd ''(gut)'' neu o rawn (blew ceffyl) a oedd yn gyffredin, tra mae ymchwilwyr eraill (Greenhill 1995) o’r farn y byddai offerynwyr proffesiynol o Gymru yn fwy tebygol o efelychu’r traddodiad Gwyddelig a defnyddio tannau o fetel er mwyn cyfoethogi naws y sain.
  
Er bod crefft y beirdd yn cynrychioli dwy wedd bwysig ar ddiwylliant y Cymry yr adeg honno, ceir dyfyniad yng Ngramadegau’r Penceirddiaid (sy’n ymddangos yn Llawysgrif Peniarth) sy’n brawf o amrywiaeth y traddodiad offerynnol yn y Gymru gynnar:
+
Er bod crefft y beirdd yn cynrychioli dwy wedd bwysig ar ddiwylliant y Cymry yr adeg honno, ceir dyfyniad yng Ngramadegau’r Penceirddiaid (sy’n ymddangos yn [[Llawysgrif]] Peniarth) sy’n brawf o amrywiaeth y traddodiad offerynnol yn y Gymru gynnar:
  
 
:Tri ryw brifgerd ysyd, nyt amgen: kerd dant, kerd vegin, a cherd dauawt.
 
:Tri ryw brifgerd ysyd, nyt amgen: kerd dant, kerd vegin, a cherd dauawt.
Llinell 18: Llinell 18:
 
:Teir prifgerd tauawt ysyd: prydu, a dachanu, a chanu gan delyn.
 
:Teir prifgerd tauawt ysyd: prydu, a dachanu, a chanu gan delyn.
  
Cyn i’r wlad golli ei hannibyniaeth yn 1282, cyhoeddodd y clerigwr [[Gerallt Gymro]] ''(c''.1146–''c''.1223) gronicl o’i daith o amgylch Cymru, ''Itinerarium Cambriae'' (1191) a ''Descriptio Cambriae'' (1194), sy’n cynnwys cyfeiriadau at y defnydd o gerddoriaeth ac offerynnau cerdd yn y diwylliant Cymreig ac sy’n pwysleisio arwyddocâd arbennig y delyn yn nhraddodiadau’r genedl.
+
Cyn i’r wlad golli ei hannibyniaeth yn 1282, cyhoeddodd y clerigwr [[Gerallt Gymro (Giraldus Cambrensis, Giraldus de Barri, Gerald de Barri; c.1146-c.1220) | Gerallt Gymro]] ''(c''.1146–''c''.1223) gronicl o’i daith o amgylch Cymru, ''Itinerarium Cambriae'' (1191) a ''Descriptio Cambriae'' (1194), sy’n cynnwys cyfeiriadau at y defnydd o gerddoriaeth ac offerynnau cerdd yn y diwylliant Cymreig ac sy’n pwysleisio arwyddocâd arbennig y delyn yn nhraddodiadau’r genedl.
  
Yn ôl Gerallt, a oedd yn deithiwr profiadol, ystyrid y grefft o ganu’r delyn uwchlaw unrhyw ddawn arall, ceid telyn ym mhob tŷ bonedd a byddai’n arferiad i delynoresau ifanc ddiddanu eu hymwelwyr yn ddyddiol. Gwelir cryn fanylder ynghylch y defnydd o offerynnau cerdd yng Nghymru yn y cyhoeddiad hwn - manylder nas cafwyd cyn hynny. Atega Gerallt yr hyn a geir yn neddfau Hywel Dda ''(c''.880–950) a luniwyd yn y 10g., ond na chofnodwyd hyd nes y 13g. Erbyn cyfnod gweithredu’r deddfau cenedlaethol hyn, y delyn oedd prif offeryn y Cymry, tra cyfeirir hefyd at fodolaeth y [[crwth]] a’r pibau ([[pibgorn]]).
+
Yn ôl Gerallt, a oedd yn deithiwr profiadol, ystyrid y grefft o ganu’r delyn uwchlaw unrhyw ddawn arall, ceid telyn ym mhob tŷ bonedd a byddai’n arferiad i delynoresau ifanc ddiddanu eu hymwelwyr yn ddyddiol. Gwelir cryn fanylder ynghylch y defnydd o offerynnau cerdd yng Nghymru yn y cyhoeddiad hwn - manylder nas cafwyd cyn hynny. Atega Gerallt yr hyn a geir yn neddfau Hywel Dda ''(c''.880–950) a luniwyd yn y 10g., ond na chofnodwyd hyd nes y 13g. Erbyn cyfnod gweithredu’r deddfau cenedlaethol hyn, y delyn oedd prif offeryn y Cymry, tra cyfeirir hefyd at fodolaeth y crwth a’r pibau ([[Pibgorn, Pibgod | pibgorn]]).
  
Er mai’r delyn a’r telynor a hawliai’r flaenoriaeth yn y diwylliant Cymreig bryd hynny, cafwyd ar rai adegau gystadlaethau rhwng y [[telynorion]], y [[crythorion]] a’r chwaraewyr pibau fel ag a ddigwyddodd mewn [[gŵyl]] a drefnwyd gan yr Arglwydd Rhys yng Nghastell Aberteifi yn 1176. Ond ceir cydnabyddiaeth amlwg hefyd i allu a medr telynorion Cymreig y cyfnod yn rhai o storïau Ewropeaidd yr Oesoedd Canol.
+
Er mai’r delyn a’r telynor a hawliai’r flaenoriaeth yn y diwylliant Cymreig bryd hynny, cafwyd ar rai adegau gystadlaethau rhwng y [[Telyn | telynorion]], y [[Crythorion | crythorion]] a’r chwaraewyr pibau fel ag a ddigwyddodd mewn [[Gwyliau Cerddoriaeth | gŵyl]] a drefnwyd gan yr Arglwydd Rhys yng Nghastell Aberteifi yn 1176. Ond ceir cydnabyddiaeth amlwg hefyd i allu a medr telynorion Cymreig y cyfnod yn rhai o storïau Ewropeaidd yr Oesoedd Canol.
  
Wrth drafod hanes Trystan ac Esyllt gan Gottfried von Strassburg ''(fl''.1210), dywed [[Sally Harper]] fod yr arwr wedi ei swyno gan gerdd Lydewig a genid gan un ‘a oedd yn feistr ar ei gelfyddyd, y gorau yn y byd, a hwnnw’n Gymro’ ac mai ‘gan ddau delynor o Gymru’ y dysgodd Trystan yntau sut i ganu’r offeryn (Strassburg 1960; Harper 2007). Mewn cerdd a gopïwyd yn Llyfr Taliesin yn y 14g., ymddengys y dyfyniad ‘Wyf bard ac wyf telynawr. / Wyf pibyd ac wyf crythawr / I seith ugein cerdawr’.
+
Wrth drafod hanes Trystan ac Esyllt gan Gottfried von Strassburg ''(fl''.1210), dywed [[Harper, Sally (g.1962) | Sally Harper]] fod yr arwr wedi ei swyno gan gerdd Lydewig a genid gan un ‘a oedd yn feistr ar ei gelfyddyd, y gorau yn y byd, a hwnnw’n Gymro’ ac mai ‘gan ddau delynor o Gymru’ y dysgodd Trystan yntau sut i ganu’r offeryn (Strassburg 1960; Harper 2007). Mewn cerdd a gopïwyd yn Llyfr Taliesin yn y 14g., ymddengys y dyfyniad ‘Wyf bard ac wyf telynawr. / Wyf pibyd ac wyf crythawr / I seith ugein cerdawr’.
  
 
Wedi 1282 diflannodd llysoedd y tywysogion Cymreig ond daeth nawdd a chefnogaeth yr uchelwyr bonheddig (tirfeddianwyr dylanwadol oeddynt yn bennaf) i lenwi’r bwlch a chefnogi cerddoriaeth a barddoniaeth y beirdd. Ymysg y 24 crefft neu gamp yr oedd disgwyl i uchelwr eu meistroli yr oedd canu i gyfeiliant offeryn a chanu’r delyn. Ar yr adeg hon hefyd daeth yr hen drefn farddol dan fygythiad y rhai na chawsant raddau barddol nac ychwaith yr un brentisiaeth drwyadl â’u rhagflaenwyr.
 
Wedi 1282 diflannodd llysoedd y tywysogion Cymreig ond daeth nawdd a chefnogaeth yr uchelwyr bonheddig (tirfeddianwyr dylanwadol oeddynt yn bennaf) i lenwi’r bwlch a chefnogi cerddoriaeth a barddoniaeth y beirdd. Ymysg y 24 crefft neu gamp yr oedd disgwyl i uchelwr eu meistroli yr oedd canu i gyfeiliant offeryn a chanu’r delyn. Ar yr adeg hon hefyd daeth yr hen drefn farddol dan fygythiad y rhai na chawsant raddau barddol nac ychwaith yr un brentisiaeth drwyadl â’u rhagflaenwyr.
Llinell 30: Llinell 30:
 
Daeth dylanwad Eingl-Normanaidd yn fwy amlwg yng Nghymru; mudai cerddorion dawnus (offerynwyr yn bennaf, gan gynnwys telynorion, crythorion a thrwmpedwyr) i weithio yn y llysoedd yn Lloegr (Bullock-Davies 1978) a diflannodd cerddorion answyddogol ac anghymwys i afradu eu crefft y tu hwnt i’r ffin lle na wyddai’r gynulleidfa ddim am gerddoriaeth Gymreig. Er hynny, cyfeirir at y cyfnod rhwng diwedd y 13g. a’r Deddfau Uno (1536 ac 1542-3) fel ‘Oes Aur’ yn hanes llenyddiaeth Gymraeg. Llafarganwyd y cerddi i gyfeiliant cerddorol (y delyn, mae’n bur debyg) a thyfodd y datgeinydd yn gyfrwng moliant a diddanwch yng nghartrefi bonedd y genedl.
 
Daeth dylanwad Eingl-Normanaidd yn fwy amlwg yng Nghymru; mudai cerddorion dawnus (offerynwyr yn bennaf, gan gynnwys telynorion, crythorion a thrwmpedwyr) i weithio yn y llysoedd yn Lloegr (Bullock-Davies 1978) a diflannodd cerddorion answyddogol ac anghymwys i afradu eu crefft y tu hwnt i’r ffin lle na wyddai’r gynulleidfa ddim am gerddoriaeth Gymreig. Er hynny, cyfeirir at y cyfnod rhwng diwedd y 13g. a’r Deddfau Uno (1536 ac 1542-3) fel ‘Oes Aur’ yn hanes llenyddiaeth Gymraeg. Llafarganwyd y cerddi i gyfeiliant cerddorol (y delyn, mae’n bur debyg) a thyfodd y datgeinydd yn gyfrwng moliant a diddanwch yng nghartrefi bonedd y genedl.
  
Er mai canu caeth oedd arbenigedd pennaf y bardd
+
Er mai canu caeth oedd arbenigedd pennaf y bardd Dafydd ap Gwilym ''(fl''. 1340–1370), ymddengys iddo dderbyn hyfforddiant cerddorol, efallai mewn ''scola cantorum'' yn Abaty Ystrad Fflur ([[Kinney, Phyllis (g.1922) | Kinney]] 2011). Amlygir ei ddealltwriaeth drylwyr o’r maes ynghyd â’i ddefnydd o dermau cerddorol a’i gyfeiriadau at y delyn mewn rhai o’i gerddi gan gynnwys ‘Y Bardd a’r Brawd Llwyd’ a ‘Telynores Twyll’. Yn yr un modd, ceir cyfeiriadau manwl yng ngwaith beirdd eraill o’r cyfnod at nodweddion y crwth, er enghraifft yng nghywydd Gruffydd ap Dafydd ab Hywel ''(fl''.1480-1520):
Dafydd ap Gwilym ''(fl''. 1340–1370), ymddengys iddo dderbyn hyfforddiant cerddorol, efallai mewn ''scola cantorum'' yn Abaty Ystrad Fflur ([[Kinney]] 2011). Amlygir ei ddealltwriaeth drylwyr o’r maes ynghyd â’i ddefnydd o dermau cerddorol a’i gyfeiriadau at y delyn mewn rhai o’i gerddi gan gynnwys ‘Y Bardd a’r Brawd Llwyd’ a ‘Telynores Twyll’. Yn yr un modd, ceir cyfeiriadau manwl yng ngwaith beirdd eraill o’r cyfnod at nodweddion y crwth, er enghraifft yng nghywydd Gruffydd ap Dafydd ab Hywel ''(fl''.1480-1520):
 
  
 
:Chwe sbigod, o codwn
 
:Chwe sbigod, o codwn
Llinell 40: Llinell 39:
 
:A daudant i’r fawd ydoedd.
 
:A daudant i’r fawd ydoedd.
  
O bryd i’w gilydd, cynhaliwyd eisteddfod (neu ymryson cerdd dafod a thant) er mwyn gosod trefn ar yr arferion hyn, dyfarnu graddau i’r beirdd a’r cerddorion a chydnabod eu gallu proffesiynol yn y maes. Trwy orchymyn brenhinol Elizabeth I cynhaliwyd [[Eisteddfod]] Caerwys yn 1523 ac yn 1567 yn bennaf er mwyn cydnabod medr a gallu’r telynorion, y crythorion a’r beirdd, ond hefyd er mwyn diarddel y tinceriaid a’r cardotwyr na haeddent unrhyw gydnabyddiaeth gerddorol na’r hawl i ennill bywoliaeth yn y maes (Thomas 1968).
+
O bryd i’w gilydd, cynhaliwyd eisteddfod (neu ymryson cerdd dafod a thant) er mwyn gosod trefn ar yr arferion hyn, dyfarnu graddau i’r beirdd a’r cerddorion a chydnabod eu gallu proffesiynol yn y maes. Trwy orchymyn brenhinol Elizabeth I cynhaliwyd [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Caerwys yn 1523 ac yn 1567 yn bennaf er mwyn cydnabod medr a gallu’r telynorion, y crythorion a’r beirdd, ond hefyd er mwyn diarddel y tinceriaid a’r cardotwyr na haeddent unrhyw gydnabyddiaeth gerddorol na’r hawl i ennill bywoliaeth yn y maes (Thomas 1968).
  
Er bod cyfeiriadau niferus at ffynonellau cerdd y cyfnod hwn, nid yw’r mwyafrif ohonynt wedi goroesi. Mae [[llawysgrif]] Robert ap Huw yn eithriad ac yn enghraifft o’r llawlyfr telyn cynharaf sydd ar gael yn y traddodiad Cymreig. Defnyddiwyd saith llythyren gyntaf yr wyddor Saesneg (‘a’ i ‘g’) i gynrychioli tannau’r delyn a cheir yn ogystal gyfarwyddiadau ynghylch dulliau cyweirio (neu ‘diwnio’) telyn ac eglurhad am addurniadau gwahanol a oedd yn nodweddu perfformiadau’r cyfnod. Y llawysgrif hon hefyd yw un o ffynonellau cynharaf cerddoriaeth telyn y cyfnod ac o ganlyniad, talwyd cryn sylw iddi gan arbenigwyr Ewropeaidd. Adlewyrchir y berthynas agos rhwng cerddoriaeth a barddoniaeth yr oes yn y modd y cyfeirir at ddarnau yn y llawysgrif trwy gyfrwng teitlau fel ‘Profiad’, ‘Gosteg’, ‘Caniad’ ac ‘Erddigan’.
+
Er bod cyfeiriadau niferus at ffynonellau cerdd y cyfnod hwn, nid yw’r mwyafrif ohonynt wedi goroesi. Mae llawysgrif Robert ap Huw yn eithriad ac yn enghraifft o’r llawlyfr telyn cynharaf sydd ar gael yn y traddodiad Cymreig. Defnyddiwyd saith llythyren gyntaf yr wyddor Saesneg (‘a’ i ‘g’) i gynrychioli tannau’r delyn a cheir yn ogystal gyfarwyddiadau ynghylch dulliau cyweirio (neu ‘diwnio’) telyn ac eglurhad am addurniadau gwahanol a oedd yn nodweddu perfformiadau’r cyfnod. Y llawysgrif hon hefyd yw un o ffynonellau cynharaf cerddoriaeth telyn y cyfnod ac o ganlyniad, talwyd cryn sylw iddi gan arbenigwyr Ewropeaidd. Adlewyrchir y berthynas agos rhwng cerddoriaeth a barddoniaeth yr oes yn y modd y cyfeirir at ddarnau yn y llawysgrif trwy gyfrwng teitlau fel ‘Profiad’, ‘Gosteg’, ‘Caniad’ ac ‘Erddigan’.
  
Parhaodd swyddogaeth ganolog y delyn yn nhraddodiad lleisiol (cerdd dant) yr 17g. a’r 18g. yn ogystal ag fel offeryn unawdol. Fodd bynnag, wrth i gerddoriaeth Ewropeaidd ddatblygu ac wrth i delynorion o Gymru fentro i Loegr i ennill eu bywoliaeth, mabwysiadwyd y [[delyn deires]] (a darddai o ddinas Bologna yn yr Eidal). Rhoddodd hyn fod i wneuthurwyr telynau o’r fath (e.e. John Richards, Llanrwst, a Bassett Jones, Caerdydd), telynorion proffesiynol (e.e. [[John Parry]], Parry Ddall) a chasgliadau cyhoeddedig megis ''Antient British Music'' (1742) a ''Musical & Poetical Relicks of the Welsh Bards'' (1784) a adlewyrchai chwaeth a natur ddatblygedig y maes yng Nghymru’r cyfnod.
+
Parhaodd swyddogaeth ganolog y delyn yn nhraddodiad lleisiol (cerdd dant) yr 17g. a’r 18g. yn ogystal ag fel offeryn unawdol. Fodd bynnag, wrth i gerddoriaeth Ewropeaidd ddatblygu ac wrth i delynorion o Gymru fentro i Loegr i ennill eu bywoliaeth, mabwysiadwyd y [[Telyn Deires | delyn deires]] (a darddai o ddinas Bologna yn yr Eidal). Rhoddodd hyn fod i wneuthurwyr telynau o’r fath (e.e. John Richards, Llanrwst, a Bassett Jones, Caerdydd), telynorion proffesiynol (e.e. [[Parry, John (Parry Ddall; c.1710-82) | John Parry]], Parry Ddall) a chasgliadau cyhoeddedig megis ''Antient British Music'' (1742) a ''Musical & Poetical Relicks of the Welsh Bards'' (1784) a adlewyrchai chwaeth a natur ddatblygedig y maes yng Nghymru’r cyfnod.
  
 
Er bod cyfeiriadau at y pibgorn yn ymddangos yng Nghyfreithiau Hywel Dda ac yn Llawysgrif Peniarth 20 ''(Brut y Tywysogion)'', yn y 18g. y croniclwyd hanes yr offeryn gan rai fel William Morris (1759), sy’n cyfeirio at weision fferm ym Môn yn defnyddio eu pibgyrn i ddwyn y gwartheg a’r defaid ynghyd ac yn chwarae’r alawon ‘Meillionnen’ a ‘Mwynen Mai’ i’w diddanu. Wrth drafod yr offeryn yn y cylchgrawn ''Archaeologia'' (1786), dywed Daines Barrington fod cystadleuaeth flynyddol yn cael ei chynnal ar gyfer chwaraewyr pibgorn ym Môn a bod 200 ohonynt wedi dod ynghyd mewn digwyddiad o’r fath ar Fferm Castellior, ger Pentraeth, sy’n arwydd o apêl yr offeryn erbyn diwedd y ganrif.
 
Er bod cyfeiriadau at y pibgorn yn ymddangos yng Nghyfreithiau Hywel Dda ac yn Llawysgrif Peniarth 20 ''(Brut y Tywysogion)'', yn y 18g. y croniclwyd hanes yr offeryn gan rai fel William Morris (1759), sy’n cyfeirio at weision fferm ym Môn yn defnyddio eu pibgyrn i ddwyn y gwartheg a’r defaid ynghyd ac yn chwarae’r alawon ‘Meillionnen’ a ‘Mwynen Mai’ i’w diddanu. Wrth drafod yr offeryn yn y cylchgrawn ''Archaeologia'' (1786), dywed Daines Barrington fod cystadleuaeth flynyddol yn cael ei chynnal ar gyfer chwaraewyr pibgorn ym Môn a bod 200 ohonynt wedi dod ynghyd mewn digwyddiad o’r fath ar Fferm Castellior, ger Pentraeth, sy’n arwydd o apêl yr offeryn erbyn diwedd y ganrif.
Llinell 50: Llinell 49:
 
Wrth i boblogrwydd y crwth edwino, croesawyd y feiolin glasurol gan gerddorion y traddodiad Cymreig. Dwy ffynhonnell werthfawr sy’n dyddio o’r 18g. yw’r casgliad llawysgrifol (1752) o waith y ffidlwr John Thomas (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llsgr. J. Lloyd Williams AH1/36) a llawysgrif Morris Edwards o Ynys Môn (llsgr. Bangor 2294, dyddiedig 1778), sy’n adlewyrchu chwaeth gerddorol y dydd a’r alawon a oedd yn gyffredin – rhai tebyg i ‘Lili ym mûsg y Drain’, ‘Dime gôch’, ‘Fflanti Too’, ‘Dadl dau’ ac ‘Ar hyd y nos’. Mabwysiadwyd y rhain yn y man gan delynorion a chasglyddion cerddoriaeth y delyn yng Nghymru trwy gyfoethogi’r gwead ac ychwanegu geiriau at rai ohonynt cyn eu cyhoeddi yng nghyfrolau’r 18g.
 
Wrth i boblogrwydd y crwth edwino, croesawyd y feiolin glasurol gan gerddorion y traddodiad Cymreig. Dwy ffynhonnell werthfawr sy’n dyddio o’r 18g. yw’r casgliad llawysgrifol (1752) o waith y ffidlwr John Thomas (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llsgr. J. Lloyd Williams AH1/36) a llawysgrif Morris Edwards o Ynys Môn (llsgr. Bangor 2294, dyddiedig 1778), sy’n adlewyrchu chwaeth gerddorol y dydd a’r alawon a oedd yn gyffredin – rhai tebyg i ‘Lili ym mûsg y Drain’, ‘Dime gôch’, ‘Fflanti Too’, ‘Dadl dau’ ac ‘Ar hyd y nos’. Mabwysiadwyd y rhain yn y man gan delynorion a chasglyddion cerddoriaeth y delyn yng Nghymru trwy gyfoethogi’r gwead ac ychwanegu geiriau at rai ohonynt cyn eu cyhoeddi yng nghyfrolau’r 18g.
  
Ochr yn ochr â hyn, tyfodd poblogrwydd y delyn yn y 18g. trwy gyfrwng yr eisteddfod a defnyddiwyd yr offeryn fel cyfrwng cyfeiliant i ganu yn bennaf. Er bod cyfeiliannau ar gyfer y delyn a’r piano yn ymddangos yng nghasgliad cyhoeddedig [[Maria Jane Williams]] o ganeuon gwerin, ''Ancient National Airs of Gwent and Morganwg'' (Llanymddyfri, 1844), digon diddychymyg a digyfeiriad yw safon a chynnwys y cynnyrch offerynnol hwnnw.
+
Ochr yn ochr â hyn, tyfodd poblogrwydd y delyn yn y 18g. trwy gyfrwng yr eisteddfod a defnyddiwyd yr offeryn fel cyfrwng cyfeiliant i ganu yn bennaf. Er bod cyfeiliannau ar gyfer y delyn a’r piano yn ymddangos yng nghasgliad cyhoeddedig [[Williams, Maria Jane (1795-1873) | Maria Jane Williams]] o ganeuon gwerin, ''Ancient National Airs of Gwent and Morganwg'' (Llanymddyfri, 1844), digon diddychymyg a digyfeiriad yw safon a chynnwys y cynnyrch offerynnol hwnnw.
  
Roedd diffyg [[addysg]] a hyfforddiant gerddorol ffurfiol yng Nghymru yn rhwystr i ddatblygiadau cerdd o sylwedd ond eto i gyd, ymddangosodd nifer o unawdau a chasgliadau o waith y telynor [[John Thomas]] (Pencerdd Gwalia), er enghraifft ''Welsh Melodies'' (1862) sy’n cyflwyno ceinciau Cymreig mewn arddull a diwyg Ewropeaidd-glasurol ei naws. Yn dilyn ei deithiau tramor i Ffrainc, Awstria, Tsiecoslofacia a’r Eidal (lle cyfarfu â rhai o brif gyfansoddwyr y dydd), lledodd yr ymwybyddiaeth o draddodiadau cerddorol y Cymry ynghyd â’i enw fel telynor mwyaf dawnus ei genhedlaeth.
+
Roedd diffyg [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | addysg]] a hyfforddiant gerddorol ffurfiol yng Nghymru yn rhwystr i ddatblygiadau cerdd o sylwedd ond eto i gyd, ymddangosodd nifer o unawdau a chasgliadau o waith y telynor [[Thomas, John (Pencerdd Gwalia; 1826-1913) | John Thomas]] (Pencerdd Gwalia), er enghraifft ''Welsh Melodies'' (1862) sy’n cyflwyno ceinciau Cymreig mewn arddull a diwyg Ewropeaidd-glasurol ei naws. Yn dilyn ei deithiau tramor i Ffrainc, Awstria, Tsiecoslofacia a’r Eidal (lle cyfarfu â rhai o brif gyfansoddwyr y dydd), lledodd yr ymwybyddiaeth o draddodiadau cerddorol y Cymry ynghyd â’i enw fel telynor mwyaf dawnus ei genhedlaeth.
  
Bu’r cynnydd syfrdanol ym mhoblogaeth de a gogledd-ddwyrain Cymru yn ystod y 19g. yn fodd i ymestyn y galw am gerddoriaeth o bob math, gan gynnwys cyngherddau, eisteddfodau, addysg a hyfforddiant cerddorol, cerddoriaeth gyhoeddedig ac ensemblau. Yn ystod teyrnasiad Victoria y sefydlwyd y [[bandiau pres]] cyntaf a gysylltwyd â’r gweithfeydd haearn a dur, glo a llechi, a thyfodd poblogrwydd yr harmoniwm yng nghyd-destun addoliad, ynghyd â’r organ bib fel modd i gyfeilio i ganiadaeth y cysegr, cymanfaoedd canu a pherfformiadau’r cymdeithasau [[corawl]] o weithiau fel ''Messiah'' (Handel) ac ''Elijah'' (Mendelssohn) a ddaeth mor gyffredin yn y cyfnod.
+
Bu’r cynnydd syfrdanol ym mhoblogaeth de a gogledd-ddwyrain Cymru yn ystod y 19g. yn fodd i ymestyn y galw am gerddoriaeth o bob math, gan gynnwys cyngherddau, eisteddfodau, addysg a hyfforddiant cerddorol, cerddoriaeth gyhoeddedig ac ensemblau. Yn ystod teyrnasiad Victoria y sefydlwyd y [[Bandiau Pres | bandiau pres]] cyntaf a gysylltwyd â’r gweithfeydd haearn a dur, glo a llechi, a thyfodd poblogrwydd yr harmoniwm yng nghyd-destun addoliad, ynghyd â’r organ bib fel modd i gyfeilio i ganiadaeth y cysegr, cymanfaoedd canu a pherfformiadau’r cymdeithasau [[Corau Cymysg | corawl]] o weithiau fel ''Messiah'' (Handel) ac ''Elijah'' (Mendelssohn) a ddaeth mor gyffredin yn y cyfnod.
  
Mentrodd rhai cymunedau i gynnal perfformiadau o [[oratorios]] a [[chantatas]] y dydd i gyfeiliant bandiau pres (e.e. Band Cyfarthfa, Merthyr) ac yn raddol daeth ymweliadau gan gerddorfeydd clasurol o’r tu hwnt i’r ffin (o Lerpwl a Manceinion, Bryste a Chaerfaddon) yn fwy cyffredin yng ngogledd a deheudir Cymru. Erbyn canol y ganrif bu datblygu’r delyn bedal (arwaith sengl a dwbl) gan aelodau o deulu Erard yn Llundain yn fodd i gyflwyno offeryn mwy hyblyg a dibynadwy i’r traddodiad offerynnol yng Nghymru. Ni ddisodlwyd y delyn fach ‘farddol’ na’r delyn deires gromatig, ond bu dyfodiad y delyn bedal yn rheswm digonol i rai o delynorion proffesiynol y genedl newid eu techneg a’u ''repertoire'' yn gyfan gwbl. Y delyn bedal a cherddoriaeth fwy Ewropeaidd a chlasurol ei naws a aeth â bryd y mwyafrif o gerddorion mewn gwirionedd, er i rai barhau’n ffyddlon i’r delyn deires (e.e. [[John Roberts]], Telynor Cymru).
+
Mentrodd rhai cymunedau i gynnal perfformiadau o [[Oratorio, Yr | oratorios]] a [[Cantata | chantatas]] y dydd i gyfeiliant bandiau pres (e.e. Band Cyfarthfa, Merthyr) ac yn raddol daeth ymweliadau gan gerddorfeydd clasurol o’r tu hwnt i’r ffin (o Lerpwl a Manceinion, Bryste a Chaerfaddon) yn fwy cyffredin yng ngogledd a deheudir Cymru. Erbyn canol y ganrif bu datblygu’r delyn bedal (arwaith sengl a dwbl) gan aelodau o deulu Erard yn Llundain yn fodd i gyflwyno offeryn mwy hyblyg a dibynadwy i’r traddodiad offerynnol yng Nghymru. Ni ddisodlwyd y delyn fach ‘farddol’ na’r delyn deires gromatig, ond bu dyfodiad y delyn bedal yn rheswm digonol i rai o delynorion proffesiynol y genedl newid eu techneg a’u ''repertoire'' yn gyfan gwbl. Y delyn bedal a cherddoriaeth fwy Ewropeaidd a chlasurol ei naws a aeth â bryd y mwyafrif o gerddorion mewn gwirionedd, er i rai barhau’n ffyddlon i’r delyn deires (e.e. [[Roberts, John (Alaw Elwy, Telynor Cymru; 1816-94) | John Roberts]], Telynor Cymru).
  
Ar droad yr 20g. bu’r datblygiadau graddol ym myd addysg gerddorol yng Nghymru yn fodd i godi safonau perfformio offerynnol ac i ehangu’r diddordeb mewn offerynnau cerdd ar wahân i’r delyn. Yn dilyn sefydlu adrannau cerdd [[Prifysgol]] Cymru yn Aberystwyth, Caerdydd a Bangor, ffurfiwyd triawdau piano (feiolin, soddgrwth a phiano) a phedwarawdau llinynnol (dwy feiolin, fiola a soddgrwth) a fu’n perfformio’n gyson yn y cymdogaethau hynny ond y cyflawnodd eu haelodau waith fel athrawon offerynnol teithiol yn ogystal.
+
Ar droad yr 20g. bu’r datblygiadau graddol ym myd addysg gerddorol yng Nghymru yn fodd i godi safonau perfformio offerynnol ac i ehangu’r diddordeb mewn offerynnau cerdd ar wahân i’r delyn. Yn dilyn sefydlu adrannau cerdd [[Prifysgolion a Cherddoriaeth yng Nghymru | Prifysgol]] Cymru yn Aberystwyth, Caerdydd a Bangor, ffurfiwyd triawdau piano (feiolin, soddgrwth a phiano) a phedwarawdau llinynnol (dwy feiolin, fiola a soddgrwth) a fu’n perfformio’n gyson yn y cymdogaethau hynny ond y cyflawnodd eu haelodau waith fel athrawon offerynnol teithiol yn ogystal.
  
[[Henry Walford Davies]] (1869-1941) a’r Cyngor Cerdd Cenedlaethol fu’r dylanwad pennaf ar y maes ac a fu’n gyfrwng i ledaenu’r diddordeb mewn offerynnau cerdd (offerynnau cerddorfaol yn bennaf). Pwysleisiwyd pwysigrwydd cerddoriaeth ym maes llafur ysgolion cynradd ac uwchradd ac yn y man penodwyd ymgynghorydd cerdd cenedlaethol yn ogystal ag arolygwyr cerdd sirol i oruchwylio’r datblygiadau arwyddocaol hyn (Allsobrook, 1992).
+
[[Davies, Henry Walford (1869-1941) | Henry Walford Davies]] (1869-1941) a’r Cyngor Cerdd Cenedlaethol fu’r dylanwad pennaf ar y maes ac a fu’n gyfrwng i ledaenu’r diddordeb mewn offerynnau cerdd (offerynnau cerddorfaol yn bennaf). Pwysleisiwyd pwysigrwydd cerddoriaeth ym maes llafur ysgolion cynradd ac uwchradd ac yn y man penodwyd ymgynghorydd cerdd cenedlaethol yn ogystal ag arolygwyr cerdd sirol i oruchwylio’r datblygiadau arwyddocaol hyn (Allsobrook, 1992).
  
Yn eu sgil, sefydlwyd y ddarpariaeth offerynnol beripatetig gyntaf o’i bath ym Mhrydain a fu’n ysbrydoliaeth i’r gwaith o sefydlu Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru (y gerddorfa ieuenctid gyntaf yn y byd) yn 1946-7. Roedd bodolaeth ‘The National Orchestra of Wales’ (1928-31) (gw. [[Cerddorfeydd, Corau, Cerddorfeydd Ieuenctid ac Ensemblau]]) a cherddorfeydd y BBC yng Nghymru (o 1933 hyd at y presennol) yn gyfrwng i ysbrydoli’r genhedlaeth ifanc a’u hargyhoeddi o werth a phwysigrwydd [[cerddoriaeth offerynnol]] hefyd.
+
Yn eu sgil, sefydlwyd y ddarpariaeth offerynnol beripatetig gyntaf o’i bath ym Mhrydain a fu’n ysbrydoliaeth i’r gwaith o sefydlu Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru (y gerddorfa ieuenctid gyntaf yn y byd) yn 1946-7. Roedd bodolaeth ‘The National Orchestra of Wales’ (1928-31) (gw. [[Cerddorfeydd, Corau, Cerddorfeydd Ieuenctid ac Ensemblau]]) a cherddorfeydd y BBC yng Nghymru (o 1933 hyd at y presennol) yn gyfrwng i ysbrydoli’r genhedlaeth ifanc a’u hargyhoeddi o werth a phwysigrwydd [[Ffurfiau Offerynnol | cerddoriaeth offerynnol]] hefyd.
  
Yn yr un modd, bu’r cynnydd sylweddol yn nifer y sefydliadau cerdd Cymreig (e.e. Cyngor Celfyddydau Cymru, Yr Urdd er Hyrwyddo Cerddoriaeth yng Nghymru, Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, Urdd Gobaith Cymru, Coleg Cerdd a Drama Cymru, y BBC yng Nghymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru) yn allweddol i’r adfywiad a oedd ar droed bryd hynny. Trwy gyfrwng cerddorfeydd a bandiau pres yn y mwyafrif o siroedd Cymru o’r 1970au hyd yr 1990au, cafwyd cyfle arbennig i feithrin y doniau offerynnol ifanc a oedd yn ymddangos ar lwyfannau’r genedl. Mentrodd rhai ohonynt i golegau cerdd Llundain a Manceinion i fireinio eu crefft, ond dychwelodd eraill i ddiwallu’r angen am athrawon ac offerynwyr o safon yn ensemblau Caerdydd, Abertawe a’r gogledd.
+
Yn yr un modd, bu’r cynnydd sylweddol yn nifer y sefydliadau cerdd Cymreig (e.e. Cyngor Celfyddydau Cymru, Yr Urdd er Hyrwyddo Cerddoriaeth yng Nghymru, Cwmni [[Opera]] Cenedlaethol Cymru, Urdd Gobaith Cymru, Coleg Cerdd a Drama Cymru, y BBC yng Nghymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru) yn allweddol i’r adfywiad a oedd ar droed bryd hynny. Trwy gyfrwng cerddorfeydd a bandiau pres yn y mwyafrif o siroedd Cymru o’r 1970au hyd yr 1990au, cafwyd cyfle arbennig i feithrin y doniau offerynnol ifanc a oedd yn ymddangos ar lwyfannau’r genedl. Mentrodd rhai ohonynt i golegau cerdd Llundain a Manceinion i fireinio eu crefft, ond dychwelodd eraill i ddiwallu’r angen am athrawon ac offerynwyr o safon yn ensemblau Caerdydd, Abertawe a’r gogledd.
  
Er mai ym maes cerddoriaeth offerynnol glasurol y Gorllewin y profwyd y dadeni amlycaf yn yr 20g., cafwyd hefyd gryn gynnydd a diddordeb ym maes [[cerddoriaeth draddodiadol]] offerynnol wedi’r 1960au. Yn sgil cyfraniad [[Nansi Richards]] (Telynores Maldwyn) i fyd y delyn deires, cododd to newydd o delynorion traddodiadol, yn unawdwyr fel [[Llio Rhydderch]] a [[Robin Huw Bowen]] ac yn offerynwyr mewn grwpiau gwerin (e.e. Dafydd a Gwyndaf Roberts yn [[Ar Log]]).
+
Er mai ym maes cerddoriaeth offerynnol glasurol y Gorllewin y profwyd y dadeni amlycaf yn yr 20g., cafwyd hefyd gryn gynnydd a diddordeb ym maes [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | cerddoriaeth draddodiadol]] offerynnol wedi’r 1960au. Yn sgil cyfraniad [[Richards, Nansi (Telynores Maldwyn; 1888-1979) | Nansi Richards]] (Telynores Maldwyn) i fyd y delyn deires, cododd to newydd o delynorion traddodiadol, yn unawdwyr fel [[Rhydderch, Llio (g.1937) | Llio Rhydderch]] a [[Bowen, Robin Huw (g.1957) | Robin Huw Bowen]] ac yn offerynwyr mewn grwpiau gwerin (e.e. Dafydd a Gwyndaf Roberts yn [[Ar Log]]).
  
Bu’r galw am offerynnau traddodiadol yn ysgogiad i nifer o wneuthurwyr [[telynau teires]] (e.e. John Weston Thomas, Cas-blaidd, Sir Benfro) a gwneuthurwyr crythau (e.e. Robert Evans, Caerdydd) a phibgyrn (e.e. Jonathan Shorland) fynd ati, crefftwyr a oedd yn ymddiddori yn hanes a datblygiad yr offerynnau brodorol hyn yn ogystal â’r grefft o’u hatgynhyrchu a’u canu. Yn dilyn sefydlu Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru (Clera yn ddiweddarach) a ''trac'' a thrwy gyfrwng gweithdai, penwythnosau hyfforddi a’r [[Glerorfa]] (cerddorfa o offerynwyr traddodiadol), gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer yr offerynwyr a ymddiddorai yn y ceinciau a’r [[alawon gwerin]].
+
Bu’r galw am offerynnau traddodiadol yn ysgogiad i nifer o wneuthurwyr telynau teires (e.e. John Weston Thomas, Cas-blaidd, Sir Benfro) a gwneuthurwyr crythau (e.e. Robert Evans, Caerdydd) a phibgyrn (e.e. Jonathan Shorland) fynd ati, crefftwyr a oedd yn ymddiddori yn hanes a datblygiad yr offerynnau brodorol hyn yn ogystal â’r grefft o’u hatgynhyrchu a’u canu. Yn dilyn sefydlu Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru (Clera yn ddiweddarach) a ''trac'' a thrwy gyfrwng gweithdai, penwythnosau hyfforddi a’r [[Glerorfa, Y | Glerorfa]] (cerddorfa o offerynwyr traddodiadol), gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer yr offerynwyr a ymddiddorai yn y ceinciau a’r [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | alawon gwerin]].
  
Er bod dylanwad traddodiadau cerddorol Iwerddon yn amlwg yn yr 1990au a’r defnydd o’r mandolin, y gitâr, y ''bodhran'', y ''bouzouki'' a’r chwisl dun yn lled gyffredin yng Nghymru, gwelir bod yr awydd i adfywhau offerynnau Cymreig y gorffennol - y [[ffidil]], y delyn, y crwth a’r pibau - yn hawlio cryn sylw ymhlith cerddorion traddodiadol. Bu’r cynnydd yn nifer y clybiau gwerin, [[gwyliau]] gwerin (e.e. Gŵyl Werin Dolgellau) a sesiynau cyd-chwarae ledled Cymru, yn ogystal â pharodrwydd y cwmnïau darlledu (BBC Cymru ac S4C) a recordio (Recordiau Sain a Fflach Traddodiadol) i gyflwyno arlwy gerddorol eang yn gymorth i gefnogi’r maes ar drothwy’r 21g.
+
Er bod dylanwad traddodiadau cerddorol Iwerddon yn amlwg yn yr 1990au a’r defnydd o’r mandolin, y gitâr, y ''bodhran'', y ''bouzouki'' a’r chwisl dun yn lled gyffredin yng Nghymru, gwelir bod yr awydd i adfywhau offerynnau Cymreig y gorffennol - y [[ffidil]], y delyn, y crwth a’r pibau - yn hawlio cryn sylw ymhlith cerddorion traddodiadol. Bu’r cynnydd yn nifer y clybiau gwerin, gwyliau gwerin (e.e. Gŵyl Werin Dolgellau) a sesiynau cyd-chwarae ledled Cymru, yn ogystal â pharodrwydd y cwmnïau darlledu (BBC Cymru ac S4C) a recordio (Recordiau Sain a Fflach Traddodiadol) i gyflwyno arlwy gerddorol eang yn gymorth i gefnogi’r maes ar drothwy’r 21g.
  
 
'''Wyn Thomas'''
 
'''Wyn Thomas'''
Llinell 80: Llinell 79:
 
*Gottfried von Strassburg, ''Tristan: With the Surviving Fragments of the ‘Tristran of Thomas’'' (Llundain, 1960)
 
*Gottfried von Strassburg, ''Tristan: With the Surviving Fragments of the ‘Tristran of Thomas’'' (Llundain, 1960)
 
   
 
   
*Thurston Dart, ‘The Robert ap Huw Manuscript of Welsh
+
*Thurston Dart, ‘The Robert ap Huw Manuscript of Welsh Harp music (ca. 1613)’, ''The Galpin Society Journal'', 21 (Mawrth, 1968), 52–65
Harp music (ca. 1613)’, ''The Galpin Society Journal'', 21 (Mawrth, 1968), 52–65
 
  
 
*Constance  Bullock-Davies, ''Menstrellorum Multitudo'' (Caerdydd, 1978)
 
*Constance  Bullock-Davies, ''Menstrellorum Multitudo'' (Caerdydd, 1978)

Y diwygiad cyfredol, am 20:49, 28 Mai 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Yn y 6g. dechreuodd hanes Cymru fel tiriogaeth, gyda’i hiaith a’i diwylliant annibynnol o holl Geltiaid eraill gorllewin Ewrop. Yn ystod y cyfnod o fil o flynyddoedd a ddilynodd hynny, datblygodd cerddoriaeth yn bennaf trwy gyfrwng y traddodiad llafar. Mae’r casgliad ysgrifenedig cyntaf o gerddoriaeth offerynnol Cymru, sef casgliad y bardd a’r telynor Robert ap Huw (c.1580–1665) o Landdeusant, Ynys Môn, yn dyddio o 1613 ac mae’n cynrychioli’r ymgais gyntaf i groniclo agweddau cerddorol ar y traddodiad barddol cyn iddo ddiflannu’n gyfan gwbl.

Tystiolaeth hanesyddol a llenyddol sy’n profi bodolaeth cerddoriaeth a’r traddodiad offerynnol yng Nghymru yn y canrifoedd cynnar. Ceir cyfeiriadau ym mhregethau’r abad Gildas, De Excidio et Conquestu Britanniae, yn y 6g. at swyddogaeth y bardd teulu yn canmol ei noddwr i gyfeiliant telyn neu lyra, a hynny mewn dull tra gwahanol i arddull cerddoriaeth gysegredig yr eglwys bryd hynny. Yn yr un modd, cyfeiria’r Archesgob o Poitiers, Venantius Fortunatus (c.540–c.600), at ddefnydd y Brytaniaid o’r crwth:

Romanusque lyra, plaudat tibi barbarus harpa,
Graecus Achilliaca, crotta Britanna canat

Dwyn cymhariaeth y mae Fortunatus yn y dyfyniad hwn rhwng yr offerynnau tebyg eu sain a’u dull perfformio a oedd yn gyffredin ledled Ewrop yr adeg honno. Er nad oes cerddoriaeth ysgrifenedig nac enghreifftiau o offerynnau’r cyfnod wedi goroesi yng Nghymru, gwyddys fod y beirdd yn derbyn hyfforddiant trylwyr am gyfnod o oddeutu deuddeng mlynedd, yn ennill graddau barddol, yn arbenigo naill ai mewn cerdd dafod (sef barddoniaeth) neu gerdd dant (sef cerddoriaeth) cyn iddynt gael yr hawl i gyflwyno’u cerddi yn gyhoeddus a hynny i gyfeiliant y delyn neu’r tympan (tympanum). Fel y dengys Thurston Dart, telyn fach, telyn ‘farddol’ neu delyn pen-glin gydag oddeutu 25 o dannau oedd yr offeryn mwyaf cyffredin ymhlith y beirdd yn y cyfnod cynnar hwn (Dart 1968). Dadleua rhai mai tannau o goludd (gut) neu o rawn (blew ceffyl) a oedd yn gyffredin, tra mae ymchwilwyr eraill (Greenhill 1995) o’r farn y byddai offerynwyr proffesiynol o Gymru yn fwy tebygol o efelychu’r traddodiad Gwyddelig a defnyddio tannau o fetel er mwyn cyfoethogi naws y sain.

Er bod crefft y beirdd yn cynrychioli dwy wedd bwysig ar ddiwylliant y Cymry yr adeg honno, ceir dyfyniad yng Ngramadegau’r Penceirddiaid (sy’n ymddangos yn Llawysgrif Peniarth) sy’n brawf o amrywiaeth y traddodiad offerynnol yn y Gymru gynnar:

Tri ryw brifgerd ysyd, nyt amgen: kerd dant, kerd vegin, a cherd dauawt.
Teir prifgerd tant ysyd, nyt amgen: kerd grwth, kerd delyn, a cherd timpan.
Teir prifgerd megin ysyd, nyt amgen: organ, a phibeu, a cherd y got.
Teir prifgerd tauawt ysyd: prydu, a dachanu, a chanu gan delyn.

Cyn i’r wlad golli ei hannibyniaeth yn 1282, cyhoeddodd y clerigwr Gerallt Gymro (c.1146–c.1223) gronicl o’i daith o amgylch Cymru, Itinerarium Cambriae (1191) a Descriptio Cambriae (1194), sy’n cynnwys cyfeiriadau at y defnydd o gerddoriaeth ac offerynnau cerdd yn y diwylliant Cymreig ac sy’n pwysleisio arwyddocâd arbennig y delyn yn nhraddodiadau’r genedl.

Yn ôl Gerallt, a oedd yn deithiwr profiadol, ystyrid y grefft o ganu’r delyn uwchlaw unrhyw ddawn arall, ceid telyn ym mhob tŷ bonedd a byddai’n arferiad i delynoresau ifanc ddiddanu eu hymwelwyr yn ddyddiol. Gwelir cryn fanylder ynghylch y defnydd o offerynnau cerdd yng Nghymru yn y cyhoeddiad hwn - manylder nas cafwyd cyn hynny. Atega Gerallt yr hyn a geir yn neddfau Hywel Dda (c.880–950) a luniwyd yn y 10g., ond na chofnodwyd hyd nes y 13g. Erbyn cyfnod gweithredu’r deddfau cenedlaethol hyn, y delyn oedd prif offeryn y Cymry, tra cyfeirir hefyd at fodolaeth y crwth a’r pibau ( pibgorn).

Er mai’r delyn a’r telynor a hawliai’r flaenoriaeth yn y diwylliant Cymreig bryd hynny, cafwyd ar rai adegau gystadlaethau rhwng y telynorion, y crythorion a’r chwaraewyr pibau fel ag a ddigwyddodd mewn gŵyl a drefnwyd gan yr Arglwydd Rhys yng Nghastell Aberteifi yn 1176. Ond ceir cydnabyddiaeth amlwg hefyd i allu a medr telynorion Cymreig y cyfnod yn rhai o storïau Ewropeaidd yr Oesoedd Canol.

Wrth drafod hanes Trystan ac Esyllt gan Gottfried von Strassburg (fl.1210), dywed Sally Harper fod yr arwr wedi ei swyno gan gerdd Lydewig a genid gan un ‘a oedd yn feistr ar ei gelfyddyd, y gorau yn y byd, a hwnnw’n Gymro’ ac mai ‘gan ddau delynor o Gymru’ y dysgodd Trystan yntau sut i ganu’r offeryn (Strassburg 1960; Harper 2007). Mewn cerdd a gopïwyd yn Llyfr Taliesin yn y 14g., ymddengys y dyfyniad ‘Wyf bard ac wyf telynawr. / Wyf pibyd ac wyf crythawr / I seith ugein cerdawr’.

Wedi 1282 diflannodd llysoedd y tywysogion Cymreig ond daeth nawdd a chefnogaeth yr uchelwyr bonheddig (tirfeddianwyr dylanwadol oeddynt yn bennaf) i lenwi’r bwlch a chefnogi cerddoriaeth a barddoniaeth y beirdd. Ymysg y 24 crefft neu gamp yr oedd disgwyl i uchelwr eu meistroli yr oedd canu i gyfeiliant offeryn a chanu’r delyn. Ar yr adeg hon hefyd daeth yr hen drefn farddol dan fygythiad y rhai na chawsant raddau barddol nac ychwaith yr un brentisiaeth drwyadl â’u rhagflaenwyr.

Daeth dylanwad Eingl-Normanaidd yn fwy amlwg yng Nghymru; mudai cerddorion dawnus (offerynwyr yn bennaf, gan gynnwys telynorion, crythorion a thrwmpedwyr) i weithio yn y llysoedd yn Lloegr (Bullock-Davies 1978) a diflannodd cerddorion answyddogol ac anghymwys i afradu eu crefft y tu hwnt i’r ffin lle na wyddai’r gynulleidfa ddim am gerddoriaeth Gymreig. Er hynny, cyfeirir at y cyfnod rhwng diwedd y 13g. a’r Deddfau Uno (1536 ac 1542-3) fel ‘Oes Aur’ yn hanes llenyddiaeth Gymraeg. Llafarganwyd y cerddi i gyfeiliant cerddorol (y delyn, mae’n bur debyg) a thyfodd y datgeinydd yn gyfrwng moliant a diddanwch yng nghartrefi bonedd y genedl.

Er mai canu caeth oedd arbenigedd pennaf y bardd Dafydd ap Gwilym (fl. 1340–1370), ymddengys iddo dderbyn hyfforddiant cerddorol, efallai mewn scola cantorum yn Abaty Ystrad Fflur ( Kinney 2011). Amlygir ei ddealltwriaeth drylwyr o’r maes ynghyd â’i ddefnydd o dermau cerddorol a’i gyfeiriadau at y delyn mewn rhai o’i gerddi gan gynnwys ‘Y Bardd a’r Brawd Llwyd’ a ‘Telynores Twyll’. Yn yr un modd, ceir cyfeiriadau manwl yng ngwaith beirdd eraill o’r cyfnod at nodweddion y crwth, er enghraifft yng nghywydd Gruffydd ap Dafydd ab Hywel (fl.1480-1520):

Chwe sbigod, o codwn
A dynna holl dannau hwn;
Chwe thant a gaed o fantais
Ag yn y llaw yn gan llais,
Tant i bob ysbys oedd
A daudant i’r fawd ydoedd.

O bryd i’w gilydd, cynhaliwyd eisteddfod (neu ymryson cerdd dafod a thant) er mwyn gosod trefn ar yr arferion hyn, dyfarnu graddau i’r beirdd a’r cerddorion a chydnabod eu gallu proffesiynol yn y maes. Trwy orchymyn brenhinol Elizabeth I cynhaliwyd Eisteddfod Caerwys yn 1523 ac yn 1567 yn bennaf er mwyn cydnabod medr a gallu’r telynorion, y crythorion a’r beirdd, ond hefyd er mwyn diarddel y tinceriaid a’r cardotwyr na haeddent unrhyw gydnabyddiaeth gerddorol na’r hawl i ennill bywoliaeth yn y maes (Thomas 1968).

Er bod cyfeiriadau niferus at ffynonellau cerdd y cyfnod hwn, nid yw’r mwyafrif ohonynt wedi goroesi. Mae llawysgrif Robert ap Huw yn eithriad ac yn enghraifft o’r llawlyfr telyn cynharaf sydd ar gael yn y traddodiad Cymreig. Defnyddiwyd saith llythyren gyntaf yr wyddor Saesneg (‘a’ i ‘g’) i gynrychioli tannau’r delyn a cheir yn ogystal gyfarwyddiadau ynghylch dulliau cyweirio (neu ‘diwnio’) telyn ac eglurhad am addurniadau gwahanol a oedd yn nodweddu perfformiadau’r cyfnod. Y llawysgrif hon hefyd yw un o ffynonellau cynharaf cerddoriaeth telyn y cyfnod ac o ganlyniad, talwyd cryn sylw iddi gan arbenigwyr Ewropeaidd. Adlewyrchir y berthynas agos rhwng cerddoriaeth a barddoniaeth yr oes yn y modd y cyfeirir at ddarnau yn y llawysgrif trwy gyfrwng teitlau fel ‘Profiad’, ‘Gosteg’, ‘Caniad’ ac ‘Erddigan’.

Parhaodd swyddogaeth ganolog y delyn yn nhraddodiad lleisiol (cerdd dant) yr 17g. a’r 18g. yn ogystal ag fel offeryn unawdol. Fodd bynnag, wrth i gerddoriaeth Ewropeaidd ddatblygu ac wrth i delynorion o Gymru fentro i Loegr i ennill eu bywoliaeth, mabwysiadwyd y delyn deires (a darddai o ddinas Bologna yn yr Eidal). Rhoddodd hyn fod i wneuthurwyr telynau o’r fath (e.e. John Richards, Llanrwst, a Bassett Jones, Caerdydd), telynorion proffesiynol (e.e. John Parry, Parry Ddall) a chasgliadau cyhoeddedig megis Antient British Music (1742) a Musical & Poetical Relicks of the Welsh Bards (1784) a adlewyrchai chwaeth a natur ddatblygedig y maes yng Nghymru’r cyfnod.

Er bod cyfeiriadau at y pibgorn yn ymddangos yng Nghyfreithiau Hywel Dda ac yn Llawysgrif Peniarth 20 (Brut y Tywysogion), yn y 18g. y croniclwyd hanes yr offeryn gan rai fel William Morris (1759), sy’n cyfeirio at weision fferm ym Môn yn defnyddio eu pibgyrn i ddwyn y gwartheg a’r defaid ynghyd ac yn chwarae’r alawon ‘Meillionnen’ a ‘Mwynen Mai’ i’w diddanu. Wrth drafod yr offeryn yn y cylchgrawn Archaeologia (1786), dywed Daines Barrington fod cystadleuaeth flynyddol yn cael ei chynnal ar gyfer chwaraewyr pibgorn ym Môn a bod 200 ohonynt wedi dod ynghyd mewn digwyddiad o’r fath ar Fferm Castellior, ger Pentraeth, sy’n arwydd o apêl yr offeryn erbyn diwedd y ganrif.

Wrth i boblogrwydd y crwth edwino, croesawyd y feiolin glasurol gan gerddorion y traddodiad Cymreig. Dwy ffynhonnell werthfawr sy’n dyddio o’r 18g. yw’r casgliad llawysgrifol (1752) o waith y ffidlwr John Thomas (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llsgr. J. Lloyd Williams AH1/36) a llawysgrif Morris Edwards o Ynys Môn (llsgr. Bangor 2294, dyddiedig 1778), sy’n adlewyrchu chwaeth gerddorol y dydd a’r alawon a oedd yn gyffredin – rhai tebyg i ‘Lili ym mûsg y Drain’, ‘Dime gôch’, ‘Fflanti Too’, ‘Dadl dau’ ac ‘Ar hyd y nos’. Mabwysiadwyd y rhain yn y man gan delynorion a chasglyddion cerddoriaeth y delyn yng Nghymru trwy gyfoethogi’r gwead ac ychwanegu geiriau at rai ohonynt cyn eu cyhoeddi yng nghyfrolau’r 18g.

Ochr yn ochr â hyn, tyfodd poblogrwydd y delyn yn y 18g. trwy gyfrwng yr eisteddfod a defnyddiwyd yr offeryn fel cyfrwng cyfeiliant i ganu yn bennaf. Er bod cyfeiliannau ar gyfer y delyn a’r piano yn ymddangos yng nghasgliad cyhoeddedig Maria Jane Williams o ganeuon gwerin, Ancient National Airs of Gwent and Morganwg (Llanymddyfri, 1844), digon diddychymyg a digyfeiriad yw safon a chynnwys y cynnyrch offerynnol hwnnw.

Roedd diffyg addysg a hyfforddiant gerddorol ffurfiol yng Nghymru yn rhwystr i ddatblygiadau cerdd o sylwedd ond eto i gyd, ymddangosodd nifer o unawdau a chasgliadau o waith y telynor John Thomas (Pencerdd Gwalia), er enghraifft Welsh Melodies (1862) sy’n cyflwyno ceinciau Cymreig mewn arddull a diwyg Ewropeaidd-glasurol ei naws. Yn dilyn ei deithiau tramor i Ffrainc, Awstria, Tsiecoslofacia a’r Eidal (lle cyfarfu â rhai o brif gyfansoddwyr y dydd), lledodd yr ymwybyddiaeth o draddodiadau cerddorol y Cymry ynghyd â’i enw fel telynor mwyaf dawnus ei genhedlaeth.

Bu’r cynnydd syfrdanol ym mhoblogaeth de a gogledd-ddwyrain Cymru yn ystod y 19g. yn fodd i ymestyn y galw am gerddoriaeth o bob math, gan gynnwys cyngherddau, eisteddfodau, addysg a hyfforddiant cerddorol, cerddoriaeth gyhoeddedig ac ensemblau. Yn ystod teyrnasiad Victoria y sefydlwyd y bandiau pres cyntaf a gysylltwyd â’r gweithfeydd haearn a dur, glo a llechi, a thyfodd poblogrwydd yr harmoniwm yng nghyd-destun addoliad, ynghyd â’r organ bib fel modd i gyfeilio i ganiadaeth y cysegr, cymanfaoedd canu a pherfformiadau’r cymdeithasau corawl o weithiau fel Messiah (Handel) ac Elijah (Mendelssohn) a ddaeth mor gyffredin yn y cyfnod.

Mentrodd rhai cymunedau i gynnal perfformiadau o oratorios a chantatas y dydd i gyfeiliant bandiau pres (e.e. Band Cyfarthfa, Merthyr) ac yn raddol daeth ymweliadau gan gerddorfeydd clasurol o’r tu hwnt i’r ffin (o Lerpwl a Manceinion, Bryste a Chaerfaddon) yn fwy cyffredin yng ngogledd a deheudir Cymru. Erbyn canol y ganrif bu datblygu’r delyn bedal (arwaith sengl a dwbl) gan aelodau o deulu Erard yn Llundain yn fodd i gyflwyno offeryn mwy hyblyg a dibynadwy i’r traddodiad offerynnol yng Nghymru. Ni ddisodlwyd y delyn fach ‘farddol’ na’r delyn deires gromatig, ond bu dyfodiad y delyn bedal yn rheswm digonol i rai o delynorion proffesiynol y genedl newid eu techneg a’u repertoire yn gyfan gwbl. Y delyn bedal a cherddoriaeth fwy Ewropeaidd a chlasurol ei naws a aeth â bryd y mwyafrif o gerddorion mewn gwirionedd, er i rai barhau’n ffyddlon i’r delyn deires (e.e. John Roberts, Telynor Cymru).

Ar droad yr 20g. bu’r datblygiadau graddol ym myd addysg gerddorol yng Nghymru yn fodd i godi safonau perfformio offerynnol ac i ehangu’r diddordeb mewn offerynnau cerdd ar wahân i’r delyn. Yn dilyn sefydlu adrannau cerdd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth, Caerdydd a Bangor, ffurfiwyd triawdau piano (feiolin, soddgrwth a phiano) a phedwarawdau llinynnol (dwy feiolin, fiola a soddgrwth) a fu’n perfformio’n gyson yn y cymdogaethau hynny ond y cyflawnodd eu haelodau waith fel athrawon offerynnol teithiol yn ogystal.

Henry Walford Davies (1869-1941) a’r Cyngor Cerdd Cenedlaethol fu’r dylanwad pennaf ar y maes ac a fu’n gyfrwng i ledaenu’r diddordeb mewn offerynnau cerdd (offerynnau cerddorfaol yn bennaf). Pwysleisiwyd pwysigrwydd cerddoriaeth ym maes llafur ysgolion cynradd ac uwchradd ac yn y man penodwyd ymgynghorydd cerdd cenedlaethol yn ogystal ag arolygwyr cerdd sirol i oruchwylio’r datblygiadau arwyddocaol hyn (Allsobrook, 1992).

Yn eu sgil, sefydlwyd y ddarpariaeth offerynnol beripatetig gyntaf o’i bath ym Mhrydain a fu’n ysbrydoliaeth i’r gwaith o sefydlu Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru (y gerddorfa ieuenctid gyntaf yn y byd) yn 1946-7. Roedd bodolaeth ‘The National Orchestra of Wales’ (1928-31) (gw. Cerddorfeydd, Corau, Cerddorfeydd Ieuenctid ac Ensemblau) a cherddorfeydd y BBC yng Nghymru (o 1933 hyd at y presennol) yn gyfrwng i ysbrydoli’r genhedlaeth ifanc a’u hargyhoeddi o werth a phwysigrwydd cerddoriaeth offerynnol hefyd.

Yn yr un modd, bu’r cynnydd sylweddol yn nifer y sefydliadau cerdd Cymreig (e.e. Cyngor Celfyddydau Cymru, Yr Urdd er Hyrwyddo Cerddoriaeth yng Nghymru, Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, Urdd Gobaith Cymru, Coleg Cerdd a Drama Cymru, y BBC yng Nghymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru) yn allweddol i’r adfywiad a oedd ar droed bryd hynny. Trwy gyfrwng cerddorfeydd a bandiau pres yn y mwyafrif o siroedd Cymru o’r 1970au hyd yr 1990au, cafwyd cyfle arbennig i feithrin y doniau offerynnol ifanc a oedd yn ymddangos ar lwyfannau’r genedl. Mentrodd rhai ohonynt i golegau cerdd Llundain a Manceinion i fireinio eu crefft, ond dychwelodd eraill i ddiwallu’r angen am athrawon ac offerynwyr o safon yn ensemblau Caerdydd, Abertawe a’r gogledd.

Er mai ym maes cerddoriaeth offerynnol glasurol y Gorllewin y profwyd y dadeni amlycaf yn yr 20g., cafwyd hefyd gryn gynnydd a diddordeb ym maes cerddoriaeth draddodiadol offerynnol wedi’r 1960au. Yn sgil cyfraniad Nansi Richards (Telynores Maldwyn) i fyd y delyn deires, cododd to newydd o delynorion traddodiadol, yn unawdwyr fel Llio Rhydderch a Robin Huw Bowen ac yn offerynwyr mewn grwpiau gwerin (e.e. Dafydd a Gwyndaf Roberts yn Ar Log).

Bu’r galw am offerynnau traddodiadol yn ysgogiad i nifer o wneuthurwyr telynau teires (e.e. John Weston Thomas, Cas-blaidd, Sir Benfro) a gwneuthurwyr crythau (e.e. Robert Evans, Caerdydd) a phibgyrn (e.e. Jonathan Shorland) fynd ati, crefftwyr a oedd yn ymddiddori yn hanes a datblygiad yr offerynnau brodorol hyn yn ogystal â’r grefft o’u hatgynhyrchu a’u canu. Yn dilyn sefydlu Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru (Clera yn ddiweddarach) a trac a thrwy gyfrwng gweithdai, penwythnosau hyfforddi a’r Glerorfa (cerddorfa o offerynwyr traddodiadol), gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer yr offerynwyr a ymddiddorai yn y ceinciau a’r alawon gwerin.

Er bod dylanwad traddodiadau cerddorol Iwerddon yn amlwg yn yr 1990au a’r defnydd o’r mandolin, y gitâr, y bodhran, y bouzouki a’r chwisl dun yn lled gyffredin yng Nghymru, gwelir bod yr awydd i adfywhau offerynnau Cymreig y gorffennol - y ffidil, y delyn, y crwth a’r pibau - yn hawlio cryn sylw ymhlith cerddorion traddodiadol. Bu’r cynnydd yn nifer y clybiau gwerin, gwyliau gwerin (e.e. Gŵyl Werin Dolgellau) a sesiynau cyd-chwarae ledled Cymru, yn ogystal â pharodrwydd y cwmnïau darlledu (BBC Cymru ac S4C) a recordio (Recordiau Sain a Fflach Traddodiadol) i gyflwyno arlwy gerddorol eang yn gymorth i gefnogi’r maes ar drothwy’r 21g.

Wyn Thomas

Llyfryddiaeth

  • Cyfreithiau Hywel Dda (Llsg. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth MS 20143A)
  • Gottfried von Strassburg, Tristan: With the Surviving Fragments of the ‘Tristran of Thomas’ (Llundain, 1960)
  • Thurston Dart, ‘The Robert ap Huw Manuscript of Welsh Harp music (ca. 1613)’, The Galpin Society Journal, 21 (Mawrth, 1968), 52–65
  • Constance Bullock-Davies, Menstrellorum Multitudo (Caerdydd, 1978)
  • Ernest Roberts, John Roberts ‘Telynor Cymru’ (Dinbych, 1978)
  • Gwyn Thomas, Eisteddfodau Caerwys (Caerdydd, 1978)
  • Lewis Thorpe (gol.), Journey through Wales/The Description of Wales (Llundain, 1978)
  • Ann Rosser, Telyn a Thelynor: Hanes y delyn yng Nghymru 1700–1900 (Caerdydd, 1981)
  • Trevor Herbert, Bands: the brass band movement in the 19th and 20th centuries (Milton Keynes, 1991)
  • Gareth Williams, Valleys of Song: music and society in Wales 1840–1914 (Caerdydd, 1998)
  • Cass Meurig, Alawon John Thomas: a fiddler’s tune book from eighteenth-century Wales (Aberystwyth, 2004)
  • Wyn Thomas, Cerddoriaeth Draddodiadol yng Nghymru: Llyfryddiaeth (Llanrwst, 2006)
  • Sally Harper, Music in Welsh culture before 1650: a study of the principal sources (Aldershot, 2007)
  • Paul Whittaker, ‘Ffurfiau Harmonig yn Llawysgrif Robert ap Huw’, Hanes Cerddoriaeth Cymru, 7 (2007), 35–54.
  • Phyllis Kinney, Welsh Traditional Music (Caerdydd, 2011)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.