Categori:Ffilm a Theledu Cymru

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Ysgrifennu traethawd ar ffilm neu gyfres deledu Gymreig? Eisiau gwybod pwy oedd yn y gyfres honno a drafodwyd yn eich darlith? Mae'r casgliad Ffilm a Theledu yma i chi felly. Gyda manylion lu ar gyfer dros hanner cant o ffilmiau a rhaglenni Cymraeg a Saesneg, mae cofnodion yn cynnwys gwybodaeth am y cynhyrchiadau, eu cast a'u criw, yn ogystal â gwybodaeth gyfeiriol fel y gallwch ddarganfod yn hawdd lle i fynd i wneud ymchwil pellach am y ffilm neu gyfres.

Ar gyfer Con Passionate a Sleep Furiously ceir darnau dadansoddol gan arbennigwyr yn y maes a gobeithiwn ychwanegu rhagor o ysgrifau fel hyn yn y dyfodol. Gallwch hefyd ddarllen bywgraffiadau 18 o ffigyrau allweddol, o actorion i gynhyrchwyr, sydd wedi cael dylanwad ar fyd y cyfryngau gweledol yng Nghymru.

Ceir clipiau fideo o gyfweliadau a recordiwyd yn 2010 ar dudalennau Peter Edwards, Endaf Emlyn, John Hefin, Sue Jeffries, Paul Jones ac ar dudalennau'r ffilmiau a rhaglenni y gweithiodd y cynhyrchwyr a chyfarwyddwyr hyn arnyn nhw.

Crëwyd y casgliad hwn fel rhan o'r prosiect Yn y Ffrâm.